Logo YouVersion
Îcone de recherche

Matthew 5

5
Y Gwynfydau
[Luc 4:14, 15; 6:20–26]
1Ac wrth weled y tyrfaoedd, efe a esgynodd i'r mynydd; ac wedi iddo eistedd, ei Ddysgyblion a ddaethant#5:1 Ato א C D. Gad. B. ato.
2Ac efe a agorodd ei enau ac a'u dysgodd hwynt, gan ddywedyd,
3Gwyn eu byd#5:3 Groeg: makarioi, dedwydd, gwynfydedig. y tlodion yn yr yspryd, canys eiddynt yw Teyrnas Nefoedd.
4Gwyn eu byd y rhai sydd yn galaru, canys hwy a ddyddenir.#5:4 Gesyd D. adnod 5 o flaen adnod 4. Hefyd La. Ti. Tr. Yn y drefn yn y testyn א B C. Al. WH. Diw.
5Gwyn eu byd y rhai addfwyn, canys hwy a etifeddant y ddaear.
6Gwyn eu byd y rhai a newynant ac a sychedant am gyfiawnder, canys hwy a ddiwellir.
7Gwyn eu byd y trugarogion, canys hwy a gânt drugaredd.
8Gwyn eu byd y rhai pur o galon, canys hwy a welant Dduw.
9Gwyn eu byd y tangnefeddwyr#5:9 Llyth.: “Y rhai a wnant dangnefedd.”, canys hwy a elwir yn feibion i Dduw.
10Gwyn eu byd y rhai sydd wedi eu herlid#5:10 Yr amser perffaith a ddefnyddir. o achos cyfiawnder, canys eiddynt yw Teyrnas Nefoedd.
11Gwyn eich byd pan y'ch gwaradwyddant, ac y'ch erlidiant, ac y dywedant bob drwg#5:11 Drwg air C, drwg א B D Brnd. yn eich herbyn (a hwy yn gelwyddog#5:11 A hwy yn gelwyddog א B C Brnd. Gad. D, La.), o achos fy enw I. 12Llawenhewch a gorfoleddwch, canys eich gwobr sydd fawr yn y Nefoedd, canys felly yr erlidiasant y Proffwydi, y rhai fuont o'ch blaen chwi.
Teithi gwir ddysgyblion.
13Chwi yw halen y ddaear: eithr o diflasodd yr halen, â pha beth yr helltir ef? Nid yw mwyach o unrhyw werth, ond i'w fwrw allan a'i sathru gan ddynion.
14Chwi yw goleuni y byd. Dinas a osodir ar fryn, nis gellir ei chuddio. 15Ac ni oleuant lamp#5:15 Luchnon, llusern, lamp. Ni wnelai yr Iuddewon ddefnydd o ganwyllau. ac a'i gosodant dan y mesur‐lestr#5:15 Modios. Y mesur‐lestr mwyaf adnabyddus, ac felly, defnyddir yr arddodiad, y mesur. Cynnwysai tuag wyth chwart., ond ar y safbren#5:15 Neu, daliadyr, lampstand., a hi a ddysgleiria ar bawb sydd yn y tŷ. 16Felly, dysgleiried eich goleuni gerbron dynion, fel y gwelont eich gweithredoedd da, ac y gogoneddont eich Tad, yr hwn sydd yn y Nefoedd.
Cyfiawnder Teyrnas Crist.
17Na thybiwch fy nyfod i ddyddimu y Gyfraith neu y Proffwydi: ni ddaethum i ddyddimu, ond i gyflawnu.
18Canys yn wir meddaf i chwi, Hyd onid êl y nef a'r ddaear heibio, un iod#5:18 Iod, y llythyren leiaf yn yr Hebraeg. neu un tipyn#5:18 Keraia, tipyn, mymryn. Golyga Keraia, corn bychan, a dynodai y llinellau bychain a wahaniaethant y llythyrenau tebyg yn yr Hebraeg. nid ä heibio o'r Gyfraith ddim, hyd oni chwblhaer oll. 19Pwy bynag, gan hyny, a doro un o'r gorchymynion lleiaf hyn, ac a ddysgo i ddynion felly, lleiaf y gelwir ef yn Nheyrnas Nefoedd; ond pwy bynag a'u gwnelo ac a'u dysgo, hwn a elwir yn fawr yn Nheyrnas Nefoedd. 20Canys meddaf i chwi, Oni fydd eich cyfiawnder yn helaethach nag eiddo yr Ysgrifenyddion a'r Phariseaid, nid ewch i fewn i Deyrnas Nefoedd.
Yn nghylch Llofruddiaeth
[Luc 12:58, 59]
21Clywsoch y dywedid wrth#5:21 Wrth, ac nid gan (gweler Rhuf 9:12, 26; Gal 3:16; Dad 6:1, &c.) yr hynafiaid,
“Na lofruddia; a phwy bynag a lofruddia a fydd agored#5:21 Enochos, “mewn perygl o,” “yn ddarostyngedig i,” “yn agored i;” y mae “yn euog o” hytrach yn gryf, ac yn tywyllu y synwyr. i farn.”#Ex 20:13; Deut 16:18
22Ond meddaf i chwi, Pob un a ddigio wrth ei frawd#5:22 Eikê, heb achos D; Gad. א B Brnd. a fydd yn agored#5:22 Enochos, “mewn perygl o,” “yn ddarostyngedig i,” “yn agored i;” y mae “yn euog o” hytrach yn gryf, ac yn tywyllu y synwyr. i'r farn: a phwy bynag a ddywedo wrth ei frawd, Y Dyhiryn#5:22 Rhaca, gair o'r Caldaeg, yr hwn a ddynodai un diwerth, dyhiryn — enw gwaradwyddus yn mhlith yr Iuddewon yn amser Crist. Rhai a'i cyssylltant â'r gair Heb., rakak, poeri, ond nid yw ei ystyr wedi ei lwyr benderfynu.! a fydd agored i'r Cynghor; a phwy bynag a ddywedo, O Ynfyd#5:22 Efallai o'r Hebraeg, Moreh, gwrthryfelwr; ynfyd mewn ystyr foesol, felly yn gyfystyr ag un drwg, adyn; felly yn derm cryfach na rhaca., a fydd agored i Gehenna#5:22 Defnyddir tri gair yn y Groeg a gyfieithir yn ein Testament “uffern.” Dygwydda Hades ddeg o weithiau. Fel rheol, dynoda sefyllfa yr yspryd annghorffedig — bro y meirw, derbynfa gyffredinol ysprydion ymadawedig, y byd anweledig (yr hyn ni welir yw ystyr y gair), felly cynnwysa y byd nesaf neu y byd arall fel yn wrthgyferbyniol i'r byd gweledig presennol. Cyfieithir ef pwll, bedd, uffern, ond nid yw y rhai hyn yn gyfystyr â'r gair. Felly, gwell ei drosglwyddo i'n hiaith. Defnyddir y gair Gehenna ddeuddeg o weithiau, ac yn mhob un o honynt dynoda “lle cospedigaeth.” Etto, gan ei fod yn enw priodol wedi deillio o Ge Hinnom yr Hen Destament, gwell, ar y cyfan, ei adael heb ei gyfieithu. Dyffryn Hinnom oedd y tu allan i Jerusalem, yr hwn oedd yn ddwfn ac yn gul. Ynddo, yn amseroedd eilunaddolgar, yr offrymid plant i Moloch (2 Cr 28:3; 33:6; Jer 19:2–6). Felly melldithiwyd y lle gan Josia (2 Br 23:10), ac iddo y teflid budreddi y Ddinas, ac yno y llosgid ysgerbydau anifeiliaid, cyrff troseddwyr, &c., ac y cedwid tân anniffoddadwy. Felly yr oedd yn arwyddlun byw o uffern. Cyfieithir y gair Tartorôsas (2 Petr 2:4), “eu taflu i uffern.” Yr oedd “Tartaros” y Groegiaid yn cyfateb, i raddau, i Gehenna yr Iuddewon. o dân. 23Gan hyny, os offrymi dy rodd ar yr allor, ac yno gofio fod gan dy frawd beth yn dy erbyn, 24gad yno dy rodd o flaen yr allor, a dos ymaith, yn gyntaf cymmoder di â'th frawd, ac yna tyred ac offryma dy rodd. 25Cytuna#5:25 Neu, “Bydd yn dda‐ewyllysgar,” “Bydd o yspryd heddychlon tuag at.” â'th wrthwynebwr#5:25 Llyth., “Gwrthwynebydd, neu achwynydd mewn cynghaws.” ar frys tra fyddech gydag ef ar y ffordd; rhag un amser i'r gwrthwynebwr dy draddodi at y barnwr, a'r barnwr#5:25 Dy draddodi L Δ. Gad. א B. at yr is‐swyddog, a'th daflu i garchar. 26Yn wir, meddaf i ti, Ni ddeui allan ddim oddiyno, hyd oni thalech y ffyrling#5:26 Kodrantes. Nid oedd hwn ond gwerth ein hatling ni. Ond gan y cyfieithir lepton yn hatling (Marc 12:42), yr hwn oedd hanner Kodrantes, gwell galw yr olaf “ffyrling.” Cyfieithir assarion hefyd yn “ffyrling,” er ei fod yn gyfwerth â phedwar Kodrantes (Mat 10:29). ddiweddaf.
Am odineb
[Marc 9:43–47]
27Clywsoch y dywedwyd,#5:27 Wrth yr hynafiaid L Δ; Gad. א B D Brnd.
“Na wna odineb.”#Ex 20:14
28Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi fod pob un a'r sydd yn edrych ar wraig i'w chwennychu hi wedi gwneuthur eisoes odineb â hi yn ei galon. 29Ac os dy lygad deheu a bair i ti dramgwyddo,#5:29 Dynoda skandalon, yr hwn yw gwreidd‐air y ferf, y pren a ddaliai yr hud (bait) yn y fagl; yna magl, maen tramgwydd, achlysur cwymp. tyn ef allan, a thafl oddiwrthyt; canys buddiol i ti golli un o'th aelodau, ac na thafler dy holl gorff i Gehenna. 30Ac os dy law ddeheu a bair i ti dramgwyddo,#5:30 Dynoda skandalon, yr hwn yw gwreidd‐air y ferf, y pren a ddaliai yr hud (bait) yn y fagl; yna magl, maen tramgwydd, achlysur cwymp. tor hi ymaith, a thafl oddiwrthyt; canys buddiol i ti golli un o'th aelodau, ac nac eled#5:30 Eled. א B Brnd. Thafler E L. dy holl gorff i Gehenna.
Am ysgariad priodasol.
31A dywedwyd,
“Pwy bynag a ollyngo ymaith ei wraig, rhodded iddi lythyr ysgar.”#Deut 24:1
32Ond yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi fod pob un a ollyngo ymaith ei wraig, ond o achos puteindra, yn peru iddi gael ei chyfrif yn odinebwraig#5:32 iddi gael ei chyfrif yn odineb‐wraig (neu i odineb gael ei gyflawnu arni) moicheuthenai א B D Brnd. Iddi wneuthur godineb — moichasthai L.; a#5:32 Gad. D. phwy bynag a briodo yr hon a ollyngwyd ymaith a odineba#5:32 Gad. D.
Am dyngu anudon.
33Trachefn, clywsoch y dywedwyd wrth yr hynafiaid,
“Na thwng anudon, eithr tâl i'r Arglwydd dy lwon.”#Ex 20:7; Lef 19:12
34Ond yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych, Na thwng o gwbl; nac i'r Nef, canys gorseddfa Duw ydyw; 35nac i'r ddaear, canys troedfainc ei draed ydyw; nac i Jerusalem, canys Dinas y Brenin Mawr ydyw. 36Ac na thwng i'th ben, am na elli wneuthur un blewyn yn wyn neu yn ddu. 37Eithr bydded eich ymadrodd chwi, Ie, ïe; Nag ê, nag ê; a pha beth bynag sydd dros ben y rhai hyn, o'r drwg#5:37 Neu o'r un drwg. y mae.
Am Ddial.
38Clywsoch y dywedwyd,
“Llygad am lygad, dant am ddant.”#Ex 21:24
39Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych chwi, Na wrthwynebwch yr hyn#5:39 Neu yr Hwn sydd ddrwg. sydd ddrwg, ond pwy bynag a'th darawo ar dy rudd ddeheu, tro y llall iddo hefyd. 40Ac i'r neb a fyno ymgyfreithio a thi, a dwyn dy wisg isaf#5:40 Neu dy grys, y dilledyn isaf a wisgid yn nesaf at y croen., gad iddo dy wisg uchaf#5:40 Y wisg uchaf, yr hon hefyd a wasanaethai fel diddoslen dros y nos. hefyd. 41A phwy bynag a'th ddirgymhello i wasanaeth#5:41 Dirgymhell i wasanaeth — berf o wreiddair Persiaidd, yn dynodi cymhell neu gorfodi dynion a dramwyent ar hyd y ffordd freninol i fod yn frysgenadwyr os byddai angen am eu gwasanaeth. am un filldir, dos gydag ef ddwy. 42Dyro i'r hwn a ofyno genyt; ac oddiwrth yr hwn a fenthycia#5:42 Golyga y ferf, benthycia ar log. genyt, na thro i ffwrdd.
Yn nghylch dygasedd.
[Luc 6:32–35]
43Clywsoch y dywedwyd,
“Car dy gymmydog, a chasha dy elyn” (Lef 19:17, 18).
44Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych chwi, cerwch eich gelynion#5:44 Bendithiwch y rhai a'ch melldithiant [yn D L E, 33, Gad. א B Brnd.] gwnewch dda i'r sawl a'ch cashant. [Yn D L Δ. Gad. א B Brnd] Tebygol fod y brawddegau hyn wedi eu cymmeryd o Luc 6:27, 28. Pe yn wir ran o'r gwreiddiol, nis gellir cyfrif am eu gadawiad allan yn yr hen lawysgrifau safonol., a gweddiwch dros y rhai#5:44 A wnel niwed i chwi D L. 33; Gad. א B. Brnd. Y mae y gair a gyfieithir a wnel niwed wedi ei gymmeryd o Luc 6:28, a golyga ymddwyn yn faleisus, sarhau, cyhuddo ar gam. a'ch erlidiant; 45fel y byddoch blant eich Tad, yr hwn sydd yn y Nefoedd; canys y mae efe yn peru i'w haul godi ar ddrwg a da, ac yn gwlawio ar gyfiawn ac annghyfiawn. 46Oblegyd os cerwch y sawl a'ch carant, pa wobr a gewch? Oni wna y Trethgasglwyr#5:46 Llythyrenol, treth‐brynwyr — y rhai a dalent swm pennodol i'r Llywodraeth Rufeinig yn lle y trethi a gasglent. Yr oeddynt, fel dosparth, yn chwannog i elw, yn dwyllodrus a chreulon. Lladin, publicani. yr un peth? 47Ac os cyferchwch well i'ch brodyr yn unig, pa beth rhagorach a wnewch? Oni wna y#5:47 Y Cenedloedd א B D Z, Brnd.; y Trethgasglwyr L. cenedloedd yr un peth? 48Chwi a fyddwch, gan hyny, yn berffaith,#5:48 Teleios, gorphenedig, cyflawn, o lawn dwf, addfed. Yma, nid yn unochrog yn eich cariad, ond yn caru fel Duw. fel y mae eich Tad Nefol yn berffaith.

Sélection en cours:

Matthew 5: CTE

Surbrillance

Partager

Copier

None

Tu souhaites voir tes moments forts enregistrés sur tous tes appareils? Inscris-toi ou connecte-toi