Salmau 104

104
SALM CIV
MOLAWD Y GREADIGAETH.
1O Iehofa fy Nuw, mawr iawn ydwyt,
Mawrhydi ardderchog yw Dy wisg.
2Gwisgaist oleuni fel mantell,
Taenaist y nefoedd fel llen.
3Gosododd drawstiau Ei ystafelloedd yn y dyfroedd;
Gwnaeth y cymylau yn gerbyd iddo,
A rhodio ar adenydd y gwynt.
4Gwnaeth y gwyntoedd yn genhadon iddo,
A fflam a thân yw Ei weision.
5Sefydlodd y ddaear ar ei sylfeini,
Fel na symudo byth bythoedd.
6Gorchuddiodd hi â’r dyfnder fel gwisg,
Safodd y dyfroedd uwch y mynyddoedd.
7Ffoesant rhag Dy gerydd Di,
Dychrynasant wrth sŵn Dy daran.
8Gosodaist derfyn iddynt, a chroesi hwnnw ni chânt
Na gorchuddio’r ddaear mwy.
9Cododd y mynyddoedd a disgynnodd y dyffrynnoedd
I’r lle a benderfynaist ar eu cyfer.
10Gyrrodd ffynhonnau i welyau’r afonydd
I lifo rhwng y mynyddoedd.
11Diodant yr anifeiliaid gwylltion,
A’r asynnod gwylltion a dyr eu syched.
12Ar eu glannau nytha’r adar,
A chanant o fysg y llwyni.
13Dyfrhaodd y mynyddoedd o’i ystafelloedd,
A digonir y ddaear â ffrwyth y cymylau.
14Parodd i laswellt dyfu i’r anifeiliaid,
A llysiau at wasanaeth dyn,
Fel y dygo fara o’r ddaear;
15A gwin i lawenychu calon dyn,
Ac olew i roddi disgleirdeb i wyneb.
16Caiff y prennau mawrion ddigon o law,
Cedrwydd Libanus a blannodd Ef;
17Yno y nytha adar; yn y ffynidwydd
Y mae nyth y ciconia.
18Y mae’r mynyddoedd i’r geifr gwylltion,
A lloches i farmotiaid yw’r creigiau.
19Creodd Ef y lleuad i wahaniaethu tymhorau,
A gwnaeth i’r haul wybod ei amser machlud.
20Pan ddisgyn tywyllwch, daw’r nos,
Ac ymlusga pob anifail gwyllt o’i ffau.
21Rhua’r llewod ieuainc am ysglyfaeth,
A cheisio eu bwyd gan Dduw.
22Pan godo’r haul, ânt yn ôl i’w ffeuau,
A gorwedd yno.
23Ond dyn a â allan i’w waith,
Ac i’w lafur hyd yr hwyr.
24Mor lluosog yw Dy weithredoedd!
Yn ddoeth y gwnaethost y cwbl ohonynt.
25Dacw’r môr mawr a llydan,
Lle mae ymlusgiaid dirifedi,
A chreaduriaid, — mawr a bach.
26Lle mae llongau yn hwylio
A’r lefiathan a luniodd Duw i chwarae ag ef.
24C Llawn yw’r ddaear o’th greaduriaid Di,
27Disgwyliant oll wrthyt
Am eu bwyd yn ei bryd.
28Casglant yr hyn a roddi Di iddynt;
Diwellir eu heisiau o’th law agored Di.
29Cuddi Dy wyneb a brawychir hwynt,
Tynni’n ôl eu hysbryd a threngant
A dychwel i’r llwch.
30Gollyngi Dy ysbryd a chreir hwynt,
Ac adnewyddi wyneb y ddaear.
31Bydded gogoniant Iehofa yn dragywydd,
Llawenyched Iehofa yn Ei weithredoedd.
32Cryna’r ddaear pan edrych Ef arni,
Myga’r mynyddoedd pan gyffwrdd Ef â hwynt.
33Canaf i Iehofa tra byddaf byw,
Molaf Dduw tra bo anadl ynof.
34Boed melys fy myfyrdod iddo,
Minnau a lawenychaf yn Iehofa.
35Darfydded pechaduriaid o’r tir,
Na fydded yr annuwiolion mwyach.
O fy enaid, bendithia Iehofa.
Haleliwia.
salm civ
Emyn y greadigaeth ydyw’r Salm hon, a dengys yr awdur ei fod yn hyddysg yn hanesion y creu a geir yn Genesis. Fe ŵyr hefyd am hanesion y creu a geir yn llenyddiaeth cymdogion yr Hebreaid, yn arbennig y Babiloniaid, ond dodes ef hudlath bardd ar yr hanesion hyn. Y mae llawer o resymau dros gredu mai awdur Salm 103 oedd awdur hon hefyd.
Nodiadau
1—4. Y mae’r Salmydd yn dilyn trefn y creu yn Gen.: Creu y goleuni a’r nefoedd y cyfeiria ato yma (Gen. 1:3-8), creu’r goleuni a wnaeth Duw yn Gen., ond yma y mae’n ei wisgo.
