Matthew Lefi 13:24-30

Matthew Lefi 13:24-30 CJW

Dameg arall á osododd efe iddynt, gàn ddywedyd, Gellir cymharu teyrnas y nefoedd i faes, yn yr hwn yr heuasai y perchenog rawn da; ond tra yr oedd pobl yn cysgu, ei elyn á ddaeth, ac á heuodd ler yn mhlith y gwenith, ac á aeth ymaith. Wedi i’r eginyn dyfu, ac i’r dwysen ddyfod allan, yna yr ymddangosodd y ller hefyd. A’r gweision á ddaethant, ac á ddywedasant wrth eu meistr, Syr, ti á heuaist rawn da yn dy faes; o ba le gan hyny, y mae y ller ynddo? Yntau á atebodd, Gelyn á wnaeth hyn. Hwythau á ddywedasant, A fyni di gàn hyny i ni eu chwŷnu hwynt allan? Yntau á atebodd, Na fýnaf; rhag i chwi, wrth chwýnu allan y ller, ddiwreiddio y gwenith hefyd. Gadewch i’r ddau gyd‐dyfu hyd y cynauaf; ac yn amser cynauaf, dywedaf wrth y medelwyr, cesglwch yn gyntaf y ller, a gwnewch hwynt yn sypiau iddeu llosgi; yna cesglwch y gwenith i’m hysgubor.