Salmau 27

27
SALM XXVII
Salm Dafydd.
I. Cân y bardd ynghanol rhyfel.
1O Iehofa, fy ngoleuni, fy iechydwriaeth,
Rhag pwy yr ofnaf?
Iehofa yw diogelwch fy mywyd;
Rhag pwy y dychrynaf?
2Pan nesaodd y drygionus ataf
I fwyta fy nghnawd,
Cwymp a chodwm a fu iddynt hwy,
I fy ngwrthwynebwyr a’m gelynion.
3Pe bai gwersyll cyfan o’m hamgylch,
Nid ofnai fy nghalon:
Pe codai rhyfel i’m herbyn,
Eto byddwn hyderus.
4Un peth a ddeisyfais gan Iehofa,
Dim ond unpeth a geisiaf, —
Cael trigo yn Nhŷ Iehofa
Holl ddyddiau fy mywyd,
I syllu ar Ei hyfrydwch
Yn Ei Deml yn ystod yr aberth bore.
5Canys cuddia fi yn ei loches
Yn nydd blinder.
Yn nirgelfa Ei babell caf lechu,
A chyfyd fi ar graig.
6Yn awr cyfyd fy mhen yn fuddugol goruwch
Fy ngelynion o’m hamgylch;
Ac aberthaf innau yn Ei Deml ebyrth y llawen floedd.
Canaf, ie, canaf Salmau i Iehofa.
II. Taer weddi’r truan.
7Clyw, Iehofa, fy llais,
Galwaf, am hynny gwrando’n drugarog arnaf.
8Wrthyt Ti y dywedais yn fy nghalon, “Dy wyneb,
Iehofa, a geisiaf”.
9Na chuddia Dy wyneb oddi wrthyf,
Na thro yn f’erbyn mewn soriant: Fy nghymorth fuost gynt,
Na ad fi yn awr, na wrthod fi, O Dduw fy iechydwriaeth.
10Pan yw fy nhad a ’mam yn fy ngwrthod,
Iehofa a ofala am danaf.
11Dysg i mi Dy ffordd, Iehofa:
Arwain fi ar hyd lwybr gwastad,
Oherwydd fy ngelynion cynllwyngar.
12Na ad fi at drugaredd y gelynion,
Canys tystion celwyddog A gododd i’m herbyn,
Gan fygwth niwed i mi.
13Credaf yn bendant y caf eto weld
Daioni Iehofa yn nhir y byw.
14Disgwyl wrth Iehofa;
Bydd gryf, ymwroled dy galon,
Ond disgwyl wrth Iehofa.
salm xxvii
Y mae’r Salm hon yn enghraifft arall o blethu dwy gân ynghyd. Gelwir hi gan rai esbonwyr yn ‘Anthem Ddramatig’, a chynnwys anthem felly ydyw nodyn buddugol yn gyntaf, yna adroddiad o drallodion a gweddi am ymwared rhagddynt, ac i ddiweddu’r Salm ceir eto’r nodyn buddugol.
Cân ydyw’r rhan gyntaf a ganwyd yn ystod rhyfel, a’r gelyn yn gwarchae ar Ieriwsalem, a dichon ei chanu yn ystod y digwyddiadau yn nyddiau Heseceia a adroddir yn 2 Br. 18-19.
Gweddi daer, nerfus sydd y rhan olaf, ac awgrym sydd yn adn. 10 o ddigwyddiadau oedd yn rhannu ac yn gwahanu teuluoedd, ac yn nyddiau cynnar y Macabeaid, hyd y gwyddys, y bu amgylchiadau felly.
Nodiadau
1. Fy Ngoleuni, — nid enw ar Dduw, ond Iehofa sydd yn goleuo ac yn disgleirio arnaf.
2. Nid gelynion crefyddol, ond gelynion cenedlaethol sy’n ymosod ar y ddinas.
4. Nid ei wared rhag y gelynion yw ei ddyhead, ond cael parhau i fwynhau yr addoliad yn y Deml, a syllu ar hyfrydwch Iehofa yn yr aberth boreol, canys dyna brif wasanaeth y dydd a’r mwyaf gogoneddus.
‘Yn y bore’ ydyw’r darlleniad cywir, a chyfeiriad sydd at yr aberth boreol.
5. Y Deml a feddylir wrth ‘lloches’ a ‘pabell’. Yr awgrym yw nad gwiw i’r ddinas ddisgwyl ymwared trwy undim ond trwy rym cywirdeb ei haddoliad.
6. Ebyrth y llawen floedd, yr ebyrth a aberthid yn y Deml â bloedd llais a sain symbalau.
10. Ni ddylid rhoi gormod pwys ar yr ymadrodd, a rhy frau yw’r edefyn hwn i benderfynu cyfnod y Salm. Y mae’n wir dyfod chwerwedd a gwahanu i deuluoedd yng nghyfnod y Macabeaid, ond gellir mynegi ymddiried diysgog yn Nuw yn y geiriau hyn ym mhob cyfnod ac mewn unrhyw gyfnod.
11. ‘Oherwydd fy ngelynion cynllwyngar’ er mwyn iddo osgoi eu cynllwynion, a chael y llaw uchaf arnynt.
13. Er anwyled yr ymadrodd gynt, “Diffygiaswn, pe na chredaswn”, — rhaid yw cefnu arno. “Yn nhir y byw” ac nid ym mro y Cysgodion (Sheol) y dymuna’r Salmydd brofi y pethau da a ddyry Iehofa, canys yn Sheol nid oes obaith.
Pynciau i’w Trafod:
1. Os ydych yn derbyn y syniad mai cân a gyfansoddwyd yn ystod rhyfel ydyw hon, ystyriwch ysbryd y Salmydd o’i gymharu â’n hysbryd ni yn ystod y Rhyfel diwethaf ac yn wyneb bygythion rhyfeloedd eraill.
2. A ydyw bywyd ac un nod mawr iddo yn amgenach na bywyd a chanddo amryfal ddiddordebau? (adn. 4).
3. Yn nhir y byw yn unig y disgwyl y Salmydd weld daioni yr Arglwydd (adn. 13); pa wahaniaeth a wnâi colli ffydd mewn bywyd ar ôl hwn i ddynion?

נבחרו כעת:

Salmau 27: SLV

הדגשה

שתף

העתק

None

רוצים לשמור את ההדגשות שלכם בכל המכשירים שלכם? הירשמו או היכנסו