Genesis 8

8
Diwedd y Dilyw
1Cofiodd Duw am Noa a'r holl fwystfilod a'r holl anifeiliaid oedd gydag ef yn yr arch. Parodd Duw i wynt chwythu dros y ddaear, a gostyngodd y dyfroedd; 2caewyd ffynhonnau'r dyfnder a ffenestri'r nefoedd, ac ataliwyd y glaw o'r nef. 3Ciliodd y dyfroedd yn raddol oddi ar y ddaear, ac wedi cant a hanner o ddyddiau aeth y dyfroedd ar drai. 4Yn y seithfed mis, ar yr ail ddydd ar bymtheg o'r mis, glaniodd yr arch ar fynyddoedd Ararat. 5Ciliodd y dyfroedd yn raddol hyd y degfed mis; ac yn y degfed mis, ar y dydd cyntaf o'r mis, daeth pennau'r mynyddoedd i'r golwg.
6Ymhen deugain diwrnod agorodd Noa y ffenestr yr oedd wedi ei gwneud yn yr arch, 7ac anfon allan gigfran i weld a oedd y dyfroedd wedi treio#8:7 Felly Groeg. Hebraeg heb i weld… treio. Cymh. adn. 8., ac aeth hithau yma ac acw nes i'r dyfroedd sychu oddi ar y ddaear. 8Yna gollyngodd golomen i weld a oedd y dyfroedd wedi treio oddi ar wyneb y tir; 9ond ni chafodd y golomen le i roi ei throed i lawr, a dychwelodd ato i'r arch am fod dŵr dros wyneb yr holl ddaear. Estynnodd yntau ei law i'w derbyn, a'i chymryd ato i'r arch. 10Arhosodd eto saith diwrnod, ac anfonodd y golomen eilwaith o'r arch. 11Pan ddychwelodd y golomen ato gyda'r hwyr, yr oedd yn ei phig ddeilen olewydd newydd ei thynnu; a deallodd Noa fod y dyfroedd wedi treio oddi ar y ddaear. 12Arhosodd eto saith diwrnod; anfonodd allan y golomen, ond ni ddaeth yn ôl ato y tro hwn.
13Yn y flwyddyn chwe chant ac un o oed Noa, yn y mis cyntaf, ar y dydd cyntaf o'r mis, sychodd y dyfroedd oddi ar y ddaear; a symudodd Noa gaead yr arch, a phan edrychodd allan, gwelodd wyneb y tir yn sychu. 14Erbyn yr ail fis, ar y seithfed dydd ar hugain o'r mis, yr oedd y ddaear wedi sychu. 15Yna llefarodd Duw wrth Noa, a dweud, 16“Dos allan o'r arch, ti a'th wraig a'th feibion a gwragedd dy feibion gyda thi; 17a dwg allan gyda thi bob creadur byw o bob cnawd, yn adar ac anifeiliaid a phopeth sy'n ymlusgo ar y ddaear, er mwyn iddynt epilio ar y ddaear, a ffrwytho ac amlhau ynddi.” 18Felly aeth Noa allan gyda'i feibion a'i wraig a gwragedd ei feibion; 19hefyd aeth allan o'r arch bob bwystfil, pob ymlusgiad, pob aderyn a phob peth sy'n ymlusgo ar y ddaear, yn ôl eu rhywogaeth.
Noa'n Aberthu
20Yna adeiladodd Noa allor i'r ARGLWYDD, a chymryd rhai o bob math o'r anifeiliaid glân ac o'r adar glân, ac offrymu poethoffrymau ar yr allor. 21A phan glywodd yr ARGLWYDD yr arogl hyfryd, dywedodd yr ARGLWYDD ynddo'i hun, “Ni felltithiaf y ddaear mwyach o achos dyn, er bod gogwydd ei feddwl yn ddrwg o'i ieuenctid; ni ddifethaf eto bopeth byw fel y gwneuthum.
22“Tra pery'r ddaear,
ni pheidia pryd hau a medi, oerni a gwres,
haf a gaeaf, dydd a nos.”

اکنون انتخاب شده:

Genesis 8: BCND

های‌لایت

به اشتراک گذاشتن

کپی

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید