Salmau 46

46
SALM XLVI
DUW YN GYSGOD SICR RHAG CYFYNGDERAU.
‘O Lyfr Canu’r Pencerdd. Salm y Corachiaid.
I leisiau bechgyn.’
1Duw sydd gysgod ac amddiffynfa i ni,
Yn helaeth y ceir Ei gymorth mewn trallodion.
2Am hynny nid ofnwn ddim, er newid o’r ddaear,
A threiglo o’r mynyddoedd i ganol yr eigion.
3Rhued y môr, ac ewynned ei ddyfroedd,
A chryned y mynyddoedd gan ei ymchwydd:
O’n plaid y mae Arglwydd y Lluoedd,
Tŵr uchel i ni yw Duw Iacob.
4Y mae afon sydd a’i ffrydiau yn llawenhau
Dinas Duw; y Goruchaf a sancteiddiodd Ei breswylfa.
5Duw sydd o’i mewn: nid ysgogir hi.
Pan dorro’r wawr, Duw a’i cynorthwya.
6Rhuodd y cenhedloedd, siglodd y teyrnasoedd:
Yntau a daranodd a thoddodd y ddaear.
7 O’n plaid y mae Arglwydd y Lluoedd,
Tŵr uchel i ni yw Duw Iacob.
8Deuwch, gwelwch weithredoedd Iehofa,
Y mawr ddifrod a wnaeth Ef ar y ddaear.
9Y mae’n rhoddi terfyn ar ryfeloedd hyd eithaf y ddaear,
Y mae’n dryllio’r bwa, ac yn torri’r waywffon,
Ac yn llosgi cerbydau â thân.
10“Ymateliwch a chydnabyddwch Fi yn Dduw,
Dros bob cenedl a thros yr holl fyd.”
O’n plaid y mae Arglwydd y Lluoedd,
Tŵr uchel i ni yw Duw Iacob.
salm xlvi
CÂN a gyfansoddwyd i ddathlu gwaredigaeth ryfedd Ieriwsalem rhag lluoedd Senacherib. Y mae cyfeiriad pendant yn adn. 5 at Es. 37:36, “a phan gyfodasant fore drannoeth, wele hwynt oll yn gelaneddau meirwon”.
Y mae’r awdur yn gyfarwydd â daeargrynfâu, a dichon iddo brofi eu cynhyrfiadau wrth odre mynydd Carmel, a gweld darnau o’r mynydd yn treiglo i’r môr.
Y mae’n hysbys i bawb mai dyma’r Salm sy’n sail i emyn enwog Luther.
Nodiadau
1, 2, 3: Disgrifiad byw o ddaeargryn, ac er i drallodion bywyd fod mor gynhyrfus â hynny, y mae Duw yn gysgod diogel rhagddynt. Digwydd y cytgan deirgwaith yn y Salm, ond gadawyd ef allan ar ôl y 3 adnod, ac adferir ef yma.
4, 5, 6: Y mae noddfa ddiogel rhag trallodion yn Ninas Duw, a ffigur o bresenoldeb Duw a’i gysuron ydyw’r afon a’i ffrydiau, a gwaith dwfr Hesecia a’r pibellau cerrig a’i dug i’r ddinas sydd yn ei feddwl (2 Br. 20:20). Sancteiddiodd Duw Ei breswylfa fel na all gelyn ddyfod ati i’w halogi a’i difetha.
8, 9, 10: Galwad i edrych ar ryfeddodau Iehofa yn arbennig ei waith yn rhoddi terfyn ar ryfeloedd, trwy beri difrod ar genhedloedd mawr rhyfelgar fel Asyria. Y mae’r darlun o Dduw yn dryllio offerynnau rhyfel yn ysbryd y proffwydi, Hos. 2:20; Es. 9:4.
Pynciau i’w Trafod:
1. Ystyriwch y defnydd a wnaeth Luther o’r Salm hon yn ei emyn mawr, “Ein nerth a’n cadarn dŵr yw Duw”. (Rhif 83 Llyfr Emynau M.C.).
2. A ydych yn cytuno â ni fod yn y Salm hon gyfeiriad at gwymp sydyn Senacherib?
3. A ydyw ffyddlondeb i Dduw yn rhoddi diogelwch i genhedloedd? Yng ngoleuni’r ail bennill ystyriwch ddywediad Hegel, “Os bydd gan genedl syniad gwael am Dduw, bydd ganddi hefyd wladwriaeth wael a llywodraeth wael”, a gallwn ychwanegu, “amddiffyn gwael”.

Tällä hetkellä valittuna:

Salmau 46: SLV

Korostus

Jaa

Kopioi

None

Haluatko, että korostuksesi tallennetaan kaikille laitteillesi? Rekisteröidy tai kirjaudu sisään