Iöb 15

15
XV.
1Yna yr attebod Eliphaz y Temaniad a dywedodd,
2Ai un doeth a ettyb â gwybodaeth wỳntawg,
# 15:2 i arwyddocâu fod geiriau Iöb yn niweidiol ac yn wenwynllyd. Ac a leinw ei fòl â ’r #15:2 r Y gwyntoedd niweidiol, a elwir sam, samum, samiel, a deimlir yn benaf yn y parth rhwng Basra, Bagdad, Haleb, a Mecca. Y mae ’n debyg mai’r achos eu bod mor wenwynig yw, eu bod yn myned dros yr anialwch tywodlyd pan wedi ei boethi gan belydrau tanbeidiol yr haul.dwyreinwỳnt?
3Ymresymmu â gair ni fuddia;
Ac ymadroddion, nid oes lleshâd ynddynt.
4 # 15:4 ei eiriau yn waeth byth na gwỳntawg. Ond tydi wyt yn diddymmu ofn (yr Arglwydd,)
Ac yn dwyn ymaith fyfyrio ger bron Duw.
5Dïau, hyspysu dy anwiredd y mae dy eiriau di,
Er dewis o honot dafod y celfydd;
6Dy fwrw yn euog y mae dy eiriau di, ac nid myfi,
A’th wefusau di sy’n tystiolaethu yn dy erbyn.
7 # 15:7 o blegid ei fod wedi sôn am ei wybodaeth 12:2, 3. 13:2. Ai yn gyntaf daearolyn y’th aned di,
# Gwel Diarheb. 8:24, 25. Ac o flaen y bryniau y’th luniwyd?
8Ai ynghyfrinach Duw yr oeddit yn gwrando,
Ac y priodolaist i’th dy hun ddoethineb?
9Beth a wyddost ti ac nid ydym ni yn ei wybod,
(Ac) a ddealli di ac nid yw’r unrhyw gennym ninnau?
10Hefyd y penllwyd, hefyd yr oedrannus (sydd) yn ein mysg ni,
# 15:10 cyf: at 12:12. a 13:1 Hŷn nâ’th dad di o ran dyddiau.
11 # 15:11 cyf: at 5:17. a 13:4, 5. ac fel ped faent hwy yn cynnrychioli Duw. Ai rhy fychan i ti ddiddanwch Duw,
Ac ymddiddan addfwyn â thi?
12Pa beth sy’n dwyn ymaith dy feddwl i ti,
Ac i ba beth yr #15:12 arwydd difaterwch a balchder.ysmicia dy lygaid,
13Fel yn erbyn Duw y tröit dy anadl,
Ac y dygit allan o’th enau ymadroddion?
14Pa beth (yw) adyn fel y byddai yn lân,
Ac yr ymgyfiawnhâai un ganedig o ddynes?
15Wele, yn Ei rai #15:15 Ei weinidogion, angylion, 4:18.Sanctaidd nid ymddiried Efe,
A’r #15:15 h. y. trigolion y Nef.Nefoedd nid ydynt lân yn Ei olwg Ef;
16 # 15:16 awydd dyn am bechod Llawer mwy, ffiaidd a llygredig yw
Dyn sy’n yfed drygioni fel dwfr.
17Cyfarwyddaf di, gwrando arnaf,
A’r hyn a brofais, mi a’i mynegaf,
18Yr hyn ag y bu i’r doethion ei fynegi,
Ac heb encudd, oddi wrth eu tadau,
19I’r rhai, yn unig, y rhoddwyd y ddaear,
Ac na thramwyodd estron i’w plith;
20(Sef) holl ddyddiau yr annuwiol, y mae efe yn ymofidio,
A (holl) rifedi ’r blynyddoedd a’r a benderfynwyd i’r treisiol;
21Swn dychryniadau (sydd) yn ei glustiau ef,
Yn (amser) heddwch y dinystrydd sy’n dyfod arno;
22 # 15:22 diobaith am wynfyd Ni chrêd efe y dychwel allan o dywyllwch,
Wedi ei ethol y mae efe i’r cleddyf;
23Crwydro a wna efe am fara — #15:23 nis gŵyr hynnyi ba le?
Fe ŵyr mai parod, yn ei law, (yw) dydd tywyllwch;
24Ei frawychu ef y mae cystudd a chyfyngdra,
Ei orthrymmu ef y maent hwy fel brenhin parod i derfysg rhyfel;
25Am iddo estyn ei law yn erbyn Duw,
Ac yn erbyn yr Hollalluog ymfawrygu;
26 # 15:26 fel rhyfelwr dewr a hyderus. Am iddo redeg yn Ei erbyn Ef yn warsyth,
Gyda thewder torrau ei dariannau;
27Am iddo doi ei wyneb â’i frasder,
A gwneuthur bloneg ar ei denewynau:
28Efe a drig mewn dinasoedd dinystriedig,
(Mewn) tai nad oes neb yn preswylio ynddynt,
# 15:28 fel Iericho. Y rhai a ddarparwyd i fod yn garneddau:
29Ni chaiff fod yn gyfoethog, ac ni saif ei olud ef,
Nid #15:29 fel canghennau pren llawn o ffrwyth.ymestyn ei feddiant ef at y ddaear;
30Nid ymedy efe allan o’r tywyllwch,
— Ei ysgewyll ef a wywa poethni —
Ond efe a ymedy trwy anadl Ei enau Ef:
31Nac ymddirieded efe mewn #15:31 gogoniant, golud &c.oferedd, — y twylledig —
Canys #15:31 gwagderoferedd a fydd ei atdaliad ef.
32Pan nad yw (etto) ei hamser, y cyfleinw #15:32 sef, ei gangen =ei deulu a wywa.hi (ei dyddiau),
Ei gangen ef ni wyrddlasa;
33 # 15:33 fe gyll ei blant ac ni bydd mwyach obaith cynnydd. Efe#15:33 Ymresymmiad Eliphaz yw hyn, sef — Y balch annuwiol (yr hwn a ddisgrifir yn adn. 25, 26, 27), a ddioddef y pethau a ddarlunir o’r 20fed hyd at y 33ain adnod, (oddigerth adnodau 25, 26, 27), — ac am mai amlwg ydoedd i Iöb ei hun, yn gystal ag i eraill, ei fod ef yn dioddef y fath bethau, y canlyniad yw, fod Iöb yn un o’r cyfryw feilchion annuwiol. a ddihidla, fel gwinwŷdden, ei rawn anaddfed,
Ac a fwrw, fel olewŷdden, ei flodeuyn,
34Canys #15:34 meddiannau, teulu &c.cynnullaid yr annuwiol a â yn ddiffrwyth-dawd,
A thân a fwytty bebyll ariandag:
35 # 15:35 fel yr hauo ’r drygionus, felly y mêd efe. Ymddwyn blinder, ac esgor ar wagedd!
A’u bôl a grëa dwyll.

Jelenleg kiválasztva:

Iöb 15: CTB

Kiemelés

Megosztás

Másolás

None

Szeretnéd, hogy a kiemeléseid minden eszközödön megjelenjenek? Regisztrálj vagy jelentkezz be