Luwc 18:1-8
Luwc 18:1-8 CJW
Efe á ddangosodd hefyd iddynt, drwy ddameg, y dylent barâu mewn gweddi, heb ddiffygio. Mewn rhyw ddinas, ebai efe, yr oedd barnwr, yr hwn nid ofnai Dduw, a ni pharchai ddyn. Ac yr oedd yn y ddinas hòno wraig weddw, yr hon á ddaeth ato ef, gàn ddywedyd, Gwna â mi gyfiawnder yn erbyn fy ngwrthwynebwr. Am amser efe á wrthodai; ond wedi hyny, efe á ymresymai fel hyn ag ef ei hun, Er nad ofnwyf Dduw, a na pharchwyf ddyn; eto, am fod y wraig hon yn fy mlino â’i thaerni, mi á farnaf ei hachos; rhag dyfod o honi yn barâus, a’m blino i. Ystyriwch, ebai yr Arglwydd, beth á benderfynodd y barnwr annghyfiawn. Ac oni ddial Duw ei etholedigion, y rhai á lefant arno ddydd a nos? A ymoeda efe yn eu hachos? Yr wyf yn sicrâu i chwi, y dial efe hwynt àr frys. Er hyny, pan ddel Mab y Dyn, á gaiff efe y gred hon àr y ddaiar?