2 Tymothiws 1

1
Y Cytpen Kyntaf
1Pawl abostol iesû grist trwy wollys dûw ar ol addewid y bowyd rhwn sydd yngrhist iesu: 2at tymothiws en gredigawl fab: Gras: trûgaredd, tengnhefedd y can dduw tad a christ iesu eyn harglwydd ni. 3Diolch i rydwy i dduw: rhwn i ddydwy yw vddoli oddiwrth fy henafiayd a chydwybod lan: fy modi yn dy grybwyll di yn ddigyfwng y fewn fyngweddiau nos a dydd 4yn dymunaw kaffael dy weled: yn feddylgar am dy ddagray: fal i ddydwy fi kyflawn o lywenydd: 5tra alwy im kof y ffydd ddiweniaeth sydd ynotti: rhon yn gyntaf a orseddai i fewn dy nain di lois ag yn dy fam di Eunica: a sikir yw kenyf ynottithaû hefyd: 6ag or achos hwn i ddwy yn dy rebuddiaw di: [[gyffroi]] (enynnû) o honot y rhad dûw sydd ynott trwy osodiad y dwylo maû: 7Canys ni roddes duw i nyni ysbryd ofn: Eithyr ysbryd kadernid a chariad ag arafeiddwch: 8am hyn na fid arnat gwilidd o achos testiolaeth eyn harglwydd nag om achos inaû eu garcharor ef: eithyr kydoddau adfyd gidar efengil: ar ol power dûw: 9rhwn an ymwaredawdd ni ag an galwodd [[oi]] (a g)alwadigaeth santaidd [[ef]]: nid ar ol eyn gweithredoedd ni: eithyr ar ol eu amkan eu hûn, ar gras rhwn a rodded i nyni trwy grist iesu ymlaen: amseroedd bydoedd: 10eithyr yr awr hon, a ddangoswyd yn olaû trwy apparawns eyn keidwad iesu grist: rhwn a ddistrowiodd farfolaeth: ag a ddûg y bowyd i oleûni ar tragwyddoldeb trwy r efengil: 11ir hwn ym gossoded inaû yn bregethwr, ag yn abostol ag yn athro y bobl ir mwyn hyn i ddwy yn goddaû y pethau hyn: eithyr nim quilyddir: 12Cans mi a wn a sikir yw kenyf fod y neb ir ymddiriedais iddo yn abl i gadw a roddais attofo: erbyn y dydd hwnw. 13Kymer siampl y geiriaû pybyr a glowaist kenyfi mewn ffydd a chariad yngrhist iesu: 14Cadw r peth da a roddet attat trwy yr ysbryd glan sydd yn gorsedd ynomi: 15ty a wyddost hyn droi o honynt oddiwrthyfi oll rhai sy yn asia: or rhai hyn i may phygelws a hermogenes: 16rhodded yr arglwydd drugaredd i deulû onesyphorws: canys ef am adebrawdd i yn fynych: ag ni bu gwilidd canthaw fynghadwyn i. 17Eithyr pan ydoedd yn rhûfain, ef am keisiawdd i yn ddyfal ag am kafaws 18kynihatted yr arglwydd iddo gaffael trugaredd gidar arglwydd yn y dydd hwnw: ag ymhafaint bynag o bethau i gwasnaythodd ef fyfy yn ephesws tydy ai gwyr yn oraû:

انتخاب شده:

2 Tymothiws 1: RDEB

های‌لایت

به اشتراک گذاشتن

کپی

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید