Ioan 7

7
A.D. 32. —
1 Iesu yn argyhoeddi rhyfyg a hyfder ei geraint: 10 yn myned i fyny o Galilea i ŵyl y pebyll: 14 yn dysgu yn y deml. 40 Amryw dyb amdano ef ym mhlith y bobl. 45 Y Phariseaid yn ddicllon am na ddaliasai eu swyddogion hwy ef; ac yn rhoddi sen i Nicodemus am gymryd ei blaid ef.
1A’r Iesu a rodiodd ar ôl y pethau hyn yng Ngalilea: canys nid oedd efe yn chwennych rhodio yn Jwdea, oblegid bod yr Iddewon yn ceisio ei ladd ef. 2#Lef 23:34A gŵyl yr Iddewon, sef gŵyl y pebyll, oedd yn agos. 3#Mat 12:46; Marc 3:31; Act 1:14Am hynny ei frodyr ef a ddywedasant wrtho, Cerdda ymaith oddi yma, a dos i Jwdea; fel y gwelo dy ddisgyblion dy weithredoedd di y rhai yr ydwyt yn eu gwneuthur. 4Canys nid oes neb yn gwneuthur dim yn ddirgel, ac yntau yn ceisio bod yn gyhoedd: od wyt ti yn gwneuthur y pethau hyn, amlyga dy hun i’r byd. 5Canys #Marc 3:21nid oedd ei frodyr yn credu ynddo. 6Yna yr Iesu a ddywedodd wrthynt hwy, #Pen 2:4; 8:20|JHN 8:20; Ioan 7:8, 30Ni ddaeth fy amser i eto: ond eich amser chwi sydd yn wastad yn barod. 7#Pen 15:19Ni ddichon y byd eich casáu chwi; ond myfi y mae yn ei gasáu, #Pen 3:19oherwydd fy mod i yn tystiolaethu amdano, fod ei weithredoedd ef yn ddrwg. 8Ewch chwi i fyny i’r ŵyl hon: nid wyf fi eto yn myned i fyny i’r ŵyl hon, #Pen 8:20oblegid ni chyflawnwyd fy amser i eto. 9Gwedi iddo ddywedyd y pethau hyn wrthynt, efe a arhosodd yng Ngalilea.
10Ac wedi myned o’i frodyr ef i fyny, yna yntau hefyd a aeth i fyny i’r ŵyl; nid yn amlwg, ond megis yn ddirgel. 11#Pen 11:56Yna yr Iddewon a’i ceisiasant ef yn yr ŵyl, ac a ddywedasant, Pa le y mae efe? 12A #Pen 9:16; 10:19murmur mawr oedd amdano ef ymysg y bobl. Canys #Mat 21:46; Luc 7:16; Ioan 6:14; Ioan 7:40rhai a ddywedent, Gŵr da yw: ac eraill a ddywedent, Nage; eithr twyllo’r bobl y mae. 13Er hynny ni lefarodd neb yn eglur amdano ef, #Pen 9:22; 12:42; 19:38rhag ofn yr Iddewon.
14 Ac yr awron ynghylch canol yr ŵyl, yr Iesu a aeth i fyny i’r deml, ac a athrawiaethodd. 15A’r Iddewon a ryfeddasant, gan ddywedyd, Pa fodd y #7:15 gŵyr hwn lythrennau?medr hwn ddysgeidiaeth, ac yntau heb ddysgu? 16Yr Iesu a atebodd iddynt, ac a ddywedodd, #Pen 3:11; 8:28; 12:49; 14:10, 24Fy nysgeidiaeth nid eiddof fi yw, eithr eiddo’r hwn a’m hanfonodd i. 17Os ewyllysia neb wneuthur ei ewyllys ef, efe a gaiff wybod am y ddysgeidiaeth, pa un ai o Dduw y mae hi, ai myfi ohonof fy hun sydd yn llefaru. 18#Pen 5:41Y mae’r hwn sydd yn llefaru ohono’i hun, yn ceisio’i ogoniant ei hun: ond yr hwn sydd yn ceisio gogoniant yr hwn a’i hanfonodd, hwnnw sydd eirwir, ac anghyfiawnder nid oes ynddo ef. 19#Exod 24:3; Act 7:35 &cOni roddes Moses i chwi y gyfraith, ac nid oes neb ohonoch yn gwneuthur y gyfraith? #Pen 5:16, 18; 10:39; 11:53Paham yr ydych yn ceisio fy lladd i? 20Y bobl a atebodd ac a ddywedodd, #Pen 8:48, 52; 10:20Y mae gennyt ti gythraul: pwy sydd yn ceisio dy ladd di? 21Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Un weithred a wneuthum, ac yr ydych oll yn rhyfeddu. 22#Lef 12:3Am hynny y rhoddes Moses i chwi yr enwaediad; (nid oherwydd ei fod o Moses, #Gen 17:10eithr o’r tadau;) ac yr ydych yn enwaedu ar ddyn ar y Saboth. 23Os yw dyn yn derbyn enwaediad ar y Saboth, #7:23 fel na thorrer.heb dorri cyfraith Moses; a ydych yn llidiog wrthyf fi, am #Pen 5:8, 9i mi wneuthur dyn yn holliach ar y Saboth? 24#Deut 1:16; Diar 24:23Na fernwch wrth y golwg, eithr bernwch farn gyfiawn. 25Yna y dywedodd rhai o’r #7:25 Sef, trigolion Jerwsalem.Hierosolymitaniaid, Onid hwn yw’r un y maent hwy yn ceisio’i ladd? 26Ac wele, y mae yn llefaru ar gyhoedd, ac nid ydynt yn dywedyd dim wrtho ef: a wybu’r penaethiaid mewn gwirionedd mai hwn yw Crist yn wir? 27#Mat 13:55; Marc 6:3; Luc 4:22Eithr nyni a adwaenom hwn o ba le y mae: eithr pan ddêl Crist, nis gŵyr neb o ba le y mae. 28Am hynny yr Iesu, wrth athrawiaethu yn y deml, a lefodd ac a ddywedodd, #Edrych Ioan 8:14Chwi a’m hadwaenoch i, ac a wyddoch o ba le yr ydwyf fi: ac #Pen 5:43; 8:42ni ddeuthum i ohonof fy hun, eithr y mae #Pen 5:32; 8:26yn gywir yr hwn a’m hanfonodd i, #Pen 1:18; 8:55yr hwn nid adwaenoch chwi. 29Ond #Mat 11:27; Ioan 10:15myfi a’i hadwaen: oblegid ohono ef yr ydwyf fi, ac efe a’m hanfonodd i. 30Am hynny #Marc 11:18; Luc 19:47; 20:19; Ad. 19; Ioan 8:37hwy a geisiasant ei ddal ef: ond #Pen 7:44; Ioan 8:20ni osododd neb law arno, am na ddaethai ei awr ef eto. 31A #Pen 8:30llawer o’r bobl a gredasant ynddo, ac a ddywedasant, Pan ddelo Crist, a wna efe fwy o arwyddion na’r rhai hyn a wnaeth hwn?
32Y Phariseaid a glywsant fod y bobl yn murmur y pethau hyn amdano ef; a’r Phariseaid a’r archoffeiriaid a anfonasant swyddogion i’w ddal ef. 33Am hynny y dywedodd yr Iesu wrthynt hwy, #Pen 16:16Yr ydwyf fi ychydig amser eto gyda chwi, ac yr wyf yn myned at yr hwn a’m hanfonodd. 34#Hos 5:6; Ioan 8:21; 13:33Chwi a’m ceisiwch, ac ni’m cewch: a lle yr ydwyf fi, ni ellwch chwi ddyfod. 35Yna y dywedodd yr Iddewon yn eu mysg eu hunain, I ba le y mae hwn ar fedr myned, fel na chaffom ni ef? ai at #Esa 11:12; Iago 1:1; 1 Pedr 1:1y rhai sydd ar wasgar ymhlith #7:35 y Cenhedloedd.y Groegiaid y mae efe ar fedr myned, a dysgu’r Groegiaid? 36Pa ymadrodd yw hwn a ddywedodd efe, Chwi a’m ceisiwch, ac ni’m cewch: a lle yr ydwyf fi, ni ellwch chwi ddyfod? 37#Lef 23:38Ac ar y dydd diwethaf, y dydd mawr o’r ŵyl, y safodd yr Iesu, ac a lefodd, gan ddywedyd, #Esa 55:1; Ioan 6:35; Dat 22:17Od oes ar neb syched, deued ataf fi, ac yfed. 38#Deut 18:15Yr hwn sydd yn credu ynof fi, megis y dywedodd yr ysgrythur, #Diar 18:4; Esa 12:3; 44:3; Ioan 4:14afonydd o ddwfr bywiol a ddylifant o’i #7:38 fol.groth ef. 39(A hyn a ddywedodd efe #Joel 2:28; Ioan 16:7; Act 2:17am yr Ysbryd, yr hwn a gâi’r rhai a gredent ynddo ef ei dderbyn: canys eto nid oedd yr Ysbryd Glân wedi ei roddi, oherwydd na ogoneddasid #Pen 12:16; 16:7yr Iesu eto.)
40Am hynny llawer o’r bobl, wedi clywed yr ymadrodd hwn, a ddywedasant, Yn wir hwn #Deut 18:15, 18; Ioan 1:21; 6:14yw’r Proffwyd. 41Eraill a ddywedasant, #Pen 4:42Hwn yw Crist. Eraill a ddywedasant, Ai #Pen 7:52; Ioan 1:46o Galilea y daw Crist? 42#Salm 132:11; Micha 5:2; Mat 2:5; Luc 2:4Oni ddywedodd yr ysgrythur, Mai o had Dafydd, ac o Fethlehem, #1 Sam 16:1, 4y dref lle y bu Dafydd, y mae Crist yn dyfod? 43Felly #Pen 9:16; 10:19yr aeth ymrafael ymysg y bobl o’i blegid ef. 44A #Pen 7:30rhai ohonynt a fynasent ei ddal ef; ond ni osododd neb ddwylo arno.
45Yna y daeth y swyddogion at yr archoffeiriaid a’r Phariseaid; a hwy a ddywedasant wrthynt hwy, Paham na ddygasoch chwi ef? 46A’r swyddogion a atebasant, Ni lefarodd dyn erioed fel y dyn hwn. 47Yna y Phariseaid a atebasant iddynt, A hudwyd chwithau hefyd? 48#Pen 12:42; Act 6:7; 1 Cor 1:20; 2:8A gredodd neb o’r penaethiaid ynddo ef, neu o’r Phariseaid? 49Eithr y bobl hyn, y rhai ni wyddant y gyfraith, melltigedig ydynt. 50Nicodemus (#Pen 3:2yr hwn a ddaethai #7:50 ato ef.at yr Iesu o hyd nos, ac oedd un ohonynt) a ddywedodd wrthynt, 51#Deut 1:17; 17:8 &c; 19:15A ydyw ein cyfraith ni yn barnu dyn, oddieithr clywed ganddo ef yn gyntaf, a gwybod beth a wnaeth efe? 52Hwythau a atebasant ac a ddywedasant wrtho, A ydwyt tithau o Galilea? Chwilia a gwêl, na chododd proffwyd #Esa 9:1, 2; Mat 4:15; Ioan 1:46o Galilea. 53A phob un a aeth i’w dŷ ei hun.

انتخاب شده:

Ioan 7: BWM1955C

های‌لایت

به اشتراک گذاشتن

کپی

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید