Salmau 84

84
SALM LXXXIV
HIRAETH AM Y CYSEGR.
‘O Lyfr Canu’r Pencerdd. Salm y Corachiaid’.
I’w chanu ar y dôn “Gath”.
1Mor annwyl yw Dy bebyll Di,
Iehofa’r Lluoedd!
2Am gynteddau Iehofa yr wyf yn hiraethu,
Ac yn dihoeni;
Calon a chnawd sy’n bloeddio cân
I Dduw fy mywyd.
3Cartref sydd i aderyn, a nyth gan wennol
Lle gesyd ei chywion:
Dy allor fawr Di yw fy nghartref innau,
O Iehofa’r Lluoedd, fy Mrenin a’m Duw.
4 O mor hapus yw preswylwyr Dy dŷ,
Moliannant Di yn wastad.
5O mor hapus yw’r gŵr sydd a’i gadernid ynot Ti,
A ffyrdd y pererinion yn ei galon.
6Yfant o ffynhonnau wrth dramwy trwy Ddyffryn Bacha,
Y cynnar law a’i gorchuddia â bendithion.
7Ânt o un lle cadarn i’r llall
Nes gweld Duw yn Sion.
8 O Iehofa, Duw’r Lluoedd, clyw fy ngweddi;
Gwrando, O Dduw Iacob.
9Gwêl, O Dduw, ein tarian,
Ac edrych ar wyneb Dy eneiniog.
10Yn wir, gwell yw un diwrnod yn
Dy gynteddau Di Na mil yn fy ystafell fy hun:
Gwell gennyf sefyll ar riniog tŷ fy Nuw
Na thrigo mewn plasau gwych.
11Canys haul a tharian yw Duw Iehofa;
Gras a gogoniant yw rhoddion Iehofa.
Ni atal ddim daioni rhag y gŵr
Sydd a’i rodiad yn union.
12 O Iehofa’r Lluoedd, mor hapus yw’r gŵr
A ymddiried ynot Ti.
salm lxxxiv
Un o Salmau’r Pererinion. Y mae’r Deml heb ei dinistrio a brenin yn teyrnasu yn Ieriwsalem (adn. 9). Yr un yw ei hawdur ag awdur Salm 42 a 43, a cheir yn y ddwy Salm yr un cariad angerddol at y Deml a’i haddoliad, a llawer nodyn cyffelyb arall mewn iaith a mesur a syniadau.
Nodiadau
1—4. Calon a chnawd, y dyn oddi mewn a’r dyn oddi allan, h.y. yr holl ddyn. Bu adnod 3 yn boen i esbonwyr erioed, ac y mae’n amlwg fod brawddeg wedi mynd ar goll, a dyfalwn mai rhyw frawddeg fel “fy nghartref innau” oedd honno. Ni ellir meddwl am adar yn nythu ar doeau’r Deml, ac yn sicr ni nythent yn ymyl yr allor. Y mae’r pererin yn cofio am y wenoliaid a welodd yng nghynteddau’r Deml, fel y mae llawer pererin yn cofio am danynt yng nghynteddau Mosg Omar heddiw, a’r hyn oedd eu nythod iddynt hwy ydyw allor Duw iddo yntau, mangre gorffwys a llawenydd. Defnyddir y lluosog ‘allorau’ i olygu allor fawr neu ardderchog neu santaidd.
5—8. Yma dywed yr awdur beth o brofiad y pererinion. Y mae’n anodd cael ystyr i ail ran adn. 5, “priffyrdd yn eu calon” yw’r cyfieithiad manwl, cyfeiriad at y gwŷr a esyd eu meddwl ar gadw’n ddiesgeulus y prif wyliau yn Ieriwsalem.
Ystyr Bacha ydyw y pren balsam a dyf yn unig mewn crindir cras. Y mae gair tebyg iddo yn golygu ‘wylofain’. Efallai fod dyffryn o’r enw hwn ar daith y pererinion i Ieriwsalem. Beth bynnag fo’r ystyr fanwl, dymuno mynegi daioni Duw i’r pererinion a’i cais Ef a wna’r Salmydd, Ef sy’n troi y sychdir yn dir ffynhonnau a adfer eu henaid.
Ar y daith i’w gwyliau â’r pererinion o un ddinas gaerog i’r llall, neu o un tŵr i’r llall yn y ddinas santaidd. Gweld Duw yn Sion ydyw amcan a choron y bererindod. Atgas gan ddiwinyddion oes ddiweddarach oedd sôn am ‘edrych ar Dduw’ a newidiwyd y frawddeg i ‘ymddangos ger bron Duw’.
9—12. Cyfystyr ydyw “ein tarian” â “Dy eneiniog” yn adn. 12, a’r brenin sy’n teyrnasu yn Ieriwsalem a feddylir.
Yn adn. 10 ‘gwell yw diwrnod yn Dy gynteddau na mil y tu allan iddynt’ yw’r ystyr yn ôl rhai, ond y newid lleiaf a ddyry’r darlleniad campus “na mil yn fy ystafell fy hun”.
Yma yn unig yn adn. 11 y cyffelybir Duw i’r haul. Efallai mai cyfeiriad sydd yma at haul-addoliad, ond peth hapus yw cysylltu tarian a haul — y darian yn amddiffyn a’r haul yn rhoddi goleuni i weld holl symudiadau’r gelynion.
Pynciau i’w Trafod:
1. A fuasech yn galw crefydd y Salmydd hwn yn grefydd ysbrydol iawn? Onid ar y Deml, — yr adeilad ac allanolion y gwasanaeth yno y dyry bwys?
2. A oes gwerth mewn pererindodau crefyddol? A fuasai pererindodau i Ilston, Llanfaches, Trefeca, etc. yn rhoi rhyw fudd i ni heddiw?
3. Ystyriwch y gafael oedd gan y Deml ar yr Iddew yng ngoleuni adn. 10. A ydyw’r cysegr yn ganolfan i’n bywyd ni heddiw fel y bu gynt?
4. A gollodd cenedl y Cymry rywbeth pan beidiodd y Cysegr â bod yn ganolfan i’w bywyd hi?

Chwazi Kounye ya:

Salmau 84: SLV

Pati Souliye

Pataje

Kopye

None

Ou vle gen souliye ou yo sere sou tout aparèy ou yo? Enskri oswa konekte