Salmau 110

110
SALM CX
Y BRENIN A’R OFFEIRIAD.
‘Salm Dafydd’.
1Dyma ddatganiad Iehofa yng nghylch fy arglwydd:
“Eistedd ar fy neheulaw,
Fel y gosodwyf dy elynion yn droedfainc i’th draed”.
2Iehofa a enfyn o Sion
Deyrnwialen gadarn i ti,
Fel y llywodraethit yng nghanol dy elynion.
3Parod iawn fydd dy bobl pan gesglir dy fyddinoedd
Ar y mynyddoedd santaidd,
A’r ieuenctid a ddaw ar dy ôl
Sydd fel gwlith o groth y bore.
4Tyngodd Iehofa fel hyn, ac edifarhau ni wna: —
“Offeiriad wyt tithau fyth
Fel yr oedd Melchisedec yn offeiriad”.
5Yr Arglwydd fydd ar dy ddeheulaw,
Tery frenhinoedd yn nydd Ei ddigofaint.
6Rhy farn ar y cenhedloedd,
Lleinw’r dyffrynnoedd â chelanedd,
Tery benaethiaid dros dir lawer.
7Arhosi wrth afon ar y ffordd i dorri syched,
Ac ymlaen i fuddugoliaeth â phen uchel.
salm cx
Fe gytunir yn lled gyffredinol bellach fod y Salm hon yn perthyn i gyfnod y Macebeaid, ac at Simon Macabeus (142 — 135 c.c.), oedd yn dywysog ac yn archoffeiriad y cyfeirir yma. Dywedir yn 1. Macabeaid 14:41: — “A gweled o’r Iddewon yn dda, a’r offeiriaid hefyd, fod Simon yn gapten iddynt, ac yn archoffeiriad byth, hyd oni chodai proffwyd ffyddlon”.
Yr oedd ef felly yn offeiriad ac yn dywysog, pob gallu sydd gan frenin ganddo yntau, a bathai ei arian ei hun.
Ond nid oedd Simon o dylwyth offeiriadol, a pha fodd gan hynny y gallai fod yn archoffeiriad? Gwir nad oedd o dylwyth yr offeiriad, ond yr oedd gwarant Ysgrythurol dros ei ethol yn frenin ac offeiriad ynghyd yn hanes Melchisedec yn Gen. 14. Brenin ac offeiriad yn null Melchisedec oedd Simon.
Amcan y Salm hon ydoedd dangos bod awdurdod dwyfol tu ôl i’r dewis, ac efallai i roddi taw ar y neb a wrthwynebai’r peth.
Rhoddwyd ystyr Fesiaidd i’r Salm gan Iddewon a Christnogion, a dyfynnir hi yn helaeth yn y Testament Newydd (Math. 22:44; Marc 12:36; Luc 20:42; Act 2:34; 1 Cor. 15:25; Heb. 1:13).
Nodiadau
1—3. Egyr y Salm gyda datganiad neu oracl oddi wrth Iehofa yn cymeradwyo dewis Simon. ‘Eistedd ar fy neheulaw’ yn braw ei fod yn dywysog, ac yn arwyddo anrhydedd mawr. ‘Fel y gosodwyf dy elynion yn droedfainc i’th draed’, — cyfeiriad at arferiad brenhinoedd y dwyrain o ddodi eu troed ar wddf y gorchfygedig.
Ystyr 2 ydyw mai oddi wrth Iehofa y derbyn y brenin ei awdurdod.
‘Y mynyddoedd santaidd’ yn 3 ydyw’r mynyddoedd o amgylch Ieriwsalem lle casgl y brenin ei fyddinoedd i’w disgyblu a’u paratoi at ryfel yn erbyn ei elynion. Bydd yr ieuenctid yn awyddus i ymrestru dan ei faner, a chyda’u tariannau a’u harfau yn disgleirio ar y mynyddoedd y maent fel y gwlith a ddaw o ‘groth y bore’, fel y bore wlith.
4—7. Nid yn unig y mae Simon yn frenin y mae yn offeiriad hefyd, ond nid yn null Aaron, ond yn null Melchisedec. Dilea rhai esbonwyr pob cyfeiriad at Melchisedec a darllen yr adnod fel hyn: —
“Offeiriad wyt ti fyth drwy apwyntiad Iehofa, O frenin cyfiawn”, a deil eraill mai nodyn ar ymyl y copi oedd ‘yn ôl urdd Melchisedec’, ac yn ddiweddarach ei ddwyn i mewn i gorff y Salm.
Yn 5—7 addewir buddugoliaeth fawr i’r brenin offeiriadol. Y mae un anhawster yma, — yn 5 a 6 Iehofa ydyw’r testun, ond yn 7 y brenin ydyw, ac oherwydd hynny dylid darllen “Arhosi . . . i dorri syched”.
Yn 7 darlunnir y brenin yn erlid ei elynion mewn brys, dim ond yn aros i dorri ei syched wrth afonydd oedd ar y ffordd.
Pynciau i’w Trafod:
1. Darllenwch Math. 22:44, 45, ac ystyriwch y defnydd a wnaeth yr Arglwydd Iesu o’r Salm hon. A oes gorfod arnom ni i dderbyn Dafydd fel awdur y Salm oherwydd dywedyd o Grist, “Os yw Dafydd gan hynny yn ei alw yn Arglwydd”? A ydyw yr Arglwydd Iesu yn awdurdod terfynol ar bynciau a berthyn i feirniadaeth Feiblaidd?
2. A ellir cymhwyso disgrifiad y Salm hon o’r brenin mewn unrhyw fodd at Grist?
3. A ydyw tystiolaeth dybiedig yr Hen Destament i Grist fel Meseia yn help i chwi gredu ynddo fel Meseia Duw? Beth yw’r praw cryfaf sydd gennych o hynny?

Chwazi Kounye ya:

Salmau 110: SLV

Pati Souliye

Pataje

Kopye

None

Ou vle gen souliye ou yo sere sou tout aparèy ou yo? Enskri oswa konekte