Genesis 5

5
Disgynyddion Adda
1 Cron. 1:1–4
1Dyma lyfr cenedlaethau Adda#5:1 Neu, dyn.. Pan greodd Duw bobl, gwnaeth hwy ar lun Duw. 2Fe'u creodd yn wryw ac yn fenyw, a bendithiodd hwy; ac ar ddydd eu creu fe'u galwodd yn ddyn. 3Bu Adda fyw am gant tri deg o flynyddoedd cyn geni mab iddo, ar ei lun a'i ddelw; a galwodd ef yn Seth. 4Wedi geni Seth, bu Adda fyw am wyth gan mlynedd, a bu iddo feibion a merched eraill. 5Felly yr oedd oes gyfan Adda yn naw cant tri deg o flynyddoedd; yna bu farw.
6Bu Seth fyw am gant a phump o flynyddoedd cyn geni iddo Enos. 7Ac wedi geni Enos, bu Seth fyw am wyth gant a saith o flynyddoedd, a bu iddo feibion a merched eraill. 8Felly yr oedd oes gyfan Seth yn naw cant a deuddeg o flynyddoedd; yna bu farw.
9Bu Enos fyw am naw deg o flynyddoedd cyn geni iddo Cenan. 10Ac wedi geni Cenan, bu Enos fyw am wyth gant a phymtheg o flynyddoedd, a bu iddo feibion a merched eraill. 11Felly yr oedd oes gyfan Enos yn naw cant a phump o flynyddoedd; yna bu farw.
12Bu Cenan fyw am saith deg o flynyddoedd cyn geni iddo Mahalalel. 13Ac wedi geni Mahalalel, bu Cenan fyw am wyth gant pedwar deg o flynyddoedd, a bu iddo feibion a merched eraill. 14Felly yr oedd oes gyfan Cenan yn naw cant a deg o flynyddoedd; yna bu farw.
15Bu Mahalalel fyw am chwe deg a phump o flynyddoedd cyn geni iddo Jered. 16Ac wedi geni Jered, bu Mahalalel fyw am wyth gant tri deg o flynyddoedd, a bu iddo feibion a merched eraill. 17Felly yr oedd oes gyfan Mahalalel yn wyth gant naw deg a phump o flynyddoedd; yna bu farw.
18Bu Jered fyw am gant chwe deg a dwy o flynyddoedd cyn geni iddo Enoch. 19Ac wedi geni Enoch, bu Jered fyw am wyth gan mlynedd, a bu iddo feibion a merched eraill. 20Felly yr oedd oes gyfan Jered yn naw cant chwe deg a dwy o flynyddoedd; yna bu farw.
21Bu Enoch fyw am chwe deg a phump o flynyddoedd cyn geni iddo Methwsela. 22Wedi geni Methwsela, rhodiodd Enoch gyda Duw am dri chan mlynedd, a bu iddo feibion a merched eraill. 23Felly yr oedd oes gyfan Enoch yn dri chant chwe deg a phump o flynyddoedd. 24Rhodiodd Enoch gyda Duw, ac yna nid oedd mwyach, oherwydd cymerodd Duw ef.
25Bu Methwsela fyw am gant wyth deg a saith o flynyddoedd cyn geni iddo Lamech. 26Ac wedi geni Lamech, bu Methwsela fyw am saith gant wyth deg a dwy o flynyddoedd, a bu iddo feibion a merched eraill. 27Felly yr oedd oes gyfan Methwsela yn naw cant chwe deg a naw o flynyddoedd; yna bu farw.
28Bu Lamech fyw am gant wyth deg a dwy o flynyddoedd cyn geni iddo fab; 29a galwodd ef yn Noa, a dweud, “Fe ddaw hwn â chysur i ni o waith a llafur ein dwylo yn y pridd a felltithiodd yr ARGLWYDD.” 30Ac wedi geni Noa, bu Lamech fyw am bum cant naw deg a phump o flynyddoedd, a bu iddo feibion a merched eraill. 31Felly yr oedd oes gyfan Lamech yn saith gant saith deg a saith o flynyddoedd; yna bu farw. 32Bu Noa fyw am bum can mlynedd cyn geni iddo Sem, Cham a Jaffeth.

اکنون انتخاب شده:

Genesis 5: BCND

های‌لایت

به اشتراک گذاشتن

کپی

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید