Salmau 32
32
SALM XXXII
Salm Dafydd. A ddarlleno, ystyried!
Hyfrydwch Maddeuant.
1O mor hapus yw’r gŵr a gafodd faddau ei drosedd,
A gorchuddio ei bechod.
2O mor hapus y didwyll ei ysbryd,
Na chyfrif Iehofa gamwedd iddo.
3Pan oeddwn ddistaw treuliodd fy esgyrn
Gan fy rhuo cwynfanus trwy gydol y dydd.
4Canys trom oedd Dy law arnaf ddydd a nos;
A throwyd gwaed fy nghalon yn sychdwr haf.
5Ond cyffesais fy mhechod wrthyt,
A dyfod â’m pechod i olau dydd;
Dywedais, “Cyffesaf wrth Iehofa fy nhroseddau”;
A maddau fy nghamwedd a wnaethost, a rhoi pardwn i’m pechod.
6Am hyn gweddïed pob duwiol arnat
Yn amser adfyd;
Ni ddaw rhuthr y dyfroedd mawrion
Fyth yn agos ato ef.
7Tydi yw fy lloches i;
Rhag cyfyngder cadw fi;
O Waredwr, amgylchyna fi!
8“Dysg a chyfarwyddyd am dy ffordd a roddaf Fi i ti:
Cyngor a gei gennyf, sefydlaf Fy llygad arnat.
9Na fyddwch ystyfnig fel march neu asyn
Na ellir eu dofi ond â ffrwyn a thennyn”.
10Gofidiau aml sydd i’r annuwiol,
Ond y neb a ymddiried yn Iehofa
A gaiff Ei gariad yn gylch o’i amgylch.
11Chwi rai cyfiawn, byddwch lawen a hyfryd yn Iehofa;
A chwithau â’r meddwl union, bloeddiwch gan lawenydd.
salm xxxii
Yr ail o’r Salmau Edifeiriol (y lleill yw 6, 38, 51, 102, 130, 143).
Y mae’n anodd credu bod y pedair adnod olaf yn rhan o’r Salm wreiddiol, ac anodd dyfalu pwy sy’n llefaru yn 8 a 9.
Dylid ymgadw rhag darllen i dermau a phrofiad y Salmydd hwn yr elfennau cymhleth a gysylltwn ni â hwynt heddiw. Y mae’r teitl ‘maschil’ yn anodd, ond credwn mai gair ydyw yn galw sylw at gynnwys arbennig y Salm.
Nodiadau
1, 2. Trosedd, yn yr ystyr o dorri cyfraith ddwyfol.
Pechod, methu â chyrraedd nod ac amcan bywyd.
Camwedd, troi’n gyndyn oddi ar ffordd union bywyd.
Nid oedd y gwahaniaethau hyn ym meddwl y Salmydd; iddo ef cyfystyron oeddynt am y gair cyffredinol ‘pechod’.
Maddau, symud baich oddi ar war y pechadur.
Gorchuddio, sef cuddio ffieidd-dra pechod, neu’r syniad tu ôl i’r gair ydyw gwaed yr aberth yn cuddio’r pechodau sy’n staenio allor Duw.
Cyfrif, peidio â meddwl am dano, delio â phechadur fel pe byddai’n ddieuog.
3, 4. Pan oedd ddistaw heb gyffesu ei bechodau treuliodd ei fywyd fel y treulir dilledyn, a brathiadau ei gydwybod yn mennu ei iechyd. Y mae’n anodd cael synnwyr o ran olaf yr adnod, ond cyfeirio y mae at ddirfawr drallod ei feddwl a’i gorff.
6, 7. Ni all dilyw trallod ddyfod yn agos at y gŵr a gaiff loches yn Nuw. Nid oes gwarant dros ‘ganiadau ymwared’. Diwedd y gair o’i flaen ydyw’r gair a gyfieithir yn ‘ganiadau’.
8, 9. Y mae’n anodd dyfalu pwy sy’n llefaru, pa un a’i Salmydd ynteu Iehofa. Y mae’n amlwg ddigon mai chwanegiad ydyw’r adnodau hyn at y Salm wreiddiol.
Dengar a gwirfoddol ydyw disgyblaeth ffordd Iehofa, a honno sy’n gweddu i ddyn, nid ffordd gorfodaeth yr anifeiliaid direswm.
Pynciau i’w Trafod:
1. A ydyw’r Salmydd hwn yn ategu’r cyngor yn Iago 5:16?
2. A ydyw’r Seicoleg Newydd wedi taflu goleuni amgenach nag oedd gan y Salmydd ar werth cyffesu?
3. A oes gan y Catholigion gyda’u Cyffes-gell fantais a rhagoriaeth ar y Protestaniaid?
4. A ydych yn cytuno â geiriau Mr. Saunders Lewis yn “Williams Pantycelyn”?
“Canys wedi dwy ganrif o ddrysni a difrawder, pan gynhyrfwyd y Cymry unwaith eto gan brofiadau crefyddol, bu’n rhaid er mwyn iechyd meddwl dynion a’u harbed rhag gwallgofrwydd, atgyfodi mewn rhyw fodd gyffes yr eglwys Gatholig, a dyna oedd y Seiat”. (tud. 43).
5. Ystyriwch brofiad Theomemphus (Pantycelyn) yng ngoleuni trallodion y Salmydd yn adn. 3 a 4:
“Gwae fi, gwae fi i’m geni, mi wela’n awr i gyd
Bob ffiaidd beth a wnaethum er pan y de’s i’r byd;
Mae ’mhechod yn fy wyneb, ac yn fy ngwasgu lawr
Saith drymach na mynyddau i waelod Uffern fawr.”
6. Ystyriwch hefyd yng ngoleuni dysgeidiaeth y Salm am gyffes eiriau brifardd Lloegr:
“Canst Thou not minister to a mind diseased,
Pluck from the memory a rooted sorrow,
Raze out the written troubles of the brain,
And with some sweet oblivious antidote
Cleanse the stuffed bosom of that perilous stuff
Which weighs upon the heart?”
Detholiad o'r Salmau gan Lewis Valentine. Cyhoeddwyd gan Wasg Ilston ym mis Ebrill 1936.