Luc 14
14
1A phan aeth ef i dŷ un o’r penaethiaid ymhlith y Phariseaid ar y Sabbath i fwyta bara, yr oeddent hwy yn ei wylied ef. 2Ac wele ger ei fron ryw ddyn a oedd yn glaf o’r dyfrglwyf. 3Ac atebodd yr Iesu, a dywedyd wrth y cyfreithwyr a’r Phariseaid, “Ai rhydd iacháu ar y Sabbath, ai nid yw?” 4Tewi a wnaethant hwythau. Gafaelodd yntau ynddo a’i iacháu, a’i ollwng ymaith. 5A dywedodd wrthynt, “Pwy ohonoch chwi y syrth mab#14:5 Gall fod yma lygriad cynnar o air yn golygu dafad neu asyn neu ych iddo i bydew, ac nis tyn ef i fyny yn ebrwydd ar y dydd Sabbath?” 6Ac ni allasant roi ateb i hyn.
7A dywedodd ddameg i’r gwahoddedigion, wrth sylwi pa fodd yr oeddent yn dewis y prif seddau, 8gan ddywedyd wrthynt, “Pan wahodder di gan rywun i neithior, nac eistedd yn y brif sedd, rhag ofn bod un anrhydeddusach na thi wedi ei wahodd ganddo, 9ac i’r hwn a’th wahoddodd di ac yntau ddyfod a dywedyd wrthyt, ‘Rho le i hwn,’ ac yna i tithau fynd a chymryd gyda chywilydd y lle isaf. 10Ond pan wahodder di, dos ac eistedd yn y lle isaf, fel, pan ddêl yr hwn a’th wahoddodd, y dywedo wrthyt, ‘Gyfaill, tyrd i fyny’n uwch’; yna bydd iti glod yng ngŵydd pawb sy’n cyd-eistedd â thi. 11Canys pob un sydd yn ei ddyrchafu ei hun a ostyngir, a’r neb sydd yn ei ostwng ei hun a ddyrchefir.” 12Ac meddai hefyd wrth yr hwn a’i gwahoddodd, “Pan wnelych ginio neu swper, paid â galw dy gyfeillion na’th frodyr na’th geraint na chymdogion cyfoethog, rhag iddynt hwythau yn eu tro dy wahodd di, ac i tithau gael ad-daliad. 13Ond pan wnelych wledd, galw dlodion, efryddion, cloffion, deillion; 14a dedwydd fyddi, am nad oes ganddynt fodd i dalu’n ôl i ti; canys telir yn ôl i ti yn atgyfodiad y rhai cyfiawn.”
15Pan glywodd un o’r rhai oedd yn cyd-eistedd y pethau hyn, fe ddywedodd wrtho, “Gwyn ei fyd y neb a fwytao fara yn nheyrnas Dduw.” 16Dywedodd yntau wrtho, “Yr oedd rhyw ddyn yn gwneuthur swper mawr, a gwahoddodd lawer; 17a danfonodd ei was ar awr y swper i ddywedyd wrth y gwahoddedigion, ‘Deuwch, canys y mae’n awr yn barod.’ 18A dechreuasant bawb yn unfryd ymesgusodi. Dywedodd y cyntaf wrtho, ‘Prynais faes, ac y mae’n rhaid i mi fynd a’i weled; atolwg, cymer fi’n esgusodol.’ 19A dywedodd un arall, ‘Prynais bum iau o ychen, ac yr wyf yn mynd i’w profi; atolwg, cymer fi’n esgusodol.’ 20A dywedodd un arall, ‘Priodais wraig, ac am hynny ni allaf ddyfod.’ 21A daeth y gwas, a mynegi hyn i’w arglwydd. Yna ffromodd gŵr y tŷ, a dywedodd wrth ei was, ‘Dos allan ar frys i heolydd a strydoedd y ddinas, a dwg yma’r tlodion a’r efryddion a’r deillion a’r cloffion.’ 22A dywedodd y gwas, ‘Arglwydd, gwnaethpwyd fel y gorchmynnaist, ac eto y mae lle.’ 23A dywedodd yr arglwydd wrth y gwas, ‘Dos allan i’r ffyrdd a’r caeau, a chymell hwynt i ddyfod i mewn, fel y llanwer fy nhŷ.’ 24Canys dywedaf i chwi na chaiff yr un o’r gwŷr hynny a wahoddwyd brofi o’m swper i.”
25Yr oedd tyrfaoedd lawer yn cyd-deithio ag ef, a throes a dywedodd wrthynt, 26“Os yw neb yn dyfod ataf i, ac nid yw’n casáu ei dad a’i fam a’i wraig a’i blant a’i frodyr a’i chwiorydd, ie, a’i fywyd ei hun, ni all fod yn ddisgybl i mi. 27Y neb nid yw’n dwyn ei groes ac yn dyfod ar fy ôl i, ni all fod yn ddisgybl i mi. 28Canys pwy ohonoch, a chanddo chwant adeiladu tŵr, nid eistedd yn gyntaf, a chyfrif y draul, a oes ganddo ddigon i’w ddibennu? 29Rhag ofn, wedi iddo osod sylfaen a heb allu gorffen, i bawb a’i gwêl ddechrau ei watwar, 30a dywedyd, ‘Dechreuodd y dyn hwn adeiladu, ac ni allodd orffen.’ 31Neu pa frenin, ar ei hynt i ymladd brwydr yn erbyn brenin arall, nid eistedd yn gyntaf, ac ymgynghori a all ef â deng mil wynebu’r hwn sy’n dyfod yn ei erbyn ag ugain mil? 32Onid e, ac yntau eto ymhell, fe enfyn genhadau i ofyn am heddwch. 33Felly, ynteu, pob un ohonoch chwithau nid ymadawo â’i holl eiddo, ni all fod yn ddisgybl i mi. 34Da, yn wir, yw’r halen; Ond os cyll yr halen yntau ei rin, â pha beth y rhoir blas arno? 35Nid yw’n addas nac i’r tir nac i’r domen; allan y bwriant ef. Y neb sydd ganddo glustiau i wrando, gwrandawed.”
Tällä hetkellä valittuna:
Luc 14: CUG
Korostus
Jaa
Kopioi
Haluatko, että korostuksesi tallennetaan kaikille laitteillesi? Rekisteröidy tai kirjaudu sisään
© Urdd y Graddedigion, Prifysgol Cymru 1945
© Guild of Graduates, University of Wales 1945