Ioan 6

6
1Ar ôl hynny aeth yr Iesu ymaith dros fôr Galilea, môr Tiberias, 2ac yr oedd tyrfa fawr yn ei ganlyn am eu bod yn gweled yr arwyddion a wnâi ar y cleifion. 3Ond aeth Iesu i fyny i’r mynydd ac yno yr eisteddai gyda’i ddisgyblion. 4Ac yr oedd y pasg, gŵyl yr Iddewon, yn agos. 5Felly wedi codi ei olygon a gweled bod tyrfa fawr yn dyfod ato, medd ef wrth Phylip: “O ba le y prynwn fara i’r rhain i gael bwyd?” 6Dywedyd hyn yr oedd i’w brofi, canys gwyddai ef beth yr oedd am ei wneuthur. 7Atebodd Phylip iddo: “Nid yw gwerth dau can ceiniog o fara yn ddigon iddynt, i bob un i gael rhyw dameidyn.” 8Medd un o’i ddisgyblion wrtho, Andreas brawd Simon Pedr: 9“Y mae yma fachgen bach a chanddo bum torth haidd a dau bysgodyn, ond beth yw hynny rhwng cynifer?” 10Dywedodd yr Iesu: “Gwnewch i’r bobl orwedd i lawr,” (yr oedd glaswellt lawer yn y lle). Felly gorweddodd y dynion, a’u rhif tua phum mil. 11Yna cymerth yr Iesu y torthau ac wedi diolch rhannodd hwy rhwng y rhai oedd yn gorwedd, ac yn yr un modd hefyd o’r pysgod, faint a fynnent. 12A phan ddigonwyd hwy, medd ef wrth ei ddisgyblion: “Cesglwch y darnau sydd yn weddill rhag difetha dim.” 13Felly casglasant, a llanwasant ddeuddeg basged â darnau o’r pum torth haidd oedd yn weddill gan y rhai a fwytasai. 14Dywedodd y bobl, gan hynny, wedi gweled yr arwydd a wnaeth: “Hwn yn wir yw’r proffwyd sy’n dyfod i’r byd.” 15Felly, wedi deall bod yn eu bryd ddyfod a’i gipio i’w wneuthur yn frenin, ciliodd yr Iesu yn ôl i’r mynydd ar ei ben ei hun. 16A phan aeth yn hwyr, aeth ei ddisgyblion i lawr i’r môr, 17ac wedi myned i long, yr oeddynt ar eu ffordd dros y môr i Gapernaum. Ac yr oedd hi eisoes wedi tywyllu, 18a’r Iesu heb ddyfod atynt, a’r môr oedd yn dygyfor gan wynt mawr yn chwythu. 19Felly wedi rhwyfo tua phum neu ddeg ystad ar hugain, y maent yn gweled yr Iesu’n rhodio ar y môr ac yn dyfod yn agos i’r llong, a daeth ofn arnynt. 20Medd yntau wrthynt: “Myfi sydd yma, peidiwch ag ofni;” 21felly derbyniasant ef yn llawen i’r llong, ac ar unwaith yr oedd y llong wrth y lan yr oeddynt yn hwylio ati.
22Trannoeth gwelodd y dyrfa oedd wedi aros yr ochr draw i’r môr na bu dim cwch arall yno ond un, ac nad aethai’r Iesu gyda’i ddisgyblion i’r llong ond mai’r disgyblion yn unig a aethai ymaith. 23Ond daeth cychod #6:23 Neu: daeth cychod eraill. o Diberias yn agos i’r lle y bwytasent y bara wedi i’r Arglwydd roddi diolch. 24Felly pan welodd y dyrfa nad oedd Iesu yno na’i ddisgyblion, aethant hwythau i’r cychod, a daethant i Gapernaum gan geisio’r Iesu, 25a phan gawsant ef yr ochr arall i’r môr, dywedasant wrtho: “Rabbi, pa bryd y daethost yma?” 26Atebodd yr Iesu iddynt a dywedodd: “Ar fy ngwir, meddaf i chwi, yr ydych yn fy ngheisio i nid am i chwi weled arwyddion, ond am i chwi fwyta o’r bara a chael digon. 27Gweithiwch nid am y bwyd sy’n darfod ond am y bwyd sy’n para i fywyd tragwyddol, a ddyry mab y dyn i chwi. Canys arno ef y rhoes y tad, sef Duw, ei sêl.” 28Meddent hwythau wrtho: “Beth a wnawn ni fel y gweithiom waith#6:28 Groeg, yn y lluosog. Duw?” 29Atebodd Iesu a dywedodd wrthynt: “Dyma waith Duw, credu ohonoch yn yr hwn a anfonodd ef.” 30Ac meddent wrtho: “Beth felly a wnei’n arwydd inni weled a chredu ynot? Pa waith a wnei? 31Bwytaodd ein tadau y manna yn yr anialwch, fel y mae’r ysgrythur: Bara o’r nef a roes iddynt i’w fwyta.” 32Meddai’r Iesu felly wrthynt: “Ar fy ngwir, meddaf i chwi, nid Moesen a roes i chwi’r bara o’r nefoedd, ond fy nhad sydd yn rhoddi i chwi’r gwir fara o’r nefoedd, 33canys bara Duw ydyw hwnnw sy’n dyfod i lawr o’r nefoedd, ac yn rhoddi bywyd i’r byd.” 34Meddent hwythau wrtho: “Syr, #6:34 Neu: Arglwydd. dyro inni bob amser y bara hwn.” 35Medd yr Iesu wrthynt: “Myfi ydyw bara’r bywyd. Y neb a ddaw ataf i, ni ddaw newyn arno byth, a’r neb sy’n credu ynof i, ni ddaw syched arno byth. 36Ond dywedais wrthych eich bod wedi fy ngweled ac eto eich bod heb gredu. 37Y cwbl a ddyry’r tad i mi, daw hynny ataf, ac am yr hwn a ddaw ataf i, nis bwriaf ef allan ddim, 38oblegid deuthum i lawr o’r nefoedd, nid i wneuthur f’ewyllys fy hun, ond ewyllys yr hwn a’m hanfonodd i. 39A hyn yw ewyllys yr hwn a’m hanfonodd, — o’r cwbl a roes imi na chollwyf ddim, ond ei atgyfodi yn y dydd diwethaf. 40Canys hyn yw ewyllys fy nhad, i bob un sy’n edrych ar y mab ac yn credu ynddo gael bywyd tragwyddol, a minnau a’i hatgyfodaf ef yn y dydd diwethaf.”
41Felly dechreuodd yr Iddewon furmur amdano am iddo ddywedyd, “Myfi yw’r bara a ddaeth i lawr o’r nefoedd,” 42a dywedasant: “Onid Iesu yw hwn, fab Ioseff, a ninnau’n adnabod ei dad a’i fam? Pa fodd y mae’n dywedyd yr awron, ‘O’r nefoedd yr wyf wedi dyfod i lawr’?” 43Atebodd Iesu a dywedodd wrthynt: “Peidiwch â murmur drwy’ch gilydd. 44Ni all neb ddyfod ataf i heb i’r tad a’m hanfonodd ei dynnu ef, ac atgyfodaf innau ef yn y dydd diwethaf. 45Y mae adnod yn y proffwydi: ‘A byddant bawb dan addysg Duw.’ Daw pawb sydd wedi gwrando ar Dduw a dysgu ataf i; 46nid bod neb wedi gweled y tad, oddieithr y neb sydd oddiwrth Dduw, gwelodd hwnnw y tad. 47Ar fy ngwir, meddaf i chwi, y mae gan yr hwn a gredo fywyd tragwyddol. 48Myfi yw bara’r bywyd. 49Bwytaodd eich tadau yn yr anialwch y manna, a buont feirw. 50Hwn yw’r bara sy’n dyfod i lawr o’r nefoedd, yn gyfryw ag na bo farw y neb a fwytao ohono. 51Myfi yw’r bara byw a ddaeth i lawr o’r nefoedd. Os bwyta neb o’r bara hwn, bydd fyw yn dragwyddol. A’r bara, meddaf, a roddaf i, fy nghnawd i ydyw dros fywyd y byd.” 52Felly ymrysonai’r Iddewon drwy’i gilydd a dywedyd: “Pa fodd y gall hwn roddi i ni ei gnawd i’w fwyta?” 53Yna meddai’r Iesu wrthynt: “Ar fy ngwir, meddaf i chwi, oni fwytewch gnawd mab y dyn ac yfed ei waed, nid oes gennych fywyd ynoch eich hunain. 54Y mae gan y neb a fwytao fy nghnawd i, ac a yfo fy ngwaed i, fywyd tragwyddol, ac atgyfodaf innau ef yn y dydd diwethaf. 55Canys fy nghnawd i sydd wir fwyd, a’m gwaed i ’n wir ddiod. 56Y neb a fwytao fy nghnawd i ac a yfo fy ngwaed i, erys hwn ynof i a minnau ynddo yntau. 57Megis yr anfonodd y tad byw fi, a minnau’n byw drwy’r tad, felly hefyd am yr hwn a’m bwytao i, bydd yntau fyw trwof i. 58Hwn yw’r bara a ddaeth i lawr o’r nefoedd, nid fel y tadau’n bwyta a marw; y neb a fwytao’r bara hwn, bydd ef fyw yn dragywydd.” 59Hyn a ddywedodd mewn synagog wrth ddysgu yng Nghapernaum.
60Ac meddai llawer a’i clywodd o’i ddisgyblion gan hynny: “Caled yw’r gair hwn. Pwy a all wrando arno?” 61Ond meddai’r Iesu wrthynt, ag yntau’n gwybod ynddo’i hun fod ei ddisgyblion yn murmur am hyn: “Ai hyn sydd yn eich maglu? 62Beth felly os gwelwch fab y dyn yn myned i fyny i’r lle yr oedd gynt? 63Yr ysbryd sy’n peri bywyd, nid oes dim grym yn y cnawd. Y geiriau a ddywedais i wrthych, ysbryd ydynt a bywyd ydynt. 64Ond y mae rhai ohonoch sydd heb fod yn credu.” Canys gwyddai’r Iesu o’r dechreu pwy oedd y rhai oedd heb fod yn credu a phwy fyddai ei fradychwr. 65Ac meddai ef: “Oherwydd hyn y dywedais wrthych na all neb ddyfod ataf i heb fod hynny wedi ei roddi iddo gan y tad.” 66O hynny allan aeth llawer o’i ddisgyblion yn eu holau, ac ni rodient mwy gydag ef. 67Meddai’r Iesu felly wrth y deuddeg: “Nid oes awydd myned ymaith arnoch chwithau hefyd, a oes?” 68Atebodd Simon Pedr iddo: “Arglwydd, at bwy yr awn oddiwrthyt? Geiriau bywyd tragwyddol sydd gennyt, 69ac yr ydym ni wedi credu ac yn gwybod mai ti yw sanct Duw.” 70Atebodd yr Iesu iddynt: “Oni’ch ddewisais chwi’r deuddeg? ac ohonoch y mae un yn gythraul.” 71Sôn yr oedd am Iwdas fab Simon o Gerioth, canys hwn wedi hynny a’i bradychai ef, ag yntau’n un o’r deuddeg.

Tällä hetkellä valittuna:

Ioan 6: CUG

Korostus

Jaa

Kopioi

None

Haluatko, että korostuksesi tallennetaan kaikille laitteillesi? Rekisteröidy tai kirjaudu sisään