Genesis 3

3
Anufudd-dod Dyn
1Yr oedd y sarff yn fwy cyfrwys na'r holl fwystfilod gwyllt a wnaed gan yr ARGLWYDD Dduw. A dywedodd wrth y wraig, “A yw Duw yn wir wedi dweud, ‘Ni chewch fwyta o'r un o goed yr ardd’?” 2Dywedodd y wraig wrth y sarff, “Cawn fwyta o ffrwyth coed yr ardd, 3ond am ffrwyth y goeden sydd yng nghanol yr ardd dywedodd Duw, ‘Peidiwch â bwyta ohono, na chyffwrdd ag ef, rhag ichwi farw.’ ” 4Ond dywedodd y sarff wrth y wraig, “Na! ni fyddwch farw; 5ond fe ŵyr Duw yr agorir eich llygaid y dydd y bwytewch ohono, a byddwch fel Duw#3:5 Neu, duwiau. yn gwybod da a drwg.” 6A phan ddeallodd y wraig fod y pren yn dda i fwyta ohono, a'i fod yn deg i'r golwg ac yn bren i'w ddymuno i beri doethineb, cymerodd o'i ffrwyth a'i fwyta, a'i roi hefyd i'w gŵr oedd gyda hi, a bwytaodd yntau. 7Yna agorwyd eu llygaid hwy ill dau i wybod eu bod yn noeth, a gwnïasant ddail ffigysbren i wneud ffedogau iddynt eu hunain.
8A chlywsant sŵn yr ARGLWYDD Dduw yn rhodio yn yr ardd gyda hwyr y dydd, ac ymguddiodd y dyn a'i wraig o olwg yr ARGLWYDD Dduw ymysg coed yr ardd. 9Ond galwodd yr ARGLWYDD Dduw ar y dyn, a dweud wrtho, “Ble'r wyt ti?” 10Atebodd yntau, “Clywais dy sŵn yn yr ardd, ac ofnais oherwydd fy mod yn noeth, ac ymguddiais.” 11Dywedodd yntau, “Pwy a ddywedodd wrthyt dy fod yn noeth? A wyt ti wedi bwyta o'r pren y gorchmynnais iti beidio â bwyta ohono?” 12A dywedodd y dyn, “Y wraig a roddaist i fod gyda mi a roes i mi o ffrwyth y pren, a bwyteais innau.” 13Yna dywedodd yr ARGLWYDD Dduw wrth y wraig, “Pam y gwnaethost hyn?” A dywedodd y wraig, “Y sarff a'm twyllodd, a bwyteais innau.”
Dedfryd Duw
14Yna dywedodd yr ARGLWYDD Dduw wrth y sarff:
“Am iti wneud hyn, yr wyt yn fwy melltigedig
na'r holl anifeiliaid,
ac na'r holl fwystfilod gwyllt;
byddi'n ymlusgo ar dy dor,
ac yn bwyta llwch holl ddyddiau dy fywyd.
15Gosodaf elyniaeth hefyd rhyngot ti a'r wraig,
a rhwng dy had di a'i had hithau;
bydd ef yn ysigo dy ben di,
a thithau'n ysigo'i sawdl ef.”
16Dywedodd wrth y wraig:
“Byddaf yn amlhau yn ddirfawr dy boen a'th wewyr;
mewn poen y byddi'n geni plant.
Eto bydd dy ddyhead am dy ŵr,
a bydd ef yn llywodraethu arnat.”
17Dywedodd wrth Adda:
“Am iti wrando ar lais dy wraig,
a bwyta o'r pren y gorchmynnais i ti beidio â bwyta ohono,
melltigedig yw'r ddaear o'th achos;
trwy lafur y bwytei ohoni holl ddyddiau dy fywyd.
18Bydd yn rhoi iti ddrain ac ysgall, a byddi'n bwyta llysiau gwyllt.
19Trwy chwys dy wyneb y byddi'n bwyta bara
hyd oni ddychweli i'r pridd,
oherwydd ohono y'th gymerwyd;
llwch wyt ti, ac i'r llwch y dychweli.”
20Rhoddodd y dyn i'w wraig yr enw Efa, am mai hi oedd mam pob un byw. 21A gwnaeth yr ARGLWYDD Dduw beisiau crwyn i Adda a'i wraig, a'u gwisgo amdanynt.
22Yna dywedodd yr ARGLWYDD Dduw, “Edrychwch, y mae'r dyn fel un ohonom ni, yn gwybod da a drwg. Yn awr, rhaid iddo beidio ag estyn ei law a chymryd hefyd o bren y bywyd, a bwyta, a byw hyd byth.” 23Am hynny anfonodd yr ARGLWYDD Dduw ef allan o ardd Eden, i drin y tir y cymerwyd ef ohono. 24Gyrrodd y dyn allan; a gosododd gerwbiaid i'r dwyrain o ardd Eden, a chleddyf fflamllyd yn chwyrlïo, i warchod y ffordd at bren y bywyd.

اکنون انتخاب شده:

Genesis 3: BCND

های‌لایت

به اشتراک گذاشتن

کپی

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید