Genesis 13

13
Abram a Lot yn Ymwahanu
1Yna aeth Abram i fyny o'r Aifft i'r Negef, ef a'i wraig a'i holl eiddo, a hefyd Lot. 2Yr oedd Abram yn gyfoethog iawn o anifeiliaid, ac o arian ac aur. 3Teithiodd ymlaen o'r Negef hyd Bethel, i'r man rhwng Bethel ac Ai lle'r oedd ei babell ar y dechrau, 4y man lle'r oedd wedi gwneud allor ar y cychwyn; ac yno galwodd Abram ar enw'r ARGLWYDD. 5Yr oedd gan Lot, a oedd yn teithio gydag Abram, hefyd ddefaid ac ychen a phebyll; 6ac ni allai'r tir eu cynnal ill dau gyda'i gilydd. Am fod eu meddiannau mor helaeth, ni allent drigo ynghyd; 7a bu cynnen rhwng bugeiliaid anifeiliaid Abram a rhai Lot. Y Canaaneaid a'r Peresiaid oedd yn byw yn y wlad yr amser hwnnw.
8Yna dywedodd Abram wrth Lot, “Peidied â bod cynnen rhyngom, na rhwng fy mugeiliaid i a'th rai di, oherwydd perthnasau ydym. 9Onid yw'r holl wlad o'th flaen? Ymwahana oddi wrthyf. Os troi di i'r chwith, fe drof finnau i'r dde; ac os i'r dde, trof finnau i'r chwith.” 10Cododd Lot ei olwg, a gwelodd fod holl wastadedd yr Iorddonen i gyfeiriad Soar i gyd yn ddyfradwy, fel gardd yr ARGLWYDD, neu wlad yr Aifft. Yr oedd hyn cyn i'r ARGLWYDD ddinistrio Sodom a Gomorra. 11A dewisodd Lot iddo'i hun holl wastadedd yr Iorddonen, a theithio tua'r dwyrain; felly yr ymwahanodd y naill oddi wrth y llall. 12Yr oedd Abram yn byw yng ngwlad Canaan, a Lot yn ninasoedd y gwastadedd, gan symud ei babell hyd at Sodom. 13Yr oedd gwŷr Sodom yn ddrygionus, yn pechu'n fawr yn erbyn yr ARGLWYDD.
14Wedi i Lot ymwahanu oddi wrtho, dywedodd yr ARGLWYDD wrth Abram, “Cod dy olwg o'r lle'r wyt, ac edrych tua'r gogledd a'r de a'r dwyrain a'r gorllewin; 15oherwydd yr holl dir yr wyt yn ei weld, fe'i rhoddaf i ti ac i'th ddisgynyddion hyd byth. 16Gwnaf dy had fel llwch y ddaear; os dichon neb rifo llwch y ddaear, yna fe rifir dy had di. 17Cod, rhodia ar hyd a lled y wlad, oherwydd i ti yr wyf yn ei rhoi.” 18Yna symudodd Abram ei babell a mynd i fyw wrth dderw Mamre, sydd yn Hebron; ac adeiladodd allor yno i'r ARGLWYDD.

اکنون انتخاب شده:

Genesis 13: BCND

های‌لایت

به اشتراک گذاشتن

کپی

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید