Salmau 11
11
Salm XI.
I’r Pencerdd: eiddo Dafydd.
1Yn Iehova yr ymddiriedaf;
Podd y dywedwch wrth fy enaid#11:1 wrth fy enaid, — yr un ystyr ag wrthyf fi.
Ehedwch#11:1 Ehedwch, &c. sef Dafydd a’i gyfeillion. Hyn a ddywedid, nid gan ei elynion, ond gan rai a ddymunent yn dda iddo, ac yn ofni am ei ddiogelwch. Parha’r ymadrodd hyd adn. 4. Oddi yma hyd y diwedd dengys Dafydd pwy ydyw ei ddiogelwch. i’ch mynydd fel adar:
2Canys wele yr aunuwiolion a annelant fwa;
Parotoisant eu saeth ar y llinyn,
I saethu yn y tywyll yr uniawn o galon:
3Canys y sylfeini#11:3 y sylfeini, sef sylfeini trefn, cyfiawnder a chrefydd. yr oeddent yn dymchwelyd trefn llywodraeth, gofynion cyfiawnder, a dyledswyddau crefydd, trwy orthrymder, trais, a chreulondeb. — Pa beth a wna? sef, pa beth a all wneud wyneb yn wyneb yr anhrefn a barasai yr annuwiolion. Felly y cyfieithiad Saesneg, “What can the righteous do?” fel pe dywedasant, Gwell i ti a’th gyfeillion ffoi, nid yw yn alluedig i ddyn cyfiawn wrthwynebu ymgais gelynion. a ddymchwelant: —
Y cyfiawn, pa beth a wna?#11:3 pa beth a wna?sef, pa beth a all wneud wyneb yn wyneb yr anhrefn a barasai yr annuwiolion. Felly y cyfieithiad Saesneg, “What can the righteous do?” fel pe dywedasant, Gwell i ti a’th gyfeillion ffoi, nid yw yn alluedig i ddyn cyfiawn wrthwynebu ymgais gelynion.
4 Iehova “sydd” yn ei deml santaidd,
Iehova, yn y nefoedd “y mae” ei orsedd;
Ei lygaid a welant yr anghenus#11:4 yr anghenus,— nid yw’r gair hwn yn yr Hebraeg, ond ceir ef yn y LXX: a barna yr Esgob Lowth y dylai fod yma, gan fod y llinell yn ammherffaith hebddo. Dyma hefyd yw barn yr Esgob Horsley.,
Ei amrantau a brofant feibion dynion.
5 Iehova a brawf#11:5 A brawf— chwilia; gwel Duw y cwbl sydd yn y cyfiawn a’r annuwiol. Cyssylltir y ddau gan y LXX. y cyfiawn a’r annuwiol;
A charwr trawsder a gasâ ei enaid.
6Gwlawia ar annuwiolion farwor,
Tân a llosgfaen;
A chwythad poethwyntoedd a fydd ran eu cwpan.#11:6 Y mae yma gyfeiriad at ddinystr Sodom a Gomorra. Nid oes ystyr yn y cyfieithiad cyffredin gwlawio maglau, &c. a phoethwynt, nid yw synwyr. — Eu cwpan, — “Oddiwrth yr hen arfer,” medd Parkhurst, “o lywydd gwledd yn gosod i bob un o’r rhai a wleddent gyd âg ef ei gwpan, defnyddir y gair i ddynodi y gyfran hono o wynfyd neu adfyd a rydd Duw i ddynion yn y bywyd hwn.”
7Canys cyfiawn “yw” Iehova,
Cyfiawnderau#11:7 Cyfiawnderau, sef gweithredoedd cyfiawn. Yr Hwn ei hun sydd gyfiawn a gâr bob peth ag sydd yn unol â’i anian ei hun. a gara;
Ar yr uniawn#11:7 yr uniawn, — yr hwn sydd yn cerdded yn gywir wrth reol y gair dwyfol. At hwn y try, ac ar hwn yr edrych, wyneb siriol Duw. Y mae gwedd ei wyneb yn gysur ac yn fywyd. Crea lawenydd y’nghanol y tristwch a’r gofid mwyaf. yr edrych ei wyneb.
Trenutno odabrano:
Salmau 11: TEGID
Istaknuto
Podijeli
Kopiraj
Želiš li svoje istaknute stihove spremiti na sve svoje uređaje? Prijavi se ili registriraj
Cafodd Argraffiad Digidol Salmau 1-20 a detholiad o Ruth ac Eseia ei ddigideiddio i Gymdeithas y Beibl yn 2021.