Marc 8:31-38

Marc 8:31-38 DAFIS

Disgodd Iesu iddyn nhwy bo'n rhaid i Grwt i Dyn ddiodde lot, a bidde'r henuried, i penffeiradon a'r rhei we'n disgu'r Gifreth in troi in i erbyn e; bidde‐fe'n câl i ladd, a wedi tri dwarnod codi 'to in fyw; a sharadodd‐e am hyn in itha agored. Cwmrodd Pedr e i un ochor a sharad in gas 'dag e. Troiodd Iesu, a wrth ddrich ar i ddisgiblion sharadodd‐e'n blaen 'da Pedr. Gwedodd‐e, “Cer mas o ngolwg i Satan, achos senot‐ti'n meddwl fel ma Duw in meddwl, on fel ma dinion in meddwl.” Galwodd‐e'r crowd a'i ddisgiblion a gwedodd‐e wrthon nhwy, “Os wes unriwun am in ddilyn i, wedyn ma'n rhaid 'ddo fe anghofio am i unan, codi'i grwes a'n ddilyn i. Achos os ma unriwun am safio'i fowyd i unan bydd e'n i golli fe ginta, on ma unriwun sy'n colli i fowyd ar in gownt i ag ar gwnt ir ifingyl in achub i fowyd. Achos pwy werth yw‐i i ddyn i gâl i byd in gifan a gorffod rhoi i fowyd amdano? A beth ma dyn in mynd i roi fel prish ar i fowyd? Achos os bydd cwiddil ona i ar unriwun, a cwiddil o'n ngeire i i'r genhedleth ddrwg a anffiddlon 'ma, wedyn fe fydd cwiddil da Crwt i Dyn ohenyn nhwy, pan ddeith‐e ing ngogoniant i Dad gida'r angilion sanctedd.” Gwedodd‐e wrthon nhwy, “Dwi'n gweud i gwir wrthoch chi, ma na rai sy'n sefyll fan'yn sy ddim in mynd i farw nes u bo nhwy wedi gweld Teyrnas Duw wedi dwâd in i chrifder.”

Read Marc 8

برنامه های خواندنی رایگان و عبادات مربوط به Marc 8:31-38