Psalmae 13
13
Psal. 13.
1PA hŷd i’m anghōfi Arglwydd?
ai’n dragywydd wethian?
Pa hŷd cuddi (eglurdeb)
rhagof dy wyneb eirian?
2Pa hŷd blinir fyng-halon,
gynghorion tra feddyliaf?
Pa hŷd y derchefir (gwŷn)
fyng-arw-elyn arnaf?
3Edrych, ō Arglwydd, a chlŷw
fi, fy nuw: goleua
Fy llygad, rhag imi bo
hūno yn angau dūa.
4Rhag doedyd o’m gelyn lais,
gorchfygais ef: o herwydd
Fyng-wrthneb-wyr llawenhānt
os llithant drāw fy sodlydd.
5Fy-’mddiried i’th drugaredd sydd,
fy llawenydd i’th iechyd:
I Dduw am synnio arnaf
cānaf, cānaf dragwydd-fyd.
Nke Ahọpụtara Ugbu A:
Psalmae 13: SC1603
Mee ka ọ bụrụ isi
Kesaa
Mapịa

Ịchọrọ ka echekwaara gị ihe ndị gasị ị mere ka ha pụta ìhè ná ngwaọrụ gị niile? Debanye aha gị ma ọ bụ mee mbanye
Cymdeithas y Beibl
Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2019, fel rhan o Brosiect Digideiddio Ysgrythurau Cymraeg.