Amos 5

5
1Clywch y gair hwn a ddygaf yn farwnad amdanoch, Dŷ Israel,
2Cwympodd y wyry Israel,
Ni chyfyd mwy;
Gadawyd hi ar ei llawr,
Nid oes a’i cyfyd.
3Canys fel hyn y dywed fy Arglwydd Iafe,
“Y ddinas a aeth allan yn fil
Cant a fydd iddi yn weddill;
A’r hon a aeth allan yn gant
Deg a fydd iddi yn weddill i Dŷ Israel.”
4Canys fel hyn y dywed Iafe wrth Dŷ Israel,
“Ceisiwch fi a byw fyddwch,
5Ac na cheisiwch Fethel,
Na ddeuwch i Gilgal chwaith,
Ac nac ewch drosodd i Feerseba,
Canys diau yr â Gilgal yn gaethglud,
A Bethel a fydd yn anwiredd.”
6Ceisiwch Iafe, a byw fyddwch,
Rhag iddo ruthro fel tân, Dŷ Ioseff,
Ac ysu fel na bo ddiffoddydd i Fethel —
7Chwi sy’n troi barn yn wermod,
A bwrw cyfiawnder i’r ddaear.
8Gwneuthurwr Pleiades ac Orion,
Ac y sy’n troi tywyllwch dudew yn fore,
A thywyllu dydd yn nos;
Ac y sy’n galw ar ddyfroedd y môr,
A’u tywallt ar wyneb y ddaear,
Iafe yw ei enw.
9Yr hwn sy’n fflachio difrod ar y cryf,
Ac yn dwyn#5:9 Ac yn dwyn Felly LXX; Heb. A daw difrod ar y gaer.
10Casânt a geryddo yn y porth,
A ffieiddiant a lefaro wir.
11Am hynny, oherwydd mathru ohonoch y gwan,
A mynnu grawn yn anrheg ganddo,
Adeiladasoch dai o gerrig nadd,
Ond ni chewch drigo ynddynt;
Planasoch winllannoedd dymunol,
Ond ni chewch yfed eu gwin.
12Canys gwybûm mai aml eich troseddau,
A lluosog eich pechodau —
Chwi sy’n blino’r cyfiawn,
Yn derbyn llygrwobr,
A throi heibio’r tlodion yn y porth.
13Am hynny y bydd y cyfiawn yn ddistaw yr amser hwnnw,
Canys amser drwg yw.
14Ceisiwch dda, ac nid drwg,
Fel y boch fyw,
Ac y bo felly Iafe, Duw lluoedd, gyda chwi,
Megis y dywedwch.
15Casewch ddrwg a cherwch dda,
A sefydlwch farn yn y porth;
Ysgatfydd y trugarha Iafe, Duw lluoedd,
Wrth weddill Ioseff.
16Am hynny fel hyn y dywed Iafe, Duw lluoedd, fy Arglwydd,
“Ym mhob maes y bydd alaeth,
Ac yn yr holl heolydd dywedant Och! Och!
A galwant yr aradwr i alar,
Ac am alaeth gan y rhai a fedr alarnad.
17Ac yn yr holl winllannoedd y bydd alaeth,
Canys tramwyaf drwy dy ganol.”
Medd Iafe.
18A! y rhai sy’n chwennych dydd Iafe,
Pa les fydd dydd Iafe i chwi?
Tywyllwch yw hwnnw ac nid goleuni.
19Megis pe ffoai un rhag llew,
Ac arth yn ei gyfarfod;
Neu ddyfod i’r tŷ a phwyso ’i law ar y pared,
A sarff yn ei frathu.
20Onid tywyllwch yw dydd Iafe, ac nid goleuni?
Ie, dudew ac heb lewych arno.
21“Caseais, dirmygais eich pererindodau,
Ac nid ymhyfrydaf yn eich cymanfaoedd;
22Canys pan offrymoch imi boeth-offrymau
A’ch bwyd-offrymau, ni byddaf fodlon,
Ac ar hedd-offrwm eich pasgedigion nid edrychaf.
23Bwrw ymaith oddiwrthyf sŵn dy gerddi,
Am na wrandawaf ar beroriaeth dy nablau,
24Eithr treigled barn fel dwfr,
A chyfiawnder fel nant ddihysbydd.
25A ddygasoch imi aberthau ac offrwm
Yn yr anialwch ddeugain mlynedd, Dŷ Israel?
26Am i chwi gludo Siccwth eich brenin,
A Chiwn eich seren-dduw,
Eich delwau, y rhai a wnaethoch i chwi,
27Mi a’ch caethgludaf chwi tu hwnt i Ddamascus.”
Medd Iafe, Duw lluoedd yw ei enw.

انتخاب شده:

Amos 5: CUG

های‌لایت

به اشتراک گذاشتن

کپی

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید