Ioan 1
1
Pen. j.
Duwdap, dyndap, a’ swydd Iesu Christ. Testiolaelh Ioan. Galwedigaeth Andreas, Petr. &c.
Yr Euangel ar ddie Natalic Christ.
1YN y dechrae ydd oeð y Gair, a’r Gair oeð y gyd a Duw, a’r Gair hwnw oeð Duw. 2Hwn oedd yn y dechrae gyd a Duw. 3Oll a wnaethpwyt trwy ’r Gair hwnw, ac ebddaw ny wnaethpwyt dim a’r a wnaethpwyt. 4Ynddaw yð oedd #1:4 * bucheddbywyt, a’r bywyt oedd ’oleuni dynion. 5A’r goleuni a #1:5 ‡ lewychadywyn yn y tywyllwch, a’r tywyllwch nid oedd yn ei #1:5 * gynnwysamgyffred.
6Ydd oedd gwr a ddanvonesit y #1:6 ‡ wrthgan Dduw, a’ ei enw oedd Ioan. 7Hwn a ddaeth yn testiolaeth, y destiolaethu #1:7 * am yo’r goleuni, y n y chredent oll trwyddaw. 8Nyd efe oedd y goleuni hwnw, eithr e ddanfonesit y destiolaethu o’r goleuni. 9Hvvnvv oeð y gwir ’oleuni y sy yn goleuo pop dyn ’syn #1:9 ‡ a ddaethyn dyuot ir byd. 10Yn y byd ydd oedd ef, a’r byd a wnaethpwyt trwyddaw ef: a’r byd nyd adnabu ddim o hanaw. 11At yr ei‐’ddaw y hun y daeth, a’r ei‐’ddaw yhun ny ’s #1:11 * arfollesōtdderbynesont ef. 12A’ chynniuer aei derbyniesont ef, rhoes y‐ddwynt #1:12 ‡ veddiantvraint y vot yn veibion i Dduw, ’sef ir sawl a credant yn y Enw ef, 13yr ei a anet nyd o waed, nac o ewyllys y cnawd, na’c o ’wyllys gwr, eithr o Dduw. 14A’r Gair hvvnvv a wnaethpwyt yn gnawt, ac a drigiawð #1:14 * ynamyn ein plith, (a’ gwelsam ei ’ogoniant, vegis gogoniant vn ganedic vap yvvrth y Tad) yn l’awn’rat a’ gwirionedd. 15Ioan a testolaethei #1:15 ‡ o hanawam danaw, ac a lefei, gan ddywedyt, Hwn oedd yr vn y ddywedais am danaw, Hwn y ddaw ar v’ ol i, oedd #1:15 * om blaen ivlaenor i mi: can ys y vot yn gyntaf ei ragorvraint na mi. 16Ac oei gyflawnder ef yd erbyniesam bavvp oll, a ’rhat dros rat. 17Can ys y Ddeðyf a roet trwy Moysen, eithyr y Rat a’ gwirioneð #1:17 ‡ a ddaethys y trwy Iesu Christ. 18Ny welas nep Dduw er ioed: yr #1:18 * vnganedic vapvn‐Map‐geni, yr hwn ’sy ym‐monwes y Tat, hwnw ai #1:18 ‡ datcanawddamlygawdd ef i ni.
Yr Euangel y iiij. Sul yn yr Aduent.
19¶ A’ hyn yw testiolaeth Ioan, pan ddanvonent yr Iuðaeon Offeiriait a’ Levitae o Gaerusalem, y ofyn ’yddaw, Pwy ’n wyti? 20Ac ef a gyffesawdd, ac ny wadawdd, ac a addefawdd yn ddiledlef, Nid mi yw’r Christ. 21Yno y gofynesont iddaw, Beth yntef? Ai Elias yvv ti? Ac ef a ddyuot, Na’c #1:21 * wyfef. A’dyvvedent, Ai ’r Prophwyt yw ti? Ac ef a #1:21 ‡ atebawddwrthebawð, Na’c ef. 22Yno y dywedesont wrthaw, Pwy ’n wyt val y gallom ni roi atep ir ei a’n danvonawdd ni? beth dywedy am danad dyhun? 23Eb yr yntef, Mi yvv llef vn yn #1:23 llefain yn y diffaith, #1:23 † VnionwchCyweiriwch ffordd yr Arglwyð, mal y dyuot Esaias Prophwyt. 24A’r ei a ddanvonesit, oeðent o’r Pharisaiait. 25Ac wy a ’ovynesont iddaw, ac a ddywedesont wrthaw, Paam gan hyny y batyddy, anyd wyt’ y Christ, na’c Elias, na’r Prophwyt? 26Ioan ei hatebawdd, gan ddywedyt, Mi ’sy yn batyddio a dwfr: eithyr y mae vn yn sefyll yn eich plith, a’r nyd adwaenw‐chwi. 27Efe yw yr vn a ddaw ar v’ol i, #1:27 * oeddac a wnaed yn vlaenawr i mi, yr hwn mi nyd wy deilwng y #1:27 ‡ ellwugddatdod carrae y escit. 28Y pethae hyn a wnaethpwyt ym‐Bethabara y tuhwnt i Iorddanen, lle batyddiei Ioan.
29Tranoeth gwelet o Ioan yr Iesu yn dyuot ataw, a ’dywedyt, Wely yr Oen Duw yr hwn ’sy yn #1:29 * dileu, toddytynnu-ymaith pechotae ’r byt. 30Hwn yw ef am yr vn y ddywedais, A’r v’ol i y mae #1:30 ‡ vngwr yn dyuot yr hwn a wneithit yn vlaenawr rhagof: can vot ei ragorieth #1:30 * om blaen iyn gyntaf na mi. 31A’ mi nyd adwaenwn ef: eithyr mal yr amlygit ef ir Israel, am hyny y daythy‐mi, gan vatiðio a dwfr. 32Sef y testolaethei Ioan, gan ddywedyt, Ys gwelais yr Yspryt yn descend o’r nef megis colomben, ac hi a #1:32 ‡ yn arosa arosei arnaw. 33A’ mi nyd adnabum ef: eithr yr hwn am danvonawdd i vatydddio a dwfr, #1:33 * ef, y vo, hwnwy ef a ddyvot wrthyf, Ar yr hwn y gwelych yr Yspryt yn descend ac yn aros yn vvastat arnaw, hwnw yw’r vn ’sy yn batyddio #1:33 ‡ yn, drwya’r Yspryt glan. 34A’ mi a i gwelais ac a testolaethais mai hwn yw Map Duw.
35Tranoeth y safawdd Ioan, a’ dau o ei ddiscipulon: 36ac a edrychoð ar yr Iesu yn #1:36 * rhodiogorymðaith, ac a ddyuot, Wely yr oen Duw. 37Yno clybot o’r ðau ddiscipul ef yn ymadrodd, a’ #1:37 ‡ chanlyndilyn yr Iesu. 38A’r Iesu a droes, ac y gwelawdd hwy yn #1:38 * canlyndilyn, ac a edyuot, wrthwynt, Pa beth a geisiwch? A’ hwy a ddywedesont wrthaw Rabbi (yr hyn o ei ddeongl yw, Athro, p’le ðwyt yn trigio? 39Dywedawð wrthynt, Dewch, a’ gwelwch. Daethant, a’ gwelesant lle yr oedd ef yn trigiaw, ac aros a wnaethant y gyd ac ef y diernot hwnw: can ys ydd oedd hi yn‐cylch y ddecved awr. 40#1:40 ‡ AndroAndreas, brawt Simon Petr, oedd vn o’r ddau a glywsent y gan Ioan, ac y dilynesent ef. 41Hwn yma a gafas, y vrawt Simon yn gyntaf, ac a ddyuot wrthaw, Ys cawsam y Messias, yr hwn o ei ddeongl, yw y Christ. 42Ac y duc ef at yr Iesu. A’r Iesu a edrychawdd arnaw, ac a ddyuot, #1:42 * Ys ti SimonTi yw Simon vap Ioan: ti a elwir Cephas, yr vn wrth ddcongl yw #1:42 ‡ Petr, carec, oraicmaen.
43 # 1:43 * ne tradwy Tranoeth yr #1:43 ‡ ydd aiwyllesei ’r Iesu vyned i Galilaia, ac y cafas ef Philip, ac y dyuot wrthaw, Dilyn vi. 44A’ Philip oeð o Bethsaida, dinas Andreas ac Petr. 45Cahel o Philip Nathanael a’ dywedyt wrthaw, Ys cawsam hvvn yscrifennawdd Moysen o hanaw yn y Ddeddyf, ef, a’r Prophwyti, ’sef Iesu o Nazaret map Ioseph. 46Yno y dyuot Nathanael wrthaw, ’All dim da ddyvot o Nazaret? Dywedyt o Philip wrthaw, Dyred, #1:46 ‡ ac edrycha’ gwyl. 47Iesu a welas Nathanael yn dyvot ataw, ac a ddyuot, am dano, Wely, yn ddiau Israeliat, yn yr hwn ny d oes #1:47 * hocceddichell. 48Dywedei Nathanael wrtho, O b’le yr adnabuost vi? Yr Iesu atepawdd ac a ddyuot wrthaw, Cyn na galw o Philip dydi, pan oeddyt ’y dan y fficuspren, mi ith #1:48 ‡ welais, ganvumwelwn. 49Nathanael atepawdd, ac eb yr ef wrthaw, Rabbi, ti yw #1:49 * hwnw vap,yr Map Duw: ti yw yr Brenhin yr Israel. 50Iesu atepawdd ac a ddyuot wrthaw, Can ddywedyt o hanof y‐ty, Mi ath welais ydan y fficuspren, y credy? cai weled pethae mwy na ’rein. 51Ac ef a ddyuot wrthaw, Yn wir, yn wir dywedaf y‐chwy, #1:51 ‡ GwedyAr ol hyn y gwelwch y nef yn agoret, #1:51 * ara’r Angelon Duw yn escend, ac yn descend ar #1:51 ‡ Vapy Map y dyn.
Nke Ahọpụtara Ugbu A:
Ioan 1: SBY1567
Mee ka ọ bụrụ isi
Kesaa
Mapịa
Ịchọrọ ka echekwaara gị ihe ndị gasị ị mere ka ha pụta ìhè ná ngwaọrụ gị niile? Debanye aha gị ma ọ bụ mee mbanye
© Cymdeithas y Beibl 2018