Luwc 18:18-23
Luwc 18:18-23 CJW
Yna rhyw lywodraethwr á ofynodd iddo, gàn ddywedyd, Athraw da, pa beth da á wnaf i gaffael bywyd tragwyddol? Iesu á atebodd, Paham ym gelwi yn dda? Duw yn unig sy dda. Ti á wyddost y gorchymynion; Na wna odineb; na lofruddia; na ladrata; na ddyro gamdystiolaeth; anrhydedda dy dad a’th fam. Yntau á atebodd, Y rhai hyn oll á gedwais o’m hieuenctyd. Wedi clywed hyn, Iesu á ddywedodd wrtho, Er hyny yr wyt ti mewn un peth yn ddiffygiol: gwerth yr hyn oll sy genyt, a rhàna i’r tylodion, a thi á gai drysor yn y nef; yna dyred a chanlyn fi. Pan glybu efe hyn, efe á aeth yn athrist; oblegid yr oedd efe yn gyfoethog iawn.