Luc 9

9
Cenhadaeth y Deuddeg
Mth. 10:5–15; Mc. 6:7–13
1Galwodd Iesu y Deuddeg ynghyd a rhoddodd iddynt nerth ac awdurdod i fwrw allan gythreuliaid o bob math ac i wella clefydau. 2Yna anfonodd hwy allan i gyhoeddi teyrnas Dduw ac i iacháu'r cleifion. 3Meddai wrthynt, “Peidiwch â chymryd dim ar gyfer y daith, na ffon na chod na bara nac arian, na bod â dau grys yr un. 4I ba dŷ bynnag yr ewch, arhoswch yno nes y byddwch yn ymadael â'r ardal; 5a phwy bynnag fydd yn gwrthod eich derbyn, ewch allan o'r dref honno ac ysgwyd ymaith y llwch oddi ar eich traed, yn rhybudd iddynt.” 6Aethant allan a theithio o bentref i bentref, gan gyhoeddi'r newydd da ac iacháu ym mhob man.
Pryder Herod
Mth. 14:1–12; Mc. 6:14–29
7Clywodd y Tywysog Herod am yr holl bethau oedd yn digwydd. Yr oedd mewn cyfyng-gyngor am fod rhai yn dweud fod Ioan wedi ei godi oddi wrth y meirw, 8ac eraill fod Elias wedi ymddangos, ac eraill wedyn fod un o'r hen broffwydi wedi atgyfodi. 9Ond meddai Herod, “Fe dorrais i ben Ioan; ond pwy yw hwn yr wyf yn clywed y fath bethau amdano?” Ac yr oedd yn ceisio cael ei weld ef.
Porthi'r Pum Mil
Mth. 14:13–21; Mc. 6:30–44; In. 6:1–14
10Dychwelodd yr apostolion a dywedasant wrth Iesu yr holl bethau yr oeddent wedi eu gwneud. Cymerodd hwy gydag ef ac encilio o'r neilltu i dref a elwir Bethsaida. 11Ond pan glywodd y tyrfaoedd hyn aethant ar ei ôl. Croesawodd ef hwy, a dechrau llefaru wrthynt am deyrnas Dduw ac iacháu'r rhai ag angen gwellhad arnynt. 12Yn awr yr oedd y dydd yn dechrau dirwyn i ben, a daeth y Deuddeg ato a dweud, “Gollwng y dyrfa, iddynt fynd i'r pentrefi a'r wlad o amgylch a chael llety a bwyd, oherwydd yr ydym mewn lle unig yma.” 13Meddai ef wrthynt, “Rhowch chwi rywbeth i'w fwyta iddynt.” Meddent hwy, “Nid oes gennym ddim ond pum torth a dau bysgodyn, heb inni fynd a phrynu bwyd i'r holl bobl hyn.” 14Yr oeddent ynghylch pum mil o wŷr. Ac meddai ef wrth ei ddisgyblion, “Parwch iddynt eistedd yn gwmnïoedd o ryw hanner cant yr un.” 15Gwnaethant felly, a pheri i bawb eistedd. 16Cymerodd yntau y pum torth a'r ddau bysgodyn, a chan edrych i fyny i'r nef fe'u bendithiodd, a'u torri, a'u rhoi i'w ddisgyblion i'w gosod gerbron y dyrfa. 17Bwytasant a chafodd pawb ddigon. A chodwyd deuddeg basgedaid o dameidiau o'r hyn oedd dros ben ganddynt.
Datganiad Pedr ynglŷn â Iesu
Mth. 16:13–20; Mc. 8:27–30
18Pan oedd Iesu'n gweddïo o'r neilltu yng nghwmni'r disgyblion, gofynnodd iddynt, “Pwy y mae'r tyrfaoedd yn dweud ydwyf fi?” 19Atebasant hwythau, “Mae rhai'n dweud Ioan Fedyddiwr, ac eraill Elias, ac eraill drachefn fod un o'r hen broffwydi wedi atgyfodi.” 20“A chwithau,” gofynnodd iddynt, “pwy meddwch chwi ydwyf fi?” Atebodd Pedr, “Meseia Duw.”
Iesu'n Rhagfynegi ei Farwolaeth a'i Atgyfodiad
