Salmau 25
25
SALM 25
Arwain fi a dysg fi
Franconia 65.65.D
1-3Arglwydd, rwy’n dyrchafu
F’enaid atat ti.
Paid â chywilyddio
F’ymddiriedaeth i.
Nid i’r rhai sy â’u gobaith
Ynot ti, O Dad,
Y daw byth gywilydd,
Ond i rai llawn brad.
4-6Rho i mi wybodaeth,
Arglwydd, am dy ffyrdd.
Rho i mi hyfforddiant
Yn dy lwybrau fyrdd.
Arwain fi, a dysg fi.
Ti bob amser yw
Yr Un a ddisgwyliaf
I’m gwaredu, O Dduw.
7-9Cofia dy ffyddlondeb,
Sydd yn bod erioed.
Paid â chofio ’mhechod
Cyn im ddod i oed.
Da yw Duw ac uniawn.
Arwain wylaidd rai
A dysg bechaduriaid
Yn ei ffordd ddi-fai.
10-11Cariad a gwirionedd
Yw ei lwybrau i gyd
I’r rhai sydd yn cadw’i
Gyfraith ef o hyd.
Er mwyn d’enw, Arglwydd,
Maddau di yn awr
Imi fy holl gamwedd,
Sydd yn gamwedd mawr.
12-15Dysgi i’r sawl a’th ofna
Rodio llwybrau gwir.
Caiff ei blant ef hefyd
Etifeddu’r tir.
Rhoddi dy gyfeillach
Iddo i’w mwynhau.
Trof yn wastad atat:
Ti sy’n fy rhyddhau.
16-19Bydd drugarog wrthyf,
Canys yr wyf fi’n
Unig ac anghenus.
Dwg fi o’m gofid blin.
Gwêl fy ing, a maddau
Fy mhechodau gau.
Gwêl fy llu gelynion,
Sy’n fy llwyr gasáu.
20-22Paid â’m cywilyddio.
Cadw, gwared fi,
Canys rwy’n llochesu,
Arglwydd, ynot ti.
Yn d’uniondeb byddaf
Ddiogel tra bwyf byw.
Gwared o’i blinderau
Israel, O fy Nuw.
Nke Ahọpụtara Ugbu A:
Salmau 25: SCN
Mee ka ọ bụrụ isi
Kesaa
Mapịa

Ịchọrọ ka echekwaara gị ihe ndị gasị ị mere ka ha pụta ìhè ná ngwaọrụ gị niile? Debanye aha gị ma ọ bụ mee mbanye
© Gwynn ap Gwilym 2008