Luwc 18
18
1-8Efe á ddangosodd hefyd iddynt, drwy ddameg, y dylent barâu mewn gweddi, heb ddiffygio. Mewn rhyw ddinas, ebai efe, yr oedd barnwr, yr hwn nid ofnai Dduw, a ni pharchai ddyn. Ac yr oedd yn y ddinas hòno wraig weddw, yr hon á ddaeth ato ef, gàn ddywedyd, Gwna â mi gyfiawnder yn erbyn fy ngwrthwynebwr. Am amser efe á wrthodai; ond wedi hyny, efe á ymresymai fel hyn ag ef ei hun, Er nad ofnwyf Dduw, a na pharchwyf ddyn; eto, am fod y wraig hon yn fy mlino â’i thaerni, mi á farnaf ei hachos; rhag dyfod o honi yn barâus, a’m blino i. Ystyriwch, ebai yr Arglwydd, beth á benderfynodd y barnwr annghyfiawn. Ac oni ddial Duw ei etholedigion, y rhai á lefant arno ddydd a nos? A ymoeda efe yn eu hachos? Yr wyf yn sicrâu i chwi, y dial efe hwynt àr frys. Er hyny, pan ddel Mab y Dyn, á gaiff efe y gred hon àr y ddaiar?
9-14Yna gàn gyfarch rhai oedd yn hunandybied eu bod yn gyfiawn, ac yn diystyru ereill, efe á roddes yr angraifft hon: – Dau wr á aethant i fyny i’r deml i weddio; un yn Pharisëad, y llall yn dollwr. Y Pharisead gàn sefyll wrtho ei hun, á weddiodd fel hyn: – O Dduw, yr wyf yn diolch i ti nad wyf fi fel dynion ereill, yn gribddeilwyr, yn annghyfiawn, yn odinebwyr, neu hyd yn nod fel y tollwr hwn. Yr wyf yn ymprydio ddwywaith yn yr wythnos. Yr wyf yn degymu cymaint oll ag á feddwyf. Ond y tollwr gàn sefyll o hirbell, a heb feiddio cymaint a chodi ei olygon tua ’r nef, á gurodd ei ddwyfron, ac á lefodd, O Dduw bydd drugarog wrthyf fi bechadur. Yr wyf yn sicrâu i chwi fyned o hwn yn ol iddei dŷ, gwedi ei gymeradwyo yn fwy na’r llall; canys pwybynag á’i dyrchafo ei hun, á ostyngir; ond pwybynag á’i gostyngo ei hun, á ddyrchefir.
15-17Yna y cyflwynasant fabanod iddo, fel y cyfhyrddai efe â hwynt: y dysgyblion pan welsant, á’u ceryddasant hwy. Ond Iesu, gwedi eu galw hwynt ato, á ddywedodd, Gadewch i’r plant ddyfod ataf fi, a na waherddwch hwynt; canys eiddo y cyfryw rai yw teyrnas Duw. Yn wir, yr wyf yn dywedyd i chwi, Pwybynag ni dderbynio deyrnas Duw fel plentyn, nid â efe byth i fewn iddi.
18-23Yna rhyw lywodraethwr á ofynodd iddo, gàn ddywedyd, Athraw da, pa beth da á wnaf i gaffael bywyd tragwyddol? Iesu á atebodd, Paham ym gelwi yn dda? Duw yn unig sy dda. Ti á wyddost y gorchymynion; Na wna odineb; na lofruddia; na ladrata; na ddyro gamdystiolaeth; anrhydedda dy dad a’th fam. Yntau á atebodd, Y rhai hyn oll á gedwais o’m hieuenctyd. Wedi clywed hyn, Iesu á ddywedodd wrtho, Er hyny yr wyt ti mewn un peth yn ddiffygiol: gwerth yr hyn oll sy genyt, a rhàna i’r tylodion, a thi á gai drysor yn y nef; yna dyred a chanlyn fi. Pan glybu efe hyn, efe á aeth yn athrist; oblegid yr oedd efe yn gyfoethog iawn.
24-27Pan ganfu Iesu ei fod wedi myned yn athrist, efe á ddywedodd, Mòr anhawdd fydd i rai goludog fyned i fewn i deyrnas Duw! Haws yw i gamyll fyned drwy grai y nydwydd, nag i oludog fyned i fewn i deyrnas Duw. Y gwrandaẅwyr á ddywedasant, Pwy ynte á all fod yn gadwedig? Iesu á atebodd, Pethau annichon i ddynion, ydynt alledig i Dduw.
28-30Yna y dywedodd Pedr, Wele! nyni á adawsom bob peth, ac á’th ganlynasom di. Iesu á atebodd, Yn wir, yr wyf yn dywedyd i chwi, nid oes neb à adawo ei dŷ, neu ei rieni, neu ei frodyr, neu ei wraig, neu ei blant, èr mwyn teyrnas Duw; nas derbyn lawer cymaint yn ol, yn y byd hwn, ac yn yr hwn à ddaw, fywyd tragwyddol.
31-34Yna Iesu, gwedi cymeryd y deg a dau o’r neilldu, á ddywedodd wrthynt, Yr ydym yn awr yn myned i Gaersalem, lle y cyflawnir àr Fab y Dyn bob peth à ysgrifenwyd gàn y Proffwydi. Canys efe á draddodir i’r Cenedloedd, á watwarir, á anmherchir, ac á boerir arno. A gwedi ei fflangellu, hwy á’i lladdant ef; ac efe á gyfyd drachefn y trydydd dydd. Ond hwy ni ddeallasant ddim o’r pethau hyn; yr ymadrawdd hwn oedd dywyll iddynt; nid oeddynt yn amgyffred ei ysdyr.
35-43Pan ddaeth efe yn agos i Iericho, dyn dall, yr hwn á eisteddai yn ymyl y ffordd yn cardota, gwedi clywed y dyrfa yn myned heibio, á ofynodd pa beth oedd yn bod. Pan ddywedwyd wrtho mai Iesu y Nasarethiad oedd yn myned heibio, efe á lefodd yn y fàn, gàn ddywedyd, Iesu, mab Dafydd, tosturia wrthyf. Y rhai oedd yn myned o’r blaen á’i ceryddasant ef i dewi; eithr efe á lefodd yn fwy o lawer, Mab Dafydd, tosturia wrthyf. Iesu á safodd, ac á orchymynodd iddynt ei ddwyn ef ato. A phan ddaeth efe yn agos, efe á ofynodd iddo, gàn ddywedyd, Pa beth á fỳni di i mi ei wneuthur i ti? Yntau á atebodd, Feistr, rhoddi i mi fy ngolwg. Ac Iesu á ddywedodd wrtho, Cymer dy olwg; dy ffydd á’th iachâodd. Yn ebrwydd efe á gafodd ei olwg, ac á’i canlynodd ef, gàn ogoneddu Duw; a’r holl bobl pàn welsant, á roisant foliant i Dduw.
Nke Ahọpụtara Ugbu A:
Luwc 18: CJW
Mee ka ọ bụrụ isi
Kesaa
Mapịa
Ịchọrọ ka echekwaara gị ihe ndị gasị ị mere ka ha pụta ìhè ná ngwaọrụ gị niile? Debanye aha gị ma ọ bụ mee mbanye
Yr Oraclau Bywiol gan John Williams 1842. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.