Salmau 26
26
SALM 26
O Arglwydd, barna fi
Carlisle MB
1O Arglwydd, barna fi.
Rhodiais yn gywir iawn,
A rhois, heb ballu, ynot ti
Fy ymddiriedaeth lawn.
2-3Chwilia fy meddwl; rho
Brawf ar fy nghalon i.
Cadwaf fy nhrem, wrth rodio ymlaen,
Ar dy ffyddlondeb di.
4-5I’r diwerth ni bûm ffrind,
Nac i ragrithwyr gau;
Ni chedwais gwmni i rai drwg
Yr wyf yn eu casáu.
6-7Golchaf fy nwylo, cans
Dieuog ydwyf fi.
Canaf o gylch dy allor am
Dy ryfeddodau di.
8-9Caraf y tŷ lle’r wyt,
Lle mae d’ogonoiant drud.
Na chyfrif fi ymhlith y rhai
Sy’n pechu a lladd o hyd:
10-12Y rhai y mae’u llaw dde’n
Llawn llwgrwobrwyon brad,
Ond gwared fi, cans cywir wyf;
Bendithiaf di, O Dad.
Nke Ahọpụtara Ugbu A:
Salmau 26: SCN
Mee ka ọ bụrụ isi
Kesaa
Mapịa

Ịchọrọ ka echekwaara gị ihe ndị gasị ị mere ka ha pụta ìhè ná ngwaọrụ gị niile? Debanye aha gị ma ọ bụ mee mbanye
© Gwynn ap Gwilym 2008