Salmau 80

80
SALM LXXX
GWINWYDDEN YR ARGLWYDD
‘O Lyfr Canu’r Pencerdd. Salm Asaff’.
I’w chanu ar y dôn “Lili’r Gyfraith”.
1Gwrando, O Fugail Israel, Sy’n arwain Ioseff fel praidd;
Llewyrcha o’th gadair rhwng y ceriwbiaid.
2O flaen Ephraim, Manase a Beniamin,
Deffro Dy gadarn allu, a thyred i’n cynorthwyo.
3 O Arglwydd Dduw y Lluoedd, rho eto lwyddiant i ni;
Edrych yn ffafriol arnom fel y caffom ymwared.
4O Arglwydd Dduw y Lluoedd, pa hyd y pery Dy soriant?
Ai diystyr gennyt weddi Dy bobl?
5Porthaist ni â bara dagrau,
Diodaist ni â mesur mawr o ddagrau.
6Gosodaist ni’n ysgorn i’n cymdogion,
Ac yn gyff gwawd i’n gelynion.
7 O Arglwydd Dduw y Lluoedd, rho eto lwyddiant i ni;
Edrych yn ffafriol arnom fel y caffom ymwared.
8Dygaist winwydden o’r Aifft;
Bwriaist genhedloedd allan a phlennaist hi;
9A gwreiddiodd hithau yn y pridd a baratoaist iddi,
A llanwodd yr holl dir.
10Gorchuddiwyd y mynyddoedd gan ei chysgod,
A chedrwydd Duw gan ei brigau.
O Arglwydd Dduw y Lluoedd, rho eto lwyddiant i ni;
Edrych yn ffafriol arnom fel y caffom ymwared.
11Gyrrodd ei changhennau hyd y môr,
A’i blagur hyd Euphrates.
12Paham y drylliaist ei chloddiau hi,
Fel y sathro pob teithiwr hi?
13Y baedd sy’n ei chnoi hi,
A bwystfil y maes yn ei hysu.
O Arglwydd Dduw y Lluoedd, rho eto lwyddiant i ni;
Edrych yn ffafriol arnom fel y caffom ymwared.
14O Dduw y Lluoedd, edrych unwaith eto o’r nefoedd,
O edrych ac ymwêl â’r winwydden hon
15A blannodd Dy ddeheulaw.
16Llosgwyd hi â thân, a thorrwyd hi i lawr;
Dy gerydd Di fydd yn angau iddynt.
17Dy amddiffyn a fo dros y gŵr a ddewisaist,
A thros y dyn a feithrinaist i Ti Dy hun.
18Yna byth ni wrthgiliwn oddi wrthyt,
Bywha ni a galwn yn wastad ar Dy enw.
19 O Arglwydd Dduw y Lluoedd, rho eto lwyddiant i ni;
Edrych yn ffafriol arnom fel y caffom ymwared.
salm lxxx
Yn y De a chan Ddeheuwyr y cyfansoddwyd y rhan fwyaf o’r Salmau, ond dyma Salm gan Ogleddwr, ac at gyfyngder y Deyrnas Ogleddol y cyfeirir efallai. Ond deil amryw o ysgolheigion mai ym Mabilon y canwyd hi, a chyfeiriad sydd yma at ddinistr Ieriwsalem, ond anodd ydyw cysoni’r farn hon ag adnodau 12 a 13.
Nodiadau
1—3. Y Deyrnas Ogleddol a feddylir wrth Ioseff, a’i ddau fab, Ephraim a Manasse yn cynrychioli prif lwythau’r Gogledd. I’r De y perthynai Benjamin, a dodwyd ef yma oherwydd y disgwyl am aduno’r ddwy deyrnas. Cyfeiriad at yr adeg pan gludwyd Arch Duw i ryfel, ac yntau yn arwyddo ei bresenoldeb ar y Drugareddfa rhwng y Ceriwbim (1 Sam. 4:4).
Nid gweddi am ddychweliad o’r Gaethglud sydd yma, ond yn hytrach am i Dduw adfer yr hen ddyddiau da, ac amlygu eto ei allu drwy wasgar y gelynion. Digwydd byrdwn 3 ar ôl 6 ac 18, ond dylid ei adfer ar ôl 10 a 13 hefyd.
4—7. Nid ydyw eu gweddïau yn tycio dim, canys digyffro ydyw Duw. Y mae rhan olaf adnod 5 yn anodd, ond rhyw fesur mawr a feddylir. Y mae eu diymadferthwch yn destun crechwen i’r cenhedloedd o’u cwmpas.
8—10. Am Israel fel gwinwydden gwêl Gen. 49:22 ac Es. 5:1-7. Gwthiwyd y cenhedloedd allan o Ganaan o flaen Israel, a sefydlwyd hi yn y tir. Cedrwydd Duw, dull Hebreig o ddywedyd cedrwydd mawreddog. Gormodiaith bardd sydd yn 10 yn dangos fel y llwyddodd Duw ei genedl ddewisol.
11—13. Y Môr Canoldir oedd yr unig fôr y gwyddai Israel am dano, a saif yma am y Gorllewin, ac o’r Gorllewin hwn hyd afon Ewffrates yr ymestynnai teyrnas Dafydd yn ôl 2 Sam. 8:3. Y teithwyr ydyw’r cenhedloedd cylchynol sydd wedi croesi y ffiniau i ddifrodi Israel a’i gwneud yn sarn. Yn ôl rhai esbonwyr saif y baedd am yr Aifft.
14—19. — Gweddi am adfer unwaith eto yr amser da gynt, ac am i gerydd yr Arglwydd ddinistrio’r neb sy’n difrodi gwinwydden Israel. Israel a feddylir yn 17, a dichon dodi’r geiriau hyn yma er mwyn rhoddi ystyr Mesiaidd i’r Salm. Addewir ffyddlondeb diwyro i’r Arglwydd os gwrendy ar y weddi.
Pynciau i’w Trafod:
1. A ddylid gweddïo ar Dduw i lwyddo byddinoedd gwlad mewn rhyfel? (1—3).
2. Cymherwch y defnydd a wna’r Salm hon o ffigur y winwydden a’r defnydd a wna’r Arglwydd Iesu ohoni yn Ioan 15:1-8.
3. Erfynnir yma am adfer yr ‘hen amser da gynt’. A oes gwerth mewn dymuno hynny? Onid tuedd pob oes ydyw meddwl fod y dyddiau a fu yn well na’r dyddiau sydd?
4. A atebwyd gweddi’r Salmydd? Ai mantais i wareiddiad fydd ailsefydlu’r Iddew ym Mhalesteina, ac adfer iddo ei hen winllan?

Chwazi Kounye ya:

Salmau 80: SLV

Pati Souliye

Pataje

Kopye

None

Ou vle gen souliye ou yo sere sou tout aparèy ou yo? Enskri oswa konekte