Mathew 11
11
1A phan orffennodd yr Iesu gyfarwyddo’i ddeuddeg disgybl, fe symudodd oddi yno i ddysgu a phregethu yn eu dinasoedd hwynt.
2Ac Ioan, wedi clywed yn y carchar am weithredoedd y Crist, a ddanfonodd trwy ei ddisgyblion 3i ddywedyd wrtho, “Ai ti yw’r hwn sy’n dyfod, ai am un arall yr ydym i ddisgwyl?” 4Ac atebodd yr Iesu iddynt, “Ewch a mynegwch i Ioan y pethau a glywch ac a welwch: 5y mae deillion yn cael eu golwg, a chloffion yn cerdded, gwahangleifion yn dyfod yn lân, a byddariaid yn clywed a meirw’n cyfodi, ac i dlodion y cyhoeddir newyddion da. 6A gwyn ei fyd y neb ni rwystrir ynof i.”
7A chyda’u bod hwy’n myned, dechreuodd yr Iesu ddywedyd wrth y tyrfaoedd am Ioan, “Beth yr aethoch allan i’r diffeithwch i edrych arno? Ai corswellt yn ysgwyd gan wynt? 8Eithr beth yr aethoch allan i’w weled? Ai dyn â dillad esmwyth amdano? Wele’r rhai sy’n gwisgo dillad esmwyth, yn nhai’r brenhinoedd. 9Eithr i ba beth yr aethoch allan? Ai i weled proffwyd? Ie, meddaf i chwi, a mwy na phroffwyd. 10Hwn yw’r un y mae’n ysgrifenedig amdano,
Wele’r wyf i yn anfon fy nghennad o’th flaen,
a ddarpar dy ffordd rhagot.
11Yn wir meddaf i chwi, ni chododd ymhlith plant gwragedd un mwy nag Ioan Fedyddiwr; ond y lleiaf yn nheyrnas nefoedd sydd fwy nag ef. 12Ac o ddyddiau Ioan Fedyddiwr hyd yn awr, teyrnas nefoedd a dreisir, a threiswyr sy’n ei chipio hi. 13Canys yr holl broffwydi a’r gyfraith, hyd Ioan y proffwydasant; 14ac os mynnwch ei dderbyn, ef yw yr Elïas a oedd ar ddyfod. 15Y neb sy ganddo glustiau, gwrandawed.
16I ba beth y cyffelybaf y genhedlaeth hon? Cyffelyb yw i blantos yn eistedd yn y marchnadleoedd ac yn galw ar y lleill, gan ddywedyd:
17Canasom i chwi bibau, ac ni ddawnsiasoch,
Canasom alarnad, ac ni churasoch ddwyfron.
18Canys daeth Ioan heb na bwyta nac yfed, ac meddant, ‘Cythraul sy ganddo?’ 19Daeth Mab y dyn yn bwyta ac yn yfed, ac meddant, ‘Dyma ddyn glŵth a llymeitiwr gwin, cyfaill trethwyr a phechaduriaid.’ Eto cyfiawnhawyd doethineb gan ei gweithredoedd.”
20Yna dechreuodd edliw i’r dinasoedd y gwnaethid ynddynt ei liaws grymusterau, am nad edifarhasent. 21“Gwae di, Chorasin! Gwae di, Fethsaida! Canys pe yn Nhyrus a Sidon y gwnaethid y grymusterau a wnaethpwyd ynoch chwi, ers talm mewn sachliain a lludw yr edifarhasent. 22Eithr meddaf i chwi, esmwythach fydd i Dyrus a Sidon yn nydd y farn nag i chwi. 23A thithau, Capernaum, ai hyd nef y’th ddyrchefir? Na, hyd Annwn y disgynni; canys pe yn Sodom y gwnaethid y grymusterau a wnaethpwyd ynot ti, hi arosasai hyd heddiw. 24Eithr meddaf i chwi, esmwythach fydd i dir Sodom yn nydd y farn nag i ti.”
25Yr amser hwnnw y llefarodd yr Iesu ac y dywedodd, “Molaf di, O Dad, Arglwydd nef a daear, am iti guddio’r pethau hyn rhag doethion a gwybodusion, a’u datguddio i blant bach; 26ie, O Dad, am mai felly y rhyngodd bodd i ti. 27Popeth a draddodwyd i mi gan fy Nhad, ac nid edwyn neb y Mab ond y Tad, na’r Tad nis edwyn neb ond y Mab, a phwy bynnag yr ewyllysio’r Mab ei ddatguddio iddo. 28Dowch ataf bawb sy’n lluddedig a llwythog, a rhoddaf i chwi orffwys. 29Cymerwch fy iau arnoch a dysgwch gennyf, canys#11:29 Neu, mai addfwyn ydwyf a gostyngedig o galon, a chewch orffwystra i’ch eneidiau: 30canys fy iau sydd esmwyth a’m baich yn ysgafn.”
انتخاب شده:
Mathew 11: CUG
هایلایت
به اشتراک گذاشتن
کپی

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
© Urdd y Graddedigion, Prifysgol Cymru 1945
© Guild of Graduates, University of Wales 1945