Luc 13

13
1A daeth rhywrai’r pryd hwnnw, a mynegi iddo am y Galileaid y cymysgodd Pilat eu gwaed â’u haberthau. 2Ac atebodd iddynt, “A dybiwch fod y Galileaid hyn yn bechaduriaid mwy na’r Galileaid oll, am iddynt ddioddef y pethau hyn? 3Na, meddaf i chwi; eithr onid edifarhewch, fe’ch difethir chwi oll yn gyffelyb. 4Neu’r deunaw hynny y syrthiodd y tŵr yn Siloam arnynt a’u lladd, a dybiwch eu bod hwy’n droseddwyr mwy na’r holl ddynion sy’n trigo yng Nghaersalem? 5Na, meddaf i chwi; eithr oni bydd edifar gennych, fe’ch difethir chwi oll yr un modd.” 6A dywedodd y ddameg hon. “Yr oedd gan un ffigysbren wedi ei blannu yn ei winllan, ac fe ddaeth i geisio ffrwyth arno, ac nis cafodd. 7A dywedodd wrth y gwinllannwr, ‘Ers tair blynedd iti yr wyf yn dyfod i geisio ffrwyth ar y ffigysbren hwn a heb ei gael; tor ef i lawr; i beth hefyd y mae’n diffrwytho’r tir?’ 8Ond atebodd yntau iddo, ‘Arglwydd, gad ef y flwyddyn hon eto, nes imi gloddio o’i gwmpas, a bwrw tail; 9ac os dwg ffrwyth rhag llaw, da; onid e, gelli ei dorri ef i lawr.’ ”
10Yr oedd yn dysgu yn un o’r synagogau ar y Sabbath. 11Ac wele wraig a chanddi ysbryd gwendid ers deunaw mlynedd, ac yr oedd hi yn ei chwman, ac ni allai ymunioni yn hollol. 12Wedi i’r Iesu ei gweled hi, galwodd arni a dywedodd wrthi, “Wraig, gollyngwyd di o’th wendid” 13a dododd ei ddwylo arni; ac yn ebrwydd ymsythodd, a dechrau gogoneddu Duw. 14Ac atebodd y pensynagogydd, yn ffyrnigo am i’r Iesu iacháu ar y Sabbath, a dywedodd wrth y dyrfa, “Chwe diwrnod sydd y dylid gweithio ynddynt; ar y rhain, ynteu, deuwch i gael meddyginiaeth, ac nid ar y dydd Sabbath.” 15Atebodd yr Arglwydd iddo, “Ragrithwyr, oni ollwng pob un ohonoch ar y Sabbath ei ych neu ei asyn o’r preseb, a mynd ag ef ymaith i gael dŵr? 16Hon, a hithau’n ferch i Abraham, a rwymodd Satan, ie, ddeunaw mlynedd, oni ddylesid ei gollwng o’r rhwymyn hwn ar y dydd Sabbath?” 17Ac wrth iddo ddywedyd hyn cywilyddiai pawb a’i gwrthwynebai, a’r holl dyrfa a lawenychai am yr holl bethau gogoneddus a wneid ganddo ef.
18Felly meddai, “I beth y mae teyrnas Dduw yn gyffelyb, ac i beth y cyffelybaf hi? 19Cyffelyb yw i ronyn mwstard, a gymerth dyn a’i fwrw i’w ardd, a chynyddodd ac aeth yn bren, ac adar yr awyr a nythodd yn ei gangau.” 20A dywedodd drachefn, “I beth y cyffelybaf deyrnas Dduw? 21Cyffelyb yw i surdoes a gymerth gwraig a’i guddio mewn tri phecaid o flawd, hyd oni surodd y cwbl.”
22A thramwyai trwy ddinasoedd a phentrefi, gan ddysgu, ar ei ffordd tua Chaersalem. 23A dywedodd rhywun wrtho, o “Arglwydd, ai ychydig yw’r rhai sy’n cael eu cadw?” Dywedodd yntau wrthynt, 24“Ymdrechwch i fyned i mewn trwy’r drws cul; canys llawer, meddaf i chwi, a gais fyned i mewn, ac ni lwyddant. 25Wedi i ŵr y tŷ gyfodi a chau’r drws, ac i chwithau ddechrau sefyll oddi allan a churo’r drws gan ddywedyd, ‘Arglwydd, agor i ni’ ac iddo yntau ateb a dywedyd wrthych, ‘Ni’ch adwaen chwi, o ba le yr ydych,’ 26yna chwi ddechreuwch ddywedyd, ‘Bwytasom ac yfasom yn dy ŵydd, a dysgaist yn ein heolydd ni’; 27ac fe ddywed wrthych, ‘Ni wn o ba le yr ydych; ymadewch oddi wrthyf, holl weithredwyr anghyfiawnder.’ 28Yno y bydd yr wylofain a’r rhincian dannedd, pan welwch Abraham ac Isaac ac Iacob a’r holl broffwydi yn nheyrnas Dduw, a chwithau yn cael eich bwrw allan. 29A deuant o’r dwyrain a’r gorllewin ac o’r gogledd a’r dehau, ac eisteddant wrth y bwrdd yn nheyrnas Dduw. 30Ac wele, y mae rhai yn olaf a fydd yn flaenaf, ac y mae rhai yn flaenaf a fydd yn olaf.”
31Y pryd hwnnw daeth rhai Phariseaid ato, a dywedyd wrtho, “Dos ymaith, a cherdd oddi yma, canys y mae Herod yn ewyllysio dy ladd di.” 32A dywedodd wrthynt, “Ewch a dywedwch wrth y cadno hwnnw, Wele, yr wyf yn bwrw allan gythreuliaid ac yn iacháu cleifion heddiw ac yfory, a’r trydydd dydd fe’m perffeithir. 33Eithr rhaid i mi deithio heddiw ac yfory a thrennydd, canys ni all y derfydd am broffwyd allan o Gaersalem. 34Gaersalem, Gaersalem, ti sy’n lladd y proffwydi a llabyddio’r rhai a anfonwyd ati — pa sawl gwaith y mynnais gasglu dy blant ynghyd, fel iâr ei chywion dan ei hadenydd, ac nis mynnech! 35Wele, eich tŷ chwi a adewir. Ac meddaf i chwi, ni’m gwelwch i nes daw’r amser pan ddywedoch, Bendigedig yw’r un sy’n dyfod yn enw’r Arglwydd.”

Tällä hetkellä valittuna:

Luc 13: CUG

Korostus

Jaa

Kopioi

None

Haluatko, että korostuksesi tallennetaan kaikille laitteillesi? Rekisteröidy tai kirjaudu sisään