Ioan 5

5
1Wedi hynny yr oedd gŵyl yr Iddewon, ac aeth Iesu i fyny i Gaersalem. 2Ac y mae yng Nghaersalem, wrth y Ddefeidiog, lyn a’i enw Bethsatha#5:2 Bethesda. yn Hebraeg, a phum porth iddo. 3Yn y rhain gorweddai tyrfa o gleifion, yn ddeillion, cloffion, gwywedigion. #5:3 Mewn rhai llawysgrifau diweddar, ychwanegir: 4 Yn disgwyl am symudiad yn y dwfr, oherwydd disgynnai angel [yr Arglwydd] ar brydiau i’r llyn a chynhyrfai’r dwfr, a’r cyntaf a âi i mewn ar ôl cynhyrfiad y dwfr, âi hwnnw’n iach, pa glefyd bynnag a fyddai arno ar y pryd. 5Ac yr oedd yno un wedi bod dan ei glefyd am ddeunaw mlynedd ar hugain. 6Pan welodd yr Iesu hwn yn gorwedd, a gwybod ei fod felly ers talm bellach, dywed wrtho: “A fynni di ddyfod yn iach?” 7Atebodd y claf iddo: “Syr, neb nid oes gennyf, pan gynhyrfer y dwfr, i’m bwrw i’r llyn, ond tra fwyf i’n dyfod, â rhywun arall i lawr o’m blaen i.” 8Medd yr Iesu wrtho: “Saf, cyfod dy wely a cherdda.” 9Ac ar unwaith aeth y dyn yn iach, a dyma ef yn codi ei wely ac yn cerdded. Ac yr oedd hi’n Sabath ar y dydd hwnnw: 10am hynny dywedodd yr Iddewon wrth y dyn a iachasid: “Y mae hi’n Sabath, ac nid yw’n iawn iti godi’r gwely.” 11Ond atebodd yntau iddynt: “Yr hwn a’m gwnaeth yn iach, hwnnw a ddywedodd wrthyf, ‘Cyfod dy wely a cherdda.’ ” 12Gofynasant iddo: “Pwy ydyw’r hwn a ddywedodd wrthyt, ‘Cyfod a cherdda’?” 13Ond ni wyddai’r hwn a iachasid pwy oedd, canys ciliasai’r Iesu gan fod tyrfa yn y lle. 14Wedi hynny caiff yr Iesu ef yn y cysegr a dywedodd wrtho: “Dyma di wedi dy iacháu; paid â phechu mwyach rhag digwydd rhywbeth gwaeth iti.” 15Aeth y dyn ymaith a dywedodd wrth yr Iddewon mai Iesu oedd yr hwn a’i gwnaeth yn iach. 16Ac am hynny yr oedd yr Iddewon am erlid yr Iesu, am ei fod yn gwneuthur y pethau hyn ar y Sabath. 17Atebodd yntau iddynt: “Y mae fy nhad i’n dal i weithio, ac yr wyf innau’n gweithio.” 18Am hynny yr oedd yr Iddewon yn ceisio’n fwy ei ladd ef, am iddo nid yn unig dorri’r Sabath, ond hefyd alw Duw’n dad iddo’i hunan, a’i wneuthur ei hunan yn gyfartal â Duw. 19Atebodd yr Iesu felly a dywedodd wrthynt: “Ar fy ngwir, meddaf i chwi, ni all y mab wneuthur dim ohono’i hunan, ond yr hyn a wêl y tad yn ei wneuthur. Canys y pethau a wnêl ef, dyna’r pethau a wna’r mab yn yr un modd. 20Canys y mae’r tad yn caru’r mab ac yn dangos iddo bopeth a wna ei hunan, a gweithredoedd mwy na’r rhain a ddengys ef iddo nes synnu ohonoch: 21oherwydd fel y mae’r tad yn atgyfodi’r meirw ac yn eu bywhau, felly y mae’r mab hefyd yn bywhau y rhai a fynn, 22oherwydd nid yw’r tad yn barnu neb ond y mae wedi rhoddi pob barn i’r mab, 23er mwyn i bawb anrhydeddu’r mab fel y maent yn anrhydeddu’r tad. Yr hwn nid yw’n anrhydeddu’r mab, nid yw’n anrhydeddu’r tad a’i hanfonodd ef. 24Ar fy ngwir; meddaf i chwi, y neb sy’n gwrando ar fy ngair i ac yn credu i’r hwn a’m hanfonodd i, y mae ganddo, ef fywyd tragwyddol, ac i farn ni ddaw, ond y mae wedi croesi o farwolaeth i fywyd. 25Ar fy ngwir, meddaf i chwi; y mae adeg yn dyfod ac yn awr y mae, pan glywo’r meirw lais mab Duw a bydd byw y rhai a’i clywodd. 26Canys megis y mae gan y tad fywyd ynddo’i hunan, felly hefyd y rhoes i’r mab fod iddo fywyd ynddo’i hunan. 27A hawl a roes iddo i wneuthur barn am ei fod yn fab dyn. 28Na ryfeddwch at hyn, am fod adeg yn dyfod pan glyw pawb sydd yn eu beddau ei lais ef, 29a dyfod allan, y rhai a wnaeth dda i atgyfodiad bywyd, y rhai a wnaeth ddrwg i atgyfodiad barn. 30Ni allaf i wneuthur dim ohonof fy hunan; fel yr wyf yn clywed yr wyf yn barnu, ac y mae fy marn yn gyfiawn, am nad wyf yn ceisio fy ewyllys i ond ewyllys yr hwn a’m hanfonodd i. 31Os tystiaf i amdanaf fy hun, nid gwir yw fy nhystiolaeth i. 32Arall yw’r hwn sy’n tystio amdanaf i, a gwn mai gwir yw’r dystiolaeth a dystia ef amdanaf. 33Danfonasoch chwi at Ioan, a thystiodd ef i’r gwirionedd. 34Minnau, nid gan ddyn yr wyf yn derbyn tystiolaeth, ond fy mod yn dywedyd y pethau hyn fel y’ch cadwer chwi. 35Hwnnw oedd y lamp yn llosgi ac yn goleuo, a chwithau fuoch foddlon i orfoleddu am ennyd yn ei oleu ef. 36Ond gennyf i y mae tystiolaeth sydd fwy nag eiddo Ioan, canys y gweithredoedd a roes y tad imi i’w dwyn i ben, — y gweithredoedd hynny yr wyf yn eu gwneuthur, — sydd yn tystio amdanaf mai’r tad a’m hanfonodd. 37A’r tad a’m hanfonodd, hwnnw sydd wedi tystio amdanaf. Ei lais ef nis clywsoch chwi erioed, a’i lun nis gwelsoch, 38a’i air ef nid yw gennych yn aros ynoch, oherwydd yr hwn a anfonodd ef, ni chredwch ynddo. 39Yr ydych yn chwilio’r ysgrythurau, am eich bod yn tybio cael ynddynt fywyd tragwyddol, a’r rheiny sydd yn tystio amdanaf i, 40eto ni fynnwch ddyfod ataf i, i gael bywyd. 41Clod gan ddynion nid wyf yn ei dderbyn, 42ond adwaen chwi nad oes gennych gariad Duw ynoch. 43Yr wyf i wedi dyfod yn enw fy nhad, ac nid ydych yn fy nerbyn; os daw arall yn ei enw ei hun, chwi dderbyniwch hwnnw. 44Pa fodd y gellwch chwi gredu a chwithau’n derbyn clod y naill gan y llall a heb geisio’r clod a ddaw oddiwrth yr unig Dduw? 45Na thybiwch y cyhuddaf i chwi ger bron y tad; y mae a’ch cyhudda chwi, Moesen, y gŵr yr ydych chwi wedi gobeithio ynddo. 46Canys pe credech ym Moesen, credech ynof i, oherwydd amdanaf i yr ysgrifennodd hwnnw. 47Eithr onid ydych yn credu yn ei ysgrifeniadau ef, pa fodd y credwch yn fy ngeiriau i?”

Tällä hetkellä valittuna:

Ioan 5: CUG

Korostus

Jaa

Kopioi

None

Haluatko, että korostuksesi tallennetaan kaikille laitteillesi? Rekisteröidy tai kirjaudu sisään