Mth. 16:20–28; Mc. 8:30—9:1
21Rhybuddiodd ef hwy, a'u gwahardd rhag dweud hyn wrth neb. 22“Y mae'n rhaid i Fab y Dyn,” meddai, “ddioddef llawer a chael ei wrthod gan yr henuriaid a'r prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion, a'i ladd, a'r trydydd dydd ei gyfodi.” 23A dywedodd wrth bawb, “Os myn neb ddod ar fy ôl i, rhaid iddo ymwadu ag ef ei hun a chodi ei groes bob dydd a'm canlyn i. 24Oherwydd pwy bynnag a fyn gadw ei fywyd, fe'i cyll, ond pwy bynnag a gyll ei fywyd er fy mwyn i, fe'i ceidw. 25Pa elw a gaiff rhywun o ennill yr holl fyd a'i ddifetha neu ei fforffedu ei hun? 26Oherwydd pwy bynnag y bydd arnynt gywilydd ohonof fi ac o'm geiriau, bydd ar Fab y Dyn gywilydd ohonynt hwythau, pan ddaw yn ei ogoniant ef a'i Dad a'r angylion sanctaidd. 27Yn wir, rwy'n dweud wrthych, y mae rhai o'r sawl sy'n sefyll yma na phrofant flas marwolaeth nes iddynt weld teyrnas Dduw.”
Gweddnewidiad Iesu
Mth. 17:1–8; Mc. 9:2–8
28Ynghylch wyth diwrnod wedi iddo ddweud hyn, cymerodd Pedr ac Ioan ac Iago gydag ef a mynd i fyny'r mynydd i weddïo. 29Tra oedd ef yn gweddïo, newidiodd gwedd ei wyneb a disgleiriodd ei wisg yn llachar wyn. 30A dyma ddau ddyn yn ymddiddan ag ef; Moses ac Elias oeddent, 31wedi ymddangos mewn gogoniant ac yn siarad am ei ymadawiad, y weithred yr oedd i'w chyflawni yn Jerwsalem. 32Yr oedd Pedr a'r rhai oedd gydag ef wedi eu llethu gan gwsg; ond deffroesant a gweld ei ogoniant ef, a'r ddau ddyn oedd yn sefyll gydag ef. 33Wrth i'r rheini ymadael â Iesu, dywedodd Pedr wrtho, “Meistr, y mae'n dda ein bod ni yma; gwnawn dair pabell, un i ti ac un i Moses ac un i Elias.” Ni wyddai beth yr oedd yn ei ddweud. 34Tra oedd yn dweud hyn, daeth cwmwl a chysgodi drostynt, a chydiodd ofn ynddynt wrth iddynt fynd i mewn i'r cwmwl. 35Yna daeth llais o'r cwmwl yn dweud, “Hwn yw fy Mab, yr Etholedig; gwrandewch arno.” 36Ac wedi i'r llais lefaru cafwyd Iesu wrtho'i hun. A bu'r disgyblion yn ddistaw, heb ddweud wrth neb y pryd hwnnw am yr hyn yr oeddent wedi ei weld.
Iacháu Bachgen ag Ysbryd Aflan ynddo
Mth. 17:14–18; Mc. 9:14–27
37Trannoeth, wedi iddynt ddod i lawr o'r mynydd, daeth tyrfa fawr i'w gyfarfod. 38A dyma ddyn yn gweiddi o'r dyrfa, “Athro, rwy'n erfyn arnat edrych ar fy mab, gan mai ef yw fy unig fab. 39Y mae ysbryd yn gafael ynddo ac â bloedd sydyn yn ei gynhyrfu nes ei fod yn malu ewyn; ac y mae'n dal i'w ddirdynnu yn ddiollwng bron. 40Erfyniais ar dy ddisgyblion ei fwrw allan, ac ni allasant.” 41Atebodd Iesu, “O genhedlaeth ddi-ffydd a gwyrgam, pa hyd y byddaf gyda chwi ac yn eich goddef? Tyrd â'th fab yma.” 42Wrth iddo ddod ymlaen bwriodd y cythraul ef ar lawr a'i gynhyrfu; ond ceryddodd Iesu yr ysbryd aflan, ac iacháu'r plentyn a'i roi yn ôl i'w dad. 43Ac yr oedd pawb yn rhyfeddu at fawredd Duw.
