Ioan 14

14
A.D. 33. —
1 Crist yn cysuro ei ddisgyblion â gobaith teyrnas nef: 6 yn proffesu mai efe yw y ffordd, a’r gwirionedd, a’r bywyd; a’i fod yn un â’r Tad: 13 yn gwarantu y bydd eu gweddïau hwy yn ei enw ef yn ffrwythlon: 15 yn dymuno cariad ac ufudd‐dod: 16 yn addo yr Ysbryd Glân y Diddanydd; 27 ac yn gadael ei dangnefedd gyda hwynt.
1Na thralloder eich calon: yr ydych yn credu yn Nuw, credwch ynof finnau hefyd. 2Yn nhŷ fy Nhad y mae llawer o drigfannau: a phe amgen, mi a ddywedaswn i chwi. Yr wyf fi yn myned i baratoi lle i chwi. 3Ac #Pen 14:18, 28os myfi a af, ac a baratoaf le i chwi, mi a ddeuaf drachefn, ac a’ch cymeraf chwi ataf fy hun; fel #Pen 12:26; 17:24lle yr wyf fi, y byddoch chwithau hefyd. 4Ac i ba le yr wyf fi yn myned, chwi a wyddoch, a’r ffordd a wyddoch. 5Dywedodd Thomas wrtho, Arglwydd, ni wyddom ni i ba le yr wyt ti yn myned; a pha fodd y gallwn wybod y ffordd? 6Yr Iesu a ddywedodd wrtho ef, Myfi yw’r #Heb 9:8ffordd, a’r #Pen 1:17gwirionedd, a’r #Pen 1:4; 11:25bywyd: #Pen 10:9nid yw neb yn dyfod at y Tad, ond trwof fi. 7Ped adnabuasech fi, fy Nhad hefyd a adnabuasech: ac o hyn allan yr adwaenoch ef, a chwi a’i gwelsoch ef. 8Dywedodd Philip wrtho, Arglwydd, dangos i ni y Tad, a digon yw i ni. 9Yr Iesu a ddywedodd wrtho, A ydwyf gyhyd o amser gyda chwi, ac nid adnabuost fi, Philip? #Pen 12:45Y neb a’m gwelodd i, a welodd y Tad: a pha fodd yr wyt ti yn dywedyd, Dangos i ni y Tad? 10Onid wyt ti yn credu #Ad. 20 Ioan 10:38; 17:21, 23fy mod i yn y Tad, a’r Tad ynof finnau? Y geiriau yr wyf fi yn eu llefaru wrthych, #Pen 5:19; 8:28; 12:49nid ohonof fy hun yr wyf yn eu llefaru; ond y Tad yr hwn sydd yn aros ynof, efe sydd yn gwneuthur y gweithredoedd. 11Credwch fi, fy mod i yn y Tad, a’r Tad ynof finnau: ac onid e, credwch fi er mwyn y gweithredoedd eu hunain. 12#Mat 21:21; Marc 16:17Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr hwn sydd yn credu ynof fi, y gweithredoedd yr wyf fi yn eu gwneuthur, yntau hefyd a’u gwna, a mwy na’r rhai hyn a wna efe: oblegid yr wyf fi yn myned at fy Nhad. 13#Mat 7:7; 21:22; Marc 11:24; Ioan 15:7, 16; 16:23; 1 Ioan 3:22; 5:14A pha beth bynnag a ofynnoch yn fy enw i, hynny a wnaf; fel y gogonedder y Tad yn y Mab. 14Os gofynnwch ddim yn fy enw i, mi a’i gwnaf.
15 # Pen 14:21, 23; Ioan 15:10, 14; 1 Ioan 5:3O cherwch fi, cedwch fy ngorchmynion. 16A mi a weddïaf ar y Tad, ac #Pen 15:26; 16:7; Rhuf 8:15, 26efe a rydd i chwi Ddiddanydd arall, fel yr arhoso gyda chwi yn dragwyddol; 17#Pen 15:26; 16:13Ysbryd y gwirionedd, yr hwn ni ddichon y byd ei dderbyn, am nad yw yn ei weled, nac yn ei adnabod ef: ond chwi a’i hadwaenoch ef; oherwydd y mae yn aros gyda chwi, ac ynoch y bydd efe. 18#Mat 28:20Ni’ch gadawaf chwi yn #14:18 anghysurus.amddifaid: #Pen 14:3, 28mi a ddeuaf atoch chwi. 19Eto ennyd bach, a’r byd ni’m gwêl mwy; eithr #Pen 16:16chwi a’m gwelwch: canys byw wyf fi, a byw fyddwch chwithau hefyd. 20Y dydd hwnnw y gwybyddwch #Ad. 10 Ioan 10:38; 17:21, 23, 26fy mod i yn fy Nhad, a chwithau ynof fi, a minnau ynoch chwithau. 21#Ad. 15; 1 Ioan 2:5; 5:3Yr hwn sydd â’m gorchmynion i ganddo, ac yn eu cadw hwynt, efe yw’r hwn sydd yn fy ngharu i: a’r hwn sydd yn fy ngharu i, a gerir gan fy Nhad i: a minnau a’i caraf ef, ac a’m hegluraf fy hun iddo. 22Dywedodd Jwdas wrtho, (nid yr Iscariot,) Arglwydd, pa beth yw’r achos yr wyt ar fedr dy eglurhau dy hun i ni, ac nid i’r byd? 23Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, #Ad. 15Os câr neb fi, efe a geidw fy ngair; a’m Tad a’i câr yntau, a #1 Ioan 2:24; Dat 3:20nyni a ddeuwn ato, ac a wnawn ein trigfa gydag ef. 24Yr hwn nid yw yn fy ngharu i, nid yw yn cadw fy ngeiriau: #Ad. 10 Ioan 5:19, 38a’r gair yr ydych yn ei glywed, nid eiddof fi ydyw, ond eiddo’r Tad a’m hanfonodd i. 25Y pethau hyn a ddywedais wrthych, a mi yn aros gyda chwi. 26Eithr #Ad. 16y Diddanydd, yr Ysbryd Glân, yr hwn a enfyn y Tad yn fy enw i, efe #Pen 12:16; 16:13; 1 Ioan 2:20, 27a ddysg i chwi’r holl bethau, ac a ddwg ar gof i chwi’r holl bethau a ddywedais i chwi. 27Yr wyf yn gadael i chwi dangnefedd; fy nhangnefedd yr ydwyf yn ei roddi i chwi: nid fel y mae y byd yn rhoddi, yr wyf fi yn rhoddi i chwi. Na thralloder eich calon, ac nac ofned. 28Clywsoch fel #Pen 14:3, 18y dywedais wrthych, Yr wyf yn myned ymaith, ac mi a ddeuaf atoch. Pe carech fi, chwi a lawenhaech am i mi ddywedyd, Yr wyf yn myned at y Tad: canys y mae #Edrych Ioan 5:18; Phil 2:6fy Nhad yn fwy na myfi. 29Ac #Pen 13:19yr awron y dywedais i chwi cyn ei ddyfod, fel pan ddêl, y credoch. 30Nid ymddiddanaf â chwi nemor bellach: #Pen 12:31canys tywysog y byd hwn sydd yn dyfod, ac nid oes iddo ddim ynof fi. 31Ond fel y gwypo’r byd fy mod i yn caru’r Tad, ac #Pen 10:18megis y gorchmynnodd y Tad i mi, felly yr wyf yn gwneuthur. Codwch, awn oddi yma.

انتخاب شده:

Ioan 14: BWM1955C

های‌لایت

به اشتراک گذاشتن

کپی

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید