Ioan 7
7
PENNOD VII.
Iesu yn argyhoeddi rhyfyg a hyfder ei geraint: yn myned i wledd y pebyll: yn dysgu yn y deml. Amryw dyb am dano ef ym mhlith y bobl. Y Pharisai yn ddigllon am na ddaliasai eu swyddogion hwy ef; ac yn rhoddi sen i Nicodemus am gymmeryd ei blaid ef.
1A’R Iesu ar ol y pethau hyn a rodiodd yn Galilaia: canys nid oedd yn chwennych rhodio yn Iudaia, oblegyd bod yr Iudaion yn ceisio ei ladd ef. 2A gwledd yr Iudaion, sef gwledd y pebyll, oedd yn agos. 3Am hynny ei frodyr ef a ddywedasant wrtho, Cerdd i fynu oddi yma, a dos i Iudaia, fel y gwelo dy ddisgyblion dy weithredoedd di y rhai yr ydwyt yn eu gwneuthur. 4Canys nid oes neb yn gwneuthur dim yn ddirgel, ac yntau yn ceisio bod yn gyhoedd: os wyt ti yn gwneuthur y pethau hyn, amlyga dy hun i’r byd. 5Canys nid oedd ei frodyr yn credu ynddo. 6Yna yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Ni ddaeth fy amser i etto; ond eich amser chwi sydd yn wastad yn barod. 7Ni ddichon y byd eich casâu chwi: ond myfi y mae yn ei gasâu, o herwydd fy mod i yn tystiolaethu am dano, fod ei weithredoedd ef yn ddrwg. 8Ewch chwi i fynu i’r wledd hon: nid wyf fi etto yn myned i fynu i’r wledd hon, oblegyd ni chyflawnwyd fy amser i. 9Gwedi iddo ddywedyd y pethau hyn wrthynt, efe a arhosodd yn Galilaia. 10Ac wedi ei frodyr ef fyned i fynu, yna yntau hefyd a aeth i fynu i’r wledd; nid yn amlwg, ond megis yn ddirgel. 11Yna’r Iudaion a’i ceisiasant ef yn y wledd, ac a ddywedasant, Pa le y mae efe? 12A grwgnach mawr oedd am dano ef ym mysg y bobl. Canys rhai a ddywedent, Gwr da yw: ac eraill a ddywedent, Nag ê; eithr twyllo y bobl y mae. 13Er hynny ni lefarodd neb yn eglur am dano ef, rhag ofn yr Iudaion. 14Ac yr awrhon ynghylch canol y wledd yr Iesu a aeth i fynu i’r deml, ac a athrawiaethodd. 15A’r Iudaion a ryfeddasant, gan ddywedyd, Pa fodd y medr hwn ddysgeidiaeth, ac yntau heb ei ddysgu? 16Yr Iesu a attebodd iddynt, ac a ddywedodd, Fy nysgeidiaeth nid eiddof fi yw, eithr eiddo yr hwn a’m hanfonodd i. 17Os ewyllysia neb wneuthur ei ewyllys, efe a gaiff wybod am y ddysgeidiaeth, pa un ai o Dduw y mae hi, ai myfi o honof fy hun sydd yn llefaru. 18Y mae yr hwn sydd yn llefaru o hono ei hun, yn ceisio ei ogoniant ei hun: ond yr hwn sydd yn ceisio gogoniant yr hwn a’i hanfonodd, hwnnw sydd wir, ac anghyfiawnder nid oes ynddo. 19Oni roddes Moses i chwi y gyfraith, ac nid oes neb o honoch yn gwneuthur y gyfraith? Paham yr ydych yn ceisio fy lladd i? 20Y bobl a attebodd ac a ddywedodd, Y mae gennyt ti gythraul: pwy sydd yn ceisio dy ladd di? 21Yr Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Un weithred a wneuthum, ac yr ydych oll yn rhyfeddu. 22Am hynny y rhoddes Moses i chwi yr enwaediad (nid o herwydd ei fod o Moses, eithr o’r tadau) ac yr ydych yn enwâedu ar ddyn ar y sabbath. 23Os yw dyn yn derbyn enwaediad ar y sabbath, heb dorri cyfraith Moses; a ydych yn llidiog wrthyf fi, am i mi wneuthur dyn yn holliach ar y sabbath? 24Na fernwch wrth y golwg, eithr bernwch farn gyfiawn. 25Yna y dywedodd rhai o’r Ierosolymitaniaid, Onid hwn yw yr un y maent hwy yn ceisio ei ladd? 26Ac wele, y mae yn llefaru ar gyhoedd, ac nid ydynt yn dywedyd dim wrtho: a wybu y pennaethiaid mewn gwirionedd mai hwn yn wir yw y Christ. 