Marc 6:30-44

Marc 6:30-44 DAFIS

Dâth ir apostolion nôl at Iesu, a gweu‐'tho fe am bopeth wên‐nhwy wedi'u neud a'u disgu. Gwedodd‐e wrthon nhwy, “Dewch bant i le tawel ar ben ich unen i chi gâl whê fan'ny am damed”; achos we shwt gwmint o fynd a dwâd, fel wenon‐nhwy wedi câl cifle i fita bwyd hyd 'n‐ôd. So ethon‐nhwy bant in i cwch i le unig ar ben u hunen. On gwelo lot o ddinion nhwy'n mynd, a'u nhabod nhwy, a gerddon nhwy i gyd mas 'na ar hast, a dwâd i ble wên‐nhwy'n mynd o'u blân nhwy. Pan ddâth‐e mas o'r cwch, 'na gyd welodd‐e we crowd mowr; a achos bo nhwy fel defed heb fugel fe gâs‐e drenu droston nhwy a disgodd‐e lot o bethe iddon nhwy. Wedd‐i'n hwyr pan ddâth i ddisgiblion ato fe a gweud, “Ma'r lle 'ma'n bell o bobman, a ma‐i'n ddiweddar. Hal nhwy bant, fel bo nhwy'n galler mynd i'r ffermydd a'r pentrefi sy bitu'r lle i bernu rwbeth i fita.” Atebodd Iesu, “Rhoiwch chi rwbeth i fita iddon nhwy.” Gwedon‐nhwy wrtho fe, “Wit‐ti moyn i ni fynd bant a hala canodd o bune i bernu torthe a rhoi nhwy i'r dinion i fita?” “Sowl torth sy 'da chi?” gofinodd‐e, “Cerwch i weld.” Wedi iddyn nhw ffindo mas gwedon‐nhwy, “Pump o dorthe, a dou bisgodyn.” Gwedodd‐e wrth i disgiblion i hala'r bobol i ishte lawr in gwmpnïe ar i porfa glas. Ishteddon‐nhwy lawr in resi i gyd, rhei in gwmpnïe o gant a rhei in hanner cant. Wedyn cwmrodd‐e'r pump torth a'r ddou bisgodyn, drich lan i'r nefodd a jolch i Dduw; wedyn fe dorodd‐e'r torthe a'u rhoi nhwy i'w ddisgiblion i roi mas i'r crowd. Rhanodd‐e'r ddou bisgodyn rhintyn nhwy i gyd fyd. Biton‐nhwy i gyd nes bo nhwy'n llawn; a fe gasglon nhwy douddeg basgeded o sbarion bara a pisgod. We pum mil o ddinion wedi bita'r torthe.

Read Marc 6

برنامه های خواندنی رایگان و عبادات مربوط به Marc 6:30-44