Iesu Eilwaith yn Rhagfynegi ei Farwolaeth
Mth. 17:22–23; Mc. 9:30–32
A thra oedd pawb yn synnu at ei holl weithredoedd, meddai ef wrth ei ddisgyblion, 44“Clywch, a chofiwch chwi y geiriau hyn: y mae Mab y Dyn i'w draddodi i ddwylo pobl.” 45Ond nid oeddent yn deall yr ymadrodd hwn; yr oedd ei ystyr wedi ei guddio oddi wrthynt, fel nad oeddent yn ei ganfod, ac yr oedd arnynt ofn ei holi ynglŷn â'r ymadrodd hwn.
Pwy yw'r Mwyaf?
Mth. 18:1–5; Mc. 9:33–37
46Cododd trafodaeth yn eu plith, p'run ohonynt oedd y mwyaf. 47Ond gwyddai Iesu am feddyliau eu calonnau. Cymerodd blentyn, a'i osod wrth ei ochr, 48ac meddai wrthynt, “Pwy bynnag sy'n derbyn y plentyn hwn yn fy enw i, y mae'n fy nerbyn i; a phwy bynnag sy'n fy nerbyn i, y mae'n derbyn yr hwn a'm hanfonodd i. Oherwydd y lleiaf yn eich plith chwi oll, hwnnw sydd fawr.”
Y Sawl nad yw yn eich Erbyn, Drosoch Chwi y Mae
Mc. 9:38–40
49Atebodd Ioan, “Meistr, gwelsom un yn bwrw allan gythreuliaid yn dy enw di, a buom yn ei wahardd am nad yw'n dy ddilyn gyda ni.” 50Ond meddai Iesu wrtho, “Peidiwch â gwahardd, oherwydd y sawl nad yw yn eich erbyn, drosoch chwi y mae.”
Pentref yn Samaria yn Gwrthod Derbyn Iesu
51Pan oedd y dyddiau cyn ei gymryd i fyny yn dirwyn i ben, troes ef ei wyneb i fynd i Jerwsalem, 52ac anfonodd allan negesyddion o'i flaen. Cychwynasant, a mynd i mewn i bentref yn Samaria i baratoi ar ei gyfer. 53Ond gwrthododd y bobl ei dderbyn am ei fod ar ei ffordd i Jerwsalem. 54Pan welodd ei ddisgyblion, Iago ac Ioan, hyn, meddent, “Arglwydd, a fynni di inni alw tân i lawr o'r nef a'u dinistrio?#9:54 Yn ôl darlleniad arall ychwanegir fel y gwnaeth Elias.55Ond troes ef a'u ceryddu.#9:55 Yn ôl darlleniad arall ychwanegir “Ni wyddoch,” meddai, “o ba ysbryd yr ydych. 56 Oherwydd ni ddaeth Mab y Dyn i ddinistrio bywydau pobl ond i'w hachub.” 56Ac aethant i bentref arall.
Rhai yn Dymuno Canlyn Iesu
Mth. 8:19–22
57Pan oeddent ar y ffordd yn teithio, meddai rhywun wrtho, “Canlynaf di lle bynnag yr ei.” 58Meddai Iesu wrtho, “Y mae gan y llwynogod ffeuau, a chan adar yr awyr nythod, ond gan Fab y Dyn nid oes lle i roi ei ben i lawr.” 59Ac meddai wrth un arall, “Canlyn fi.” Meddai yntau, “Arglwydd, caniatâ imi yn gyntaf fynd a chladdu fy nhad.” 60Ond meddai ef wrtho, “Gad i'r meirw gladdu eu meirw eu hunain; dos di a chyhoedda deyrnas Dduw.” 61Ac meddai un arall, “Canlynaf di, Arglwydd; ond yn gyntaf caniatâ imi ffarwelio â'm teulu.” 62Ond meddai Iesu wrtho, “Nid yw'r sawl a osododd ei law ar yr aradr, ac sy'n edrych yn ôl, yn addas i deyrnas Dduw.”

Pilihan Saat Ini:

Luc 9: BCND

Sorotan

Berbagi

Salin

None

Ingin menyimpan sorotan di semua perangkat Anda? Daftar atau masuk