27Eithr nyni a adwaenom hwn o ba le y mae: ond pan ddêl Christ, ni’s gwyr neb o ba le y mae. 28Am hynny yr Iesu, wrth athrawiaethu yn y deml, a lefodd ac a ddywedodd, Chwi a’m hadwaenoch i, ac a wyddoch o ba le yr ydwyf fi: ac ni ddaethum i o honof fy hun, eithr yr hwn a’m hanfonodd i sydd wir, yr hwn nid adwaenoch chwi. 29Ond myfi a’i hadwaen: oblegyd o hono ef yr ydwyf fi, ac efe a’m hanfonodd i. 30Am hynny hwy a geisiasant ei ddal ef: ond ni osododd neb law arno, am na ddaethai ei awr ef etto. 31A llawer o’r bobl a gredasant ynddo, ac a ddywedasant, Pan ddelo Christ, a wna efe fwy o arwyddion nâ’r rhai hyn a wnaeth hwn? 32Y Pharisai a glywsant fod y bobl yn grwgnach y pethau hyn am dano ef; a’r Pharisai a’r arch-offeiriaid a anfonasant rhingyllion i’w ddal ef. 33Am hynny y dywedodd yr Iesu wrthynt, Yr ydwyf fi ychydig amser etto gyd â chwi, ac yr wyf yn myned at yr hwn a’m hanfonodd. 34Chwi a’m ceisiwch, ac ni’m cewch: a lle yr ydwyf fi, ni ellwch chwi ddyfod. 35Yna y dywedodd yr Iudaion yn eu mysg eu hunain, I ba le y mae hwn ar fedr myned, fel na chaffom ni ef? ai at y rhai sydd ar wasgar ym mhlith y Groegiaid y mae efe ar fedr myned, a dysgu y Groegiaid? 36Pa ymadrodd yw hwn a ddywedodd efe, Chwi a’m ceisiwch, ac ni’m cewch: a lle yr ydwyf fi, ni ellwch chwi ddyfod? 37Ac ar y dydd diweddaf, y dydd mawr o’r wledd, y safodd yr Iesu, ac a lefodd, gan ddywedyd, Os oes ar neb syched, deued attaf fi, ac yfed. 38Yr hwn sydd yn credu ynof fi, megis y dywedodd yr ysgrythyr, afonydd o ddwfr bywiol a ddylifant o’i geudod ef. 39(A hyn a ddywedodd efe am yr Yspryd, yr hwn a gai y rhai a gredent ynddo ef ei dderbyn: canys etto nid oedd yr Yspryd Glân wedi ei roddi, o herwydd na ogoneddasid yr Iesu.) 40Am hynny llawer o’r bobl, wedi clywed yr ymadrodd hwn, a ddywedasant, Yn wir hwn yw y Prophwyd. 41Eraill a ddywedasant, Hwn yw Christ. Eraill a ddywedasant, Ai o Galilaia y daw Christ? 42Oni ddywedodd yr ysgrythyr, Mai o had Dafydd, ac o Bethlehem, y dref lle y bu Ddafydd, y mae Christ yn dyfod? 43Felly yr aeth rhannod ym mysg y bobl o’i blegyd ef. 44A rhai o honynt a fynnasent ei ddal ef: ond ni osododd neb ddwylaw arno. 45Yna y daeth y rhingyllion at yr arch-offeiriaid a’r Pharisai; a hwy a ddywedasant wrthynt hwy, Paham na ddygasoch chwi ef? 46A’r rhingyllion a attebasant, Ni lefarodd dyn erioed fel y dyn hwn. 47Yna y Pharisai a attebasant iddynt, A hudwyd chwithau hefyd? 48Pwy o’r pennaethiaid neu o’r Pharisai a gredodd ynddo? 49Eithr y bobl hyn, y rhai ni wyddant y gyfraith, ydynt felldigedig. 50Nicodemus (yr hwn a ddaethai at yr Iesu o hyd nos, ac oedd un o honynt) a ddywedodd wrthynt, 51A ydyw ein cyfraith ni yn barnu dyn, oddi eithr clywed ganddo ef yn gyntaf, a gwybod beth a wnaeth efe? 52Hwythau a attebasant ac a ddywedasant wrtho, A ydwyt tithau o Galilaia? Chwilia a gwel, na chododd prophwyd o Galilaia. 53A phob un a aeth i’w dŷ ei hun.
Nke Ahọpụtara Ugbu A:
Ioan 7: JJCN
Mee ka ọ bụrụ isi
Kesaa
Mapịa
Ịchọrọ ka echekwaara gị ihe ndị gasị ị mere ka ha pụta ìhè ná ngwaọrụ gị niile? Debanye aha gị ma ọ bụ mee mbanye
Y Cyfammod Newydd gan John Jones. Argraffwyd gan John Williams, Llundain 1808. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.