Iöb 14
14
XIV.
1 # 14:1 peth egwan deilliedig o beth egwan. Daearolyn ganedig o ddynes,
Bỳr o ddyddiau a gorlawn o helbul,
2Fel blodeuyn, blaguro y mae efe — ac yn gwywo,
Ac yn myneb heibio fel cysgod, ac nid erys:
3Dïau, ar hyn (o beth) yr agoraist Dy lygaid,
Ië, myfi a ddygaist Di i farn gyda Thi.
4O na roddid un glân allan o’r aflan!
Nid (oes) yr un (felly)!
5 # 14:5 ymwybodawl yw fod halogrwydd ei anian, a phechodau ei ieuengctid (13:26) yn haeddu llid Duw. O herwydd mai rhagderfynedig (yw) ei ddyddiau,
Bod rhifedi ei fisoedd gyda Thi,
A’i derfynau a osodaist ac na chaiff efe fyned trostynt,
6Tro Dy lygad oddi arno fel y gorphwyso,
Ac y caffo, fel cyflogwas, hyfrydwch ei ddydd:
7Canys y mae gan bren obaith,
Os torrir ef efe etto a adflagura,
A’i ysgewyllen ni pheidia;
8Os heneiddio yn y ddaear a wna ei wreiddyn,
Ac yn y llwch y marweiddia ei foncyff,
9Oddi wrth arogl y dyfroedd y blodeua efe,
Ac y bwrw ganghennau fel planhigyn.
10Ond gwr sy’n marw ac a orchreinir;
Ac fe drenga dyn, — a pha le (y mae efe)?
11Fe rêd dyfroedd allan o lỳn,
# 14:11 ni welir mo’r dyfroedd mwyach A’r afon a ddihyspyddir ac a sycha;
12Felly dyn a orwedd ac ni chyfyd,
Hyd na (bydd) nefoedd ni ddihunant #14:12 sef dynolrywhwy
Ac ni ddeffröant o’u cwsg.
13O nad yn annwn y’m cuddit,
Y’m celit, nes troi Dy lid ymaith,
Y gosodit i mi derfyn, ac y’m cofit!
14Os trenga gwr, a fydd efe byw#14:14 “Amryw genhedloedd yn y dwyrain, ac yn enwedig yr Arabiaid, yn gystal a’r Aiphtiaid yn Affrica, a gredent yn nyddiau Iöb, y byddai i’r meirw esgyn o’u beddau ar ol yspaid o amser, a byw eilwaith ar y ddaear hon. Iöb a ymwrthodai â’r gred hon, ond nid â ’r gobaith o fywyd tragywyddol. Pareau, Com. de immortalitatis notitiis.” Rosenmüller. eilwaith?
# 14:14 ped fai yn wir y byddai i mi fyw eilwaith ar y ddaear hon, mi a ddioddefwn fy nghystudd mewn gobaith o’r cyfnewidiad hwnnw. (Os felly) holl ddyddiau fy milwriaeth mi a obeithiwn
Hyd oni ddeuai fy nghyfnewidiad.
15 # 14:15 Erfyn y mae efe am i Dduw, yn Ei dosturi, ei alw i’r llys fel y barner ei achos. Galw Di, a mi a’th attebaf;
Wrth waith Dy ddwylaw tyner-ymdeimla!
16Canys, yn awr, fy nghamrau yr wyt yn eu rhifo,
Ac onid wyt yn gwylied ar fy mhechod?
17Seliwyd fy nghamwedd mewn #14:17 Gwel Deut. 32:34 anwiredd ei ieuengctid wedi ei roddi i gadw, fel arian, gan Dduw, er mwyn ei ddwyn allan yn awr.côd,
A gwniaist i fynu fy anwiredd!
18Ac, yn ddïau, #14:18 pob peth arall yn darfod, a dyn hefyd.mynydd gan syrthio sy’n diflannu,
A chraig a symmudir o’i lle;
19Cerrig a dreulia dyfroedd,
Eu llifeiriant sy’n golchi ymaith lwch y ddaear;
Felly gobaith adyn yr wyt Ti yn ei ddistrywio:
20Ymosod arno yr wyt beunydd, ac efe a ymedy,
Gan newidio ei wyneb Ti a’i #14:20 sef, i’r bedd.danfoni ymaith:
21 # 14:21 pan fo wedi marw Anrhydeddir ei feibion — ond ni wybydd efe (hynny,)
Neu hwy a ostyngir — ond ni ddeall efe ddim am danynt;
22 # 14:22 y pryfed yn ei fwytta. Yn unig am dano ef ei hun ei gnawd a ddoluria,
A’i enaid am dano ef ei hun a alara.
Jelenleg kiválasztva:
Iöb 14: CTB
Kiemelés
Megosztás
Másolás
Szeretnéd, hogy a kiemeléseid minden eszközödön megjelenjenek? Regisztrálj vagy jelentkezz be
Cyfieithiad Briscoe 1894. Cynhyrchwyd y casgliad digidol hwn gan Gymdeithas y Beibl yn 2020-21.