Dëallwch chwi, gàn hyny, ddameg yr heuwr. Pan glywo un athrawiaeth y Teyrnasiad, a heb ei hystyried, y mae yr un drwg yn dyfod, ac yn cipio ymaith yr hyn à heuwyd yn ei galon ef. Hyn á eglura y peth à syrthiodd àr fin y ffordd. Y peth à syrthiodd àr dir creigiog, á ddynoda y sawl, wrth glywed y gair, a’i derbynia àr y cyntaf gyda hyfrydwch; eto gàn nad yw gwedi ei wreiddio yn ei feddwl ef, nid yw yn ei ddal ond dros ychydig; canys pan ddel blinder neu erlidigaeth, o achos y gair, yn y fàn efe á adgwympa. Y peth à syrthiodd yn mysg drain, á ddynoda y gwrandaẅwr hwnw, yn yr hwn y mae gofalon bydol, a golud twyllodrus, yn tagu y gair, ac yn ei wneuthur yn anffrwythlawn. Ond y peth à syrthiodd i dir da, ac á ddyg ffrwyth, peth ar ei gannfed, arall àr ei driugeinfed, arall àr ei ddegfed àr ugain, á ddynoda yr hwn, nid yn unig sydd yn clywed ac yn ystyried y gair, ond yn ufyddâu iddo.