Matthaw 9

9
PENNOD IX.
Christ yn iachau un claf o’r parlys, y difer-lif gwaed, ac yn rhoddi eu golwg i ddau ddyn dall.
1AC efe a aeth i’r llong, ac a aeth trosodd, ac a ddaeth i’w ddinas ei hun. 2Ac wele hwy a ddygasant atto wr claf o’r parlys yn gorwedd ar wely; a’r Iesu yn gweled eu ffydd hwy, a ddywedodd wrth y claf o’r parlys, Cymmer gyssur fab, dy bechodau a faddeuir i ti. 3Ac wele, rhai o’r ysgrifenyddion a ddywedasant ynddynt eu hunain, Y mae hwn yn cablu. 4A phan welodd yr Iesu eu meddyliau, efe a ddywedodd, Paham y meddyliwch ddrwg yn eich calonnau? 5Canys pa un hawsaf ai dywedyd, Dy bechodau a faddeuir i ti, ai dywedyd, Cyfod a rhodia. 6Eithr fel y gwypoch fod awdurdod gan Fab y dyn ar y ddaear i faddeu pechodau, (yna y dywedodd efe wrth y claf o’r parlys) Cyfod, cymmer dy wely i fynu, a dos i’th dŷ. 7Ac efe a gyfododd, ac a aeth ymaith i’w dŷ ei hun. 8A’r torfeydd pan welsant a rhyfeddasant, a gogoneddu Duw a wnaethant yr hwn a roesei y fath fraint i ddynion. 9Ac fel yr oedd yr Iesu yn myned oddi yno, efe a ganfu wr a elwid Matthai yn eistedd wrth y dollfa, ac a ddywedodd wrtho, Canlyn fi; ac efe a gyfododd ac a’i canlynodd ef.
10¶ A bu, ac efe yn eistedd i fwytta yn y tŷ, wele publicanod lawer a phechaduriaid a ddaethant, ac a eisteddasant gyd â’r Iesu a’i ddisgyblion. 11A phan welodd y Pharisai, hwy a ddywedasant wrth ei ddisgyblion ef, Paham y bwytty eich Athraw chwi gyd â’r publicanod a’r pechaduriaid? 12A phan glybu yr Iesu, efe a ddywedodd wrthynt, Nid oes rhaid i’r rhai iach wrth feddyg, ond i’r rhai cleifion. 13Ond ewch, a dysgwch pa beth yw hyn, Trugaredd ydwyf yn ei ewyllysio, ac nid aberth: canys ni ddaethum i alw rhai cyfiawn, ond pechaduriaid i edifeirwch.
14¶ Yna y daeth disgyblion Ioan atto, gan ddywedyd, Paham yr ydym ni a’r Pharisai yn unprydio yn fynych, ond dy ddisgyblion di nid ydynt yn unprydio? 15A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, A all plant yr ystafell briodas alaru tra fo’r priod-fab gyd â hwynt? Ond y dyddiau a ddaw, pan ddyger y priodfab oddi arnynt, ac yna yr unprydiant. 16Ni ddyd neb lain o frethyn newydd at hen ddilledyn: canys y cyflawniad a dyn oddi wrth y dilledyn, a’r rhwyg a wneir yn waeth. 17Ac ni ddodant win newydd mewn hên grwyn, os amgen y crwyn a rhwygant, a’r gwin a red allan, a’r crwyn a anafyr; eithr gwin newydd a ddodant mewn crwyn newyddion, ac felly y ddau a gedwir.
18¶ Tra’r oedd efe yn dywedyd hyn wrthynt, wele, daeth rhyw bennaeth, ac a’i cyfarchodd ef, gan ddywedyd, Bu farw fy merch yr awr hon: eithr dyred a gosod dy law arni, a hi fydd byw. 19A’r Iesu a gyfododd, ac a’i canlynodd ef, a’i ddisgyblion aethant hefyd.
20¶ (Ac wele, gwraig y buasai gwaedlif arni ddeuddeng mlynedd, a ddaeth o’r tu cefn iddo, ac a gyffyrddodd ag ymyl ei wisg ef. 21Canys hi a ddywedasai ynddi ei hun; os caf onid cyffwrdd a’i wisg ef, y fe’m iacheir. 22Yna’r Iesu a drodd; a phan ei gwelodd hi, efe a ddywedodd, Ferch, bydd gysurus, dy ffydd a’th iachaodd. A’r wraig a iachawyd o’r awr honno.) 23A phan ddaeth yr Iesu i dŷ’r pennaeth, a gweled y cerddorion a’r dyrfa yn terfysgu, 24Efe a ddywedodd wrthynt, Ciliwch: canys ni bu farw’r llangces, ond cysgu y mae hi. A hwy a’i gwatwarasant ef. 25Ac wedi bwrw y dyrfa allan, efe a aeth i mewn, ac a ymaflodd yn ei llaw hi; a’r llangces a gyfododd. 26A’r gair o hyn a aeth dros yr holl wlad honno.
27¶ A phan oedd yr Iesu yn myned oddi yno, dau ddeillion a’i canlynasant ef, gan lefain a dywedyd, Mab Dafydd, trugarhâ wrthym. 28Ac wedi iddo ddyfod i’r tŷ, y deillion a ddaethant atto: a’r Iesu a ddywedodd wrthynt, A ydych chwi yn credu y gallaf fi wneuthur hyn? Hwy a ddywedasant wrtho, Ydym, Arglwydd. 29Yna y cyffyrddodd efe â’u llygaid hwy, gan ddywedyd, Yn ol eich ffydd bydded i chwi. 30A’u llygaid a agorwyd: A’r Iesu a orchymynodd iddynt, gan ddywedyd, Gwelwch na’s gwypo neb. 31Ond wedi iddynt ymado, hwy a’i clodforasant ef trwy’r holl wlad honno.
32¶ Ac a hwy yn myned allan, wele, dygasant atto ddyn mud cythreulig. 33Ac wedi bwrw y cythraul allan, llefarodd y mudan: ar torfeydd a ryfeddasant, gan ddywedyd, Ni welwyd y cyffelyb erioed yn yr Israel. 34Ond y Pharisai a ddywedasant, Trwy bennaeth y cythreuliaid y mae efe yn bwrw allan gythreuliaid. 35A’r Iesu a aeth o amgylch yr holl ddinasoedd a’r trefydd, gan ddysgu yn eu synagogau, a chan bregethu efengyl y lywodraeth, a iachâu pob clefyd, a phob afiechyd ym mhlith y bobl. 36A phan welodd efe y torfeydd, efe a dosturiodd wrthynt, am eu bod wedi blino, a’u gwasgaru fel defaid heb ganddynt fugail. 37Yna y dywedodd efe wrth ei ddisgyblion, Y cynhauaf yn ddiau sydd fawr, ond y gweithŵyr ydynt yn anaml. 38Am hynny attolygwch i Arglwydd y cynhauaf, fel yr anfon gweithwŷr i’w gynhauaf.

انتخاب شده:

Matthaw 9: JJCN

های‌لایت

به اشتراک گذاشتن

کپی

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید