Luc 11

11
Pen. xj.
Ef yn dyscu ir discipulon weddio, Ef yn tavlu allan gythreul Ac yn ceryddu y Pharisayeit cablgar. Ef yn gadu y gerenydd ysprydawl yn vwy rhagorawl. Hwy yn erchi argoelon ac arwyddon. Ef yn bwyta y gyd a’r Pharisaieit, ac yn beio ar ffuc sancteiddruyð y Pharysai, y Gwyr‐Llen, ar Hipocriteit.
1A’ darvu, val yr oeð ef yn gweddiaw mewn #11:1 * ryw, vnnep lle, pan peidiawdd, y dyvot nebun oei ðiscipulō wrthaw, Arglwyð, dysc i ni weddiaw, megis ac y dyscawdd Ioan ei ddisipulon yntef. 2Ac ef a ðyuot wrthynt, Pan weddioch chvvi, dywedwch, Ein tad yr hwn yw‐ti yn y nefoedd, sancteiddier dy Enw: Dauet dy deyrnas: Gwneler dy ’wyllys #11:2 arys ef yn y ddaiar megis y mae yn y nef: 3Ein bara beunyddiol dyrho i ni #11:3 * beunydd, bop dydddros heddyvv: 4A’ maddae i ni ein pechotae: canys nyni a vaddeuwn i bop #11:4 vndyn #11:4 * ydd ym ni yn dylu iddosy yn ein dled ni: Ac nac arwein ni #11:4 ymprovedigaethi temptation: eythyr rhyddha ni rac drwc.
5Hefyt, ef a ddyuot wrthynt, Pwy o hanoch a vyð iddaw #11:5 * garwr, ffrindgar, ac a el attaw am haner nos, ac a ddywait wrthaw, Y car, Moes i mi yn echwyn dair torth. 6Can ys carvvr i mi a ddaech #11:6 * wrth ymddaithy ar y ffordd ataf, ac nyd oes genyf ddim y’w ddodi geyr ei vrō: 7ac ef o ddymywn atepai, ac a ddywedei, Na volesta ddim hanof: y mae ’r drws #11:7 yrowanynawr yn‐gayad, a’m plant y gyd a mi yn y gwely: ny ’allaf #11:7 * godygwnnu ai’ rhoddy yty. 8Dywedaf wrthych, #11:8 er nas codeicyd nas cwnnei ef a’ rroi iddaw, o bleit y vod ef yn gar iddo, eto yn sicr am ei #11:8 * gwyn, ddigywilyðer, dyvalderdaerdeb, e gyfodei, ac a roei iddaw gynniner a vyddei arno y hesiae. 9A’ mi a ddywedaf wrthych, Govynnwch, ac ei rhoðir y-chwy: caisiwch, a’ cheffwch: #11:9 ffustwchcurwch, ac agorir y-chwy. 10Can ys pop vn a’ ovyn, a dderbyn: a’ hwn a gais, a gaiff: ac i hwn a guro ir a gorir. 11A’s govyn map vara gan yr vn o hanoch ysy dad, a rydd ef iddo #11:11 * garecvaen? ne a’s gofyn ef byscodyn, ai yn lle pyscodyn y rydd ef #11:11 neidrsarph i ddaw? 12Neu a gofyn ef wi, a rydd ef iddo scorpion? 13A’s chvvi chwi gan hyny yr ei ych ddrwcion, a #11:13 * wyddochvedrwch roi rhoddion da i’ch plant, pa veint mwy y bydd i’ch Tad nefawl roddy yr Yspryt glan ir ei eu govynan #11:13 * ganthawyðo?
Yr Euangel y trydydd Sul yn y Grawys.
14¶ Yno y bwriawdd ef gythrael allan yr hwn oeð yn vut: a gwedy ir cythrael vyn’d allan #11:14 y dyuotyr ymadroddawdd y mudan, ac y rhyueddawdd y populoedd, 15A’r ei o hanynt, a ddywedesant, Trwy Beelzebub y pennaf o’r cythraelieit y mae ef yn bwrw allan gythraelieit. 16Ac yr eill er ei brovi ef, a gaisiesant gantaw arwydd o’r nef. 17Ac ef gan wybot ei meddiliae, a ddyvot wrthynt, Pop teyrnas ’ohanedic #11:17 yn erbynoei mewn ehun, a #11:17 * anreithir, a ðestrowirdiffaithir, a’ thuy rhanedic yny erbyn ehun a gwympa. 18Ac ad yw Satā yn rhanedic yn y erbyn ehun, pa wedd y saif y deyrnas ef? can y chwi ddywedyt vy‐bot yn bwrw allan gythraeliait trwy Beelzebub. 19Ac a’d yw vi yn bwrw allā gythraulieit trwy Veelzebub trwy bwy y mae eich plāt chwi yn eu bwrw allan? Am hynny y byddant wy yn varnwyr arnoch. 20Eithr a’s myvi trwy #11:20 nerth, powervys Duw ’sy ’n bwrw allan gythraulieit, diamau ddyvot o deyrnas Duw atoch. 21Pan ’orchatwo cadarn yn arvawc ei #11:21 * duy, lysnauadd, cymeint ac a vedd ef, ys y mewn #11:21 diogelrwyddheddwch. 22Eithyr pan ddel arnaw a vo cadarnach nac ef, a’ ei #11:22 * orvot’orchfygy, ef ddwc y arnaw ei oll arvae yn yr ei ydd oedd ef yn ymddiriet, ac a ran yr yspail. 23Yr #11:23 nebhwn nid yw gyd a mi, ys ydd im erbyn: a’r hwn ny chascla gyd a mi, goyscary y mae. 24Pan el yr yspryt aflan allan o ddyn, e rotia rhyt lleodd sychion, gan gaisiaw llonyddwch: a’ pryd na’s caffo, ef a ddywait, Mi ymchwelaf im tuy or lle y daethum allan, 25a’ phan ddel, ef ei caiff wedy ’r yscupo a’i drwsiaw. 26Yno ydd aa ef, ac a gymer gyd ag ef saith yspryt eraill gwaeth nag ef ehun: ac y aant y mewn, ac a drigant ynow, ac velly y byð diweddiat y dyn hwn yn waeth no ei ddechraeat. 27Ac e ddarvu ac ef yn dywedyt y pethae hyn, rryw wreic o’r tyrva a gyvodes ei lleverydd, ac a ddyvot wrtro, Gwyn ei vyt y groth ath #11:27 * dducarweddawdd, a’r bronnae a sugnaist. 28Ac yntef a ddyvot, Ie #11:28 * Yn hytrachychre #11:28 dedwyð ywgwyn ei byt yr ei a glywant ’air Duw, ac ei catwant.
29A’ gwedy ir populoedd ymdyrru yn‐cyt, y dechreuawdd ef ddywedyt, Cenedl #11:29 * drwc, enwirysceler yw hon: ceisio #11:29 sein, arwydd, argoelsygn y maent, ac ny’s rhoir vn yddynt, anyd sign Ionas y Prophwyt. 30Can ys mal y bu Ionas yn sign ir Niniveit, velly y bydd Map y dyn i’r genetleth hon. 31Brēhines y Deheu a gyvyt ym‐barn, y gyd a gwyr y genetleth hō, ac y #11:31 * ddienyddabarn wy yn euoc: can ys hi ddaeth o #11:31 ffinae, oraedervynae eithav y ðayar y glywet doethynep Selef, #11:31 * ac welea’ nycha vn mwy na Selef y sy yman. 32Gwyr Niniue a godant ym‐barn y gyd a’r genetleth hon, ac y barn hi‐yn‐euoc: canys wy a gymersōt etiveirwch wrth precethiat Ionas: a’ nycha #11:32 * bethvn mwy na Ionas y sy yman.
33Nyd enyn neb ganwyll a’i dodi #11:33 ynghuddyn‐cudd, nac y dan #11:33 * tel, hob, bwsielvail: eithyr ar ganwyllbren, val y gallo yr ei a ddel y mywn, weled y llewych. 34#11:34 GoleuadCanwyll y corph yw’r llygat: can hyny pan vo dy lygat yn #11:34 * sengl, ddiplicsympl, yno y mae dy oll corph yn olae: eithr #11:34 tra, a’span vo dy lygat yn ðrwc, yno y bydd dy corph yn dywyl’. 35#11:35 * Synna, Goachel, MogelYstyria gan hyny, rac ir goleuni y sy ynot, vot yn dywyllwch. 36Wrth hyny a’s dy oll corph vydd golau eb iddo vn ran dywyll, yno byð e golau #11:36 y cwbylol’, megis gan ith oleuaci cannwyll di a’r #11:36 * llewychdiscleirdep.
37Ac val ydd oedd ef yn ymadrodd, yr atolygawdd #11:37 nebryw Pharisai yddaw giniawa y gyd ac ef: ac ef aeth y mywn, ac a eisttddawdd y vwyta. 38A’ phan welawdd y Pharisai, y rhyveddawdd can nad yn gyntaf yr ymolchesei ef o vlayn ciniaw. 39A’r Arglwydd a ddyuot wrthaw, Yn ddiau chwchwi ’r Pharisaieit a #11:39 * lanhewchgerthwch y tu allan ir #11:39 phiolcwpan, a’r ddescil: a’r tu mywn ywch ’sy yn llawn o drais a #11:39 * scelerder enwiredddrigioni. 40#11:40 Chwychwi ffolieitA ynvytion, anyd yr hwn a wnaeth hyn ’sy oy al’ā, a wnaeth hyn ’sy oddy mewn hefyt? 41Can hyny rhowch eleesen o’r pethae ys ydd o y mewn, a’ nycha pop peth oll vydd yn ’lan y chwy. 42Eithyr gwae chwy chwi y Pharisaieit: can ys‐chvvi degymwch y myntys a’ #11:42 * ruwrut, a’ phop llyseuyn ac ewch dros varn a’ chariat Duw: y pethae hyn a #11:42 sy ddir, sy raitddylit ei gwnauthur, ac #11:42 * edit y llaill eb wneythurna vaddeuit y llaill. 43Gwae chvvy chwi ’r Pharisaiait: can ys-cerwch yr eisteddleoedd vchaf yn y Synagogae, #11:43 ac amerchima’ chael cyfarch‐gwell yvvch yn y marchnatoedd. 44Gwae chvvy chwi’r Gwyr‐llē a’r Pharisaieit, hypocriteit, can ys ych bot megis #11:44 bedrodae beddaemonwenti a’r n’ymðangosant, a’r dynion a’ rodian arnynt, ny wyddan y vvrthynt. 45Yno yr atepawdd vn #11:45 * or Cyfreithwyro esponwyr y Ddeddyf, ac addyuot wrthaw, Y dyscawdr, can dywedyt hyn ydd wyt in #11:45 sarhaygwarthay nini hefyd. 46Ac ef a ddynot, Gwae chvvychwi hefyt, #11:46 * ladmerieitesponwyr y Ddeddyf: can y chwi lwythao dynion a’#11:46 berchiaellwythae anhawdd‐ei‐dwyn, a’ chvvitheu ny chyfwrddwch #11:46 * ary llwythae ac vn o’ch bysedd. 47Gwae chvyy chwi: can ych bot yn adailiat #11:47 beddaemonwenti y Prophwyti a’ch tadae y lladdodd wy 48#11:48 * DwerDiau y testolaethwchvvi ac y cydsynniwch a gweithredoedd eich tadae: can ydydntvvy y lladd wy ac y chwitheu a dailiat y #11:48 beddeumonwenni hwy. 49Am hynny y dywedei doethinep Duw, Anvonaf atyn Brophwyti, ac Apostolon, ac o hanynt y lladdant ’rei, ac ereill erlidiant, 50y’n y bo i ’waet y Prophwyti, a #11:50 gollwyt elyngwytddinewyt o #11:50 * wnaethuriatsailiat y byt, gael ei ’ovyn y gan y genedlaeth hon, 51o waet Abel yd waed Zacharias, yr hwn a las yn cyf rwng yr alltar ar Templ: yn ddian y dywedaf wrthych, ei govynnir y gan y genetlaeth hon. 52Gwae chvvychwi #11:52 es ponwyr‐y‐Ddeddyf: can ys dducesoch ymaith #11:52 * allweddegoriat y #11:52 gwybodaethgwybyddiaeth: nyd aethoch y mywn ychunain, a’r ei oedd yn dyuot y mywn, a ’oharðesoch. 53Ac ef yn dywedyt y pethae hyn wrthyn, y dechreuawdd y Gwyr‐llen a’r Pharisaiait y #11:53 * ðirio arnoddyludaw ef yn #11:53 dostðrud, a’ ei ðenu y ymadrodd am llawer o bethae, 54gan y gynllwyn ef, a’ chaisiaw hela ryw beth o y ben ef, er cahel o hanynt achwyn arnaw.

انتخاب شده:

Luc 11: SBY1567

های‌لایت

به اشتراک گذاشتن

کپی

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید