Suosittuja jakeita Raamatun kirjasta Salmau 46

“Ymateliwch a chydnabyddwch Fi yn Dduw, Dros bob cenedl a thros yr holl fyd.” O’n plaid y mae Arglwydd y Lluoedd, Tŵr uchel i ni yw Duw Iacob. SALM XLVI CÂN a gyfansoddwyd i ddathlu gwaredigaeth ryfedd Ieriwsalem rhag lluoedd Senacherib. Y mae cyfeiriad pendant yn adn. 5 at Es. 37:36, “a phan gyfodasant fore drannoeth, wele hwynt oll yn gelaneddau meirwon”. Y mae’r awdur yn gyfarwydd â daeargrynfâu, a dichon iddo brofi eu cynhyrfiadau wrth odre mynydd Carmel, a gweld darnau o’r mynydd yn treiglo i’r môr. Y mae’n hysbys i bawb mai dyma’r Salm sy’n sail i emyn enwog Luther. 1, 2, 3: Disgrifiad byw o ddaeargryn, ac er i drallodion bywyd fod mor gynhyrfus â hynny, y mae Duw yn gysgod diogel rhagddynt. Digwydd y cytgan deirgwaith yn y Salm, ond gadawyd ef allan ar ôl y 3 adnod, ac adferir ef yma. 4, 5, 6: Y mae noddfa ddiogel rhag trallodion yn Ninas Duw, a ffigur o bresenoldeb Duw a’i gysuron ydyw’r afon a’i ffrydiau, a gwaith dwfr Hesecia a’r pibellau cerrig a’i dug i’r ddinas sydd yn ei feddwl (2 Br. 20:20). Sancteiddiodd Duw Ei breswylfa fel na all gelyn ddyfod ati i’w halogi a’i difetha. 8, 9, 10: Galwad i edrych ar ryfeddodau Iehofa yn arbennig ei waith yn rhoddi terfyn ar ryfeloedd, trwy beri difrod ar genhedloedd mawr rhyfelgar fel Asyria. Y mae’r darlun o Dduw yn dryllio offerynnau rhyfel yn ysbryd y proffwydi, Hos. 2:20; Es. 9:4. 1. Ystyriwch y defnydd a wnaeth Luther o’r Salm hon yn ei emyn mawr, “Ein nerth a’n cadarn dŵr yw Duw”. (Rhif 83 Llyfr Emynau M.C.). 2. A ydych yn cytuno â ni fod yn y Salm hon gyfeiriad at gwymp sydyn Senacherib? 3. A ydyw ffyddlondeb i Dduw yn rhoddi diogelwch i genhedloedd? Yng ngoleuni’r ail bennill ystyriwch ddywediad Hegel, “Os bydd gan genedl syniad gwael am Dduw, bydd ganddi hefyd wladwriaeth wael a llywodraeth wael”, a gallwn ychwanegu, “amddiffyn gwael”.