Marc 6:1-13

Marc 6:1-13 DAFIS

Gadodd Iesu'r ardal 'na a dwâd i'r dre lle wedd‐e wedi câl i fagu, a dilinodd i ddisgiblion e. Pan ddâth dy' Saboth dachreuodd‐e ddisgu in i sinagog, a we'r rhan fwya we 'na in sinnu wrth i gliwed e a gwedon‐nhwy, “O ble ma'r dyn ma'n câl i pethe 'ma? Beth ma'r dyn 'ma wedi câl sy'n gadel iddo fe neud shwt bethe mowr? Ddim i sâr yw hwn, crwt Mair a brawd Iago, Joses, Jiwdas a Seimon? Sino'i wiorydd e 'ma 'da ni?” A wên‐nhwy'n pallu i dderbyn e achos beth wedd‐e'n i weud. Gwedodd Iesu wrthon nhwy, “Ma proffwyd in câl parch in bobman ond in lle gâs‐e'i fagu, 'da'i dilwith a in i dŷ i hunan.” Wedd‐e'n ffeilu neud unrhw beth mowr fan'yn, on fe nâth‐e roi i ddwylo ar rei dinion we ddim in dda a'n u gwella nhwy. Wedd‐e'n sinnu at u diffyg ffydd nhwy. Âth‐e rownd i pentrefi in disgu. Wedyn galwodd‐e'r Douddeg ato fe a dachre u hala nhwy mas bob in ddou. Roiodd‐e'r hawl iddon nhwy dros isbridion drwg. Roiodd‐e ordors iddon nhwy beido mynd â dim byd 'da nhwy ar i jant ond pastwn — dim bara, dim bag, dim arian in u pwtsys. Wên‐nhwy i wishgo sgidje ond wenon‐nhwy i wishgo dou grys. Gwedodd‐e wrthon nhwy, “Ble binnag ewch‐chi miwn i ryw dŷ, aroswch na nes bo chi'n mynd mlân i rywle arall. A os gewch‐chi ddim croeso 'da dinion, neu os na rondan‐nhwy arnoch chi miwn lle, gadwch i lle a wrth fynd shiglwch i dwst bant o'ch trâde i ddangos beth ŷch‐chi'n meddwl amdanon nhwy.” Ethon‐nhwy bant a prigethu bo rhaid i bobol ddifaru; a fe halon‐nhwy lot o githreiled mas o ddinion, a gwellon‐nhwy lot o ddinion tost wrth allwish oil arnyn nhwy.

Read Marc 6

برنامه های خواندنی رایگان و عبادات مربوط به Marc 6:1-13