Mathew 6

6
1Gochelwch wneuthur eich cyfiawnder gerbron dynion er mwyn cael eich gweled ganddynt; onid e, nid oes dâl i chwi gan eich Tad sydd yn y nefoedd. 2Gan hynny pan wnelych elusen, na utgana o’th flaen, megis y gwna’r rhagrithwyr yn y synagogau ac ar yr heolydd, fel y clodforer hwynt gan ddynion; yn wir meddaf i chwi, cawsant eu tâl. 3Ond tydi pan wnelych elusen, na wyped dy law aswy pa beth a wna dy law ddehau, 4fel y bo dy elusen di yn y dirgel; a’th Dad sy’n gweled yn y dirgel a dâl i ti.
5A phan weddïoch, na fyddwch fel y rhagrithwyr; canys carant sefyll i weddïo yn y synagogau ac yng nghonglau’r heolydd, i’w dangos eu hunain i ddynion; yn wir meddaf i chwi, cawsant eu tâl. 6Ond tydi, pan weddïych, dos i’th ystafell, ac wedi cau dy ddrws gweddia ar dy Dad sydd yn y dirgel; a’th Dad sy’n gweled yn y dirgel a dâl i ti. 7Ac wrth weddïo na fyddwch siaradus fel y cenedlddynion; canys tybio y maent mai am eu haml eiriau y gwrandewir hwynt. 8Nac ymdebygwch, ynteu, iddynt hwy; canys gŵyr eich Tad pa bethau sydd arnoch eu heisiau cyn i chwi ofyn iddo. 9Fel hyn, ynteu, y gweddïwch chwi:
‘Ein Tad sydd yn y nefoedd,
Santeiddier dy enw;
10deled dy deyrnas; gwneler dy ewyllys,
megis yn y nef, felly ar y ddaear.
11Ein bara beunyddiol#6:11 Neu Ein dogn dydd o fara. Cymh. Ecs. 16:4. dyro i ni heddiw,
12a maddau i ni ein dyledion,
fel y maddeuasom ninnau i’n dyledwyr;
13ac na ddwg ni i brofedigaeth,
eithr gwared ni rhag drwg.’#6:13 Neu efallai, yr un drwg.
14Canys os maddeuwch i ddynion eu camweddau, fe faddau eich Tad nefol hefyd i chwithau; 15eithr oni faddeuwch i ddynion, eich Tad chwaith ni faddau eich camweddau chwi.
16A phan ymprydioch, na fyddwch fel y rhagrithwyr yn aflawen eich gwedd; canys difwyno’u hwynebau y maent, er mwyn ymddangos i ddynion fel ymprydwyr; yn wir meddaf i chwi, cawsant eu tâl. 17Ond tydi, pan ymprydych, eneinia dy ben a golch dy wyneb, 18rhag it ymddangos i ddynion fel ymprydiwr, eithr i’th Dad sydd yn y dirgel; a’th Dad sy’n gweled yn y dirgel a dâl i ti.
19Na thrysorwch i chwi drysorau ar y ddaear, lle mae gwyfyn a rhwd yn difa, a lle mae lladron yn cloddio trwodd ac yn lladrata; 20ond trysorwch i chwi drysorau yn y nef, lle nid oes na gwyfyn na rhwd yn difa, a lle nid oes ladron yn cloddio trwodd nac yn lladrata: 21canys lle mae dy drysor, yno y bydd dy galon hefyd. 22Lamp y corff yw’r llygad. Gan hynny os bydd dy lygad yn iawn, dy holl gorff a fydd yn olau; 23Ond os bydd dy lygad yn ddrwg, dy holl gorff a fydd yn dywyll. Os ynteu’r goleuni ynot sydd dywyllwch, mor enfawr yw’r tywyllwch!
24Ni ddichon neb wasanaethu dau arglwydd; canys un ai casâ’r naill a châr y llall, neu fe lŷn wrth y naill a dirmyga’r llall. Ni ellwch wasanaethu Duw a Mamon. 25Am hynny meddaf i chwi, na phryderwch am eich bywyd, beth a fwytewch neu beth a yfwch; nac am eich corff, beth a wisgwch. Onid yw’r bywyd yn fwy na’r bwyd, a’r corff na’r dillad? 26Edrychwch ar adar y nef; nid ydynt yn hau nac yn medi nac yn cywain i ysguboriau, ac eto y mae eich Tad nefol yn eu porthi hwy; onid ydych chwi’n amgenach o lawer na hwy? 27A phwy ohonoch drwy bryderu a ddichon chwanegu hanner llath at ei oes? 28A pham y pryderwch am ddillad? Ystyriwch lilïau’r maes pa fodd y tyfant; ni lafuriant ac ni nyddant; 29ond meddaf i chwi, hyd yn oed Solomon yn ei holl ogoniant nid ymwisgodd fel un o’r rhain. 30Ac os dillada Duw felly wellt y maes, y sydd heddiw, ac yfory a fwrir i’r ffwrn, onid llawer mwy chwychwi, O rai bychain eu ffydd? 31Na phryderwch, ynteu, gan ddywedyd ‘Beth a fwytawn?’ neu ‘Beth a yfwn?’ neu ‘Beth a wisgwn?’ 32canys yr holl bethau hyn y mae’r cenhedloedd yn eu ceisio; canys gŵyr eich Tad nefol fod arnoch eisiau’r pethau hyn oll. 33Ond ceisiwch yn gyntaf ei deyrnas a’i gyfiawnder ef, a’r pethau hyn oll a roddir i chwi’n ychwaneg. 34Na phryderwch, ynteu, am yfory, canys yfory a ddwg ei bryder ei hun. Digon i’r diwrnod ei helbul.

انتخاب شده:

Mathew 6: CUG

های‌لایت

به اشتراک گذاشتن

کپی

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید