Salmau 49
49
SALM 49
Tynged y cyfoethog
Trentham MB
1-3Clywch hyn, holl bobloedd byd,
Y tlawd a’r rhai mewn moeth.
Fe draethaf fi ddoethineb ddofn,
Myfyrdod calon ddoeth.
4-5Gwrandawaf gyngor Duw,
Datrysaf bos i chwi.
Paham yr ofnaf yn fy ing
Rai drwg sy’n f’erlid i?
6-7Ffydd yr erlidwyr hyn,
Ffydd yn eu cyfoeth yw;
Ond ni all neb ei brynu ei hun
Na thalu iawn i Dduw.
8-9Rhy uchel ydyw pris
Ei fywyd, ac ni fedd
Y modd i’w dalu, i gael byw
Am byth heb weld y bedd.
10-11Bydd farw’r doeth a’r dwl.
Rhennir eu heiddo i gyd;
Mewn pwt o fedd y trigant byth,
Er bod â thiroedd drud.
12-14aFe dderfydd pobl a’u rhwysg
Fel anifeiliaid ffôl.
Â’r ynfyd a’u canlynwyr oll
Fel defaid i Sheol.
14b-15Bugeilia angau hwy;
Darfyddant yn Sheol;
Ond fe fydd Duw’n fy mhrynu i,
A’m dwyn o’r bedd yn ôl.
16-17Na chenfigenna wrth
Gyfoethog yn ei dref.
Pan fo yn marw, nid â â dim
O’i gyfoeth gydag ef.
18-19Er iddo foli ei ffawd,
A derbyn clod di-fudd,
 at ei dadau, ac ni wêl
Byth mwy oleuni dydd.
20Nid erys neb yn hir
Mewn rhodres yn y byd.
Darfyddant, er eu balchder mawr,
Fel anifeiliaid mud.
Nke Ahọpụtara Ugbu A:
Salmau 49: SCN
Mee ka ọ bụrụ isi
Kesaa
Mapịa

Ịchọrọ ka echekwaara gị ihe ndị gasị ị mere ka ha pụta ìhè ná ngwaọrụ gị niile? Debanye aha gị ma ọ bụ mee mbanye
© Gwynn ap Gwilym 2008