Syml ac elfennol iawn oedd syniadau’r Hebreaid am y bydysawd. Adeiladwyd ef gan Iehofa ar lun tair llofft. Y llofft uchaf oedd y nefoedd, y ddaear y llofft ganol, a’r llofft isaf oedd Sheol. Ystyrid y ffurfafen yn fath o wastadedd mawr solet yn gorffwys ar bileri a sicrheid ar y ddaear. Y ffurfafen hon oedd to’r ddaear a llawr y nefoedd. Uwch y ffurfafen hon yr oedd dyfroedd, tarddle’r glaw, ac ar y dyfroedd hyn yr oedd ystafelloedd y trigai Iehofa ynddynt. I mewn yn ddwfn yn y ddaear yr oedd Sheol neu Annwn ac yno y disgynnai pawb ar ôl marw, ac o dan y ddaear yr oedd eto ddyfroedd, ac ar y rhain y gorffwysai’r ddaear. Dyma gred awdur y Salm hon am y byd, a deellir yn rhwyddach yr adnodau yma o wybod hyn.
5—9. Cymharer hanes trydydd diwrnod y Creu â’r adran hon (Gen. 1:9-12). Yn ôl hanes Babilonaidd am greadigaeth y byd “Y Dyfnder” oedd y duwdod drygionus a holltwyd gan Mardwc, pencampwr y duwiau da, — o un hanner ffurfiwyd y ffurfafen, ac o’r llall y ddaear, ac y mae’r hanes hwn yn ogystal â stori y creu yn Gen. ym meddwl y Salmydd yma. Dychrynwyd y gelyn — “Y Dyfnder” — oedd yn gordoi’r ddaear gan “awdurdodol lais y nef”, a ffodd y dyfroedd, a gadael i’r ddaear ymddangos, a bellach rhaid iddynt gadw o fewn y terfynau a osododd Duw iddynt. Y mae’r meddwl yn gliriach o newid trefn 8 a 9.
10—13. Nid oes gyfeiriad at yr adran yma yn Gen., ni sonnir yno am greu ffynhonnau. Y mae gwelyau’r afonydd yn hysb yn yr haf, ac yn y gaeaf llifa’r dyfroedd iddynt, ac o’i ystafelloedd uwch dyfroedd y ffurfafen arllwys Iehofa law ar y ddaear, ac yn brydferth iawn geilw’r bardd hwn y glaw yn “ffrwyth y cymylau”, sydd yn amgenach na “ffrwyth dy weithredoedd”.
14—18. Y mae’r Salmydd eto gyda gwaith trydydd diwrnod y creu. Enwir yma dri phrif gynnyrch y wlad: — gwenith (bara), y gwinwydd yn cynhyrchu gwin, a’r olewydd yn rhoi olew a ddefnyddir i eneinio pen a chorff, a’u haeron fel bwyd.
Ciconia, yn Saes. ‘stork’, yn hynod oherwydd ei ofal dros ei gywion.
Marmotiaid, nid cwningod, ond anifail o faint cwningen, ac mewn tyllau yn y creigiau y mae eu gwâl.
19—23. Gwaith y pedwerydd dydd, sef creu y llu nefol y cyfeirir ato yma. Ni chyfeirir gan y Salmydd at y sêr. Nos yw cyfle’r llew am ysglyfaeth a’r dydd ei gyfle am orffwys, ond croes i hyn ydyw arfer dyn, ond haul a lleuad ydyw arwyddion y ddau.
24—26. Yn ôl un awdur cyfansoddwyd y Salm hon ar fynydd Lebanon, ac oddi yno gwelid yr unig fôr y gwyddai’r Hebrëwr am dano, sef Môr y Canoldir. “A’r lefiathan a luniodd Duw i chwarae ag ef.” Y Lefiathan ydyw’r morfarch mawr (Gen. 1:21), ac efallai mai’r morfil ydoedd. Arswyd a dychryn ydyw i ddyn, ond i Dduw nid yw ond megis rhyw oen llywaeth i chwarae ag ef.
27—30. Y mae’n amlwg bod brawddeg olaf adn. 24 i’w dodi o flaen adn. 27. Gwaith chweched dydd y creu y cyfeirir ato yn yr adran hon.
Ar yr ysbryd Dwyfol y dibynna dyn ac anifail — ei gael ydyw bywyd, a’i golli yw marwolaeth.
31—35. Mynegir llawenydd Duw yn Ei waith yn Gen. 1. “A gwelodd Duw mai da oedd.” Cyfeiriad sydd yn 32 at ddaeargryn a mynydd tân.
Presenoldeb y pechaduriaid sy’n mennu ar ei fawl, ac fel y byddo ei foliant yn berffaith dymuna eu symud o’r ddaear.
Pynciau i’w Trafod:
1. Cymherwch Emyn y Greadigaeth yn Genesis ac yma. Pa un yw’r bardd mwyaf?
2. Nid ydym ni heddiw yn derbyn syniadau plentynnaidd y Salm hon am y greadigaeth. A oes ynddi rywbeth a erys yn werthfawr pa syniadau bynnag a ddelir gennym am ddull creu’r byd ai ehangder?
3. Ystyriwch a ganlyn: —
“Er gwaethaf symlrwydd plentynnaidd dirnadaeth yr Hebreaid am y greadigaeth, y mae’n dystiolaeth gref a thrawiadol i ddwyfoldeb eu crefydd, fod eu syniadau am Dduw mor aruchel. Y mae profiad crefyddol uchel y Salm hon yn anesboniadwy, oni chredwn fod y sawl a’i meddo wedi derbyn datguddiad oddi uchod.”

Chwazi Kounye ya:

Salmau 104: SLV

Pati Souliye

Pataje

Kopye

None

Ou vle gen souliye ou yo sere sou tout aparèy ou yo? Enskri oswa konekte