Genesis 9
9
1 Duw yn bendithio Noa; 4 yn gwahardd gwaed a llofruddiaeth. 9 Cyfamod Duw, 13 a arwyddoceir trwy yr enfys. 18 Noa yn llenwi y byd, 20 yn plannu gwinllan, 21 yn meddwi, ac yn cael ei watwar gan ei fab: 25 yn melltithio Canaan, 26 yn bendithio Sem, 27 yn gweddïo dros Jaffeth, 29 ac yn marw.
1 Duw hefyd a fendithiodd Noa a’i feibion, ac a ddywedodd wrthynt, #Pen 1:28; 8:17Ffrwythwch a lluosogwch, a llenwch y ddaear. 2Eich ofn hefyd a’ch arswyd fydd ar holl fwystfilod y ddaear, ac ar holl ehediaid y nefoedd, a’r hyn oll a ymsymudo ar y ddaear, ac ar holl bysgod y môr; yn eich llaw chwi y rhoddwyd hwynt. 3Pob ymsymudydd yr hwn sydd fyw, fydd i chwi yn fwyd: fel #Pen 1:29y gwyrdd lysieuyn y rhoddais i chwi bob dim.
4 #
Lef 17:14; 19:26; Deut 12:23; Act 15:20 Er hynny na fwytewch gig ynghyd â’i einioes, sef ei waed. 5Ac yn ddiau gwaed eich einioes chwithau hefyd a ofynnaf fi: #Exod 21:28o law pob bwystfil y gofynnaf ef; ac #Salm 9:12o law dyn, o law pob brawd iddo y gofynnaf einioes dyn. 6A #Lef 24:17; Mat 26:52; Dat 13:10dywallto waed dyn, trwy ddyn y tywelltir ei waed yntau, oherwydd ar #Pen 1:27ddelw Duw y gwnaeth efe ddyn. 7Ond chwychwi, #Pen 1:28; 8:17ffrwythwch ac amlhewch epiliwch ar y ddaear, a lluosogwch ynddi.
8A Duw a lefarodd wrth Noa, ac wrth ei feibion gydag ef, gan ddywedyd, 9Ac wele #Esa 54:9myfi, ie myfi, ydwyf yn cadarnhau fy nghyfamod â chwi, ac â’ch had ar eich ôl chwi; 10Ac â phob peth byw yr hwn sydd gyda chwi, â’r ehediaid, â’r anifeiliaid, ac â phob bwystfil y tir gyda chwi, o’r rhai oll sydd yn myned allan o’r arch, hyd holl fwystfilod y ddaear. 11A mi a gadarnhaf fy nghyfamod â chwi, ac ni thorrir ymaith bob cnawd mwy gan y dwfr dilyw, ac ni bydd dilyw mwy i ddifetha’r ddaear. 12A Duw a ddywedodd, Dyma arwydd y cyfamod, yr hwn yr ydwyf fi yn ei roddi rhyngof fi a chwi, ac a phob peth byw a’r y sydd gyda chwi, tros oesoedd tragwyddol: 13Fy mwa a roddais yn y cwmwl, ac efe a fydd yn arwydd cyfamod rhyngof fi a’r ddaear. 14A bydd, pan godwyf gwmwl ar y ddaear, yr ymddengys y bwa yn y cwmwl. 15A mi a gofiaf fy nghyfamod, yr hwn sydd rhyngof fi a chwi, ac a phob peth byw o bob cnawd: ac ni bydd y dyfroedd yn ddilyw mwy, i ddifetha pob cnawd. 16A’r bwa a fydd yn y cwmwl; a mi a edrychaf arno ef, i gofio’r cyfamod tragwyddol rhwng Duw a phob peth byw, o bob cnawd a’r y sydd ar y ddaear. 17A Duw a ddywedodd wrth Noa, Dyma arwydd y cyfamod, yr hwn a gadarnheais rhyngof fi a phob cnawd a’r y sydd ar y ddaear.
18A #Pen 6:10meibion Noa y rhai a ddaeth allan o’r arch, oedd Sem, Cham, a Jaffeth; a Cham oedd dad #9:18 Heb. Chenaan.Canaan. 19Y tri hyn oedd feibion Noa: ac o’r rhai hyn yr hiliