Marc 6:1-5

Marc 6:1-5 DAFIS

Gadodd Iesu'r ardal 'na a dwâd i'r dre lle wedd‐e wedi câl i fagu, a dilinodd i ddisgiblion e. Pan ddâth dy' Saboth dachreuodd‐e ddisgu in i sinagog, a we'r rhan fwya we 'na in sinnu wrth i gliwed e a gwedon‐nhwy, “O ble ma'r dyn ma'n câl i pethe 'ma? Beth ma'r dyn 'ma wedi câl sy'n gadel iddo fe neud shwt bethe mowr? Ddim i sâr yw hwn, crwt Mair a brawd Iago, Joses, Jiwdas a Seimon? Sino'i wiorydd e 'ma 'da ni?” A wên‐nhwy'n pallu i dderbyn e achos beth wedd‐e'n i weud. Gwedodd Iesu wrthon nhwy, “Ma proffwyd in câl parch in bobman ond in lle gâs‐e'i fagu, 'da'i dilwith a in i dŷ i hunan.” Wedd‐e'n ffeilu neud unrhw beth mowr fan'yn, on fe nâth‐e roi i ddwylo ar rei dinion we ddim in dda a'n u gwella nhwy. Wedd‐e'n sinnu at u diffyg ffydd nhwy.

Read Marc 6

برنامه های خواندنی رایگان و عبادات مربوط به Marc 6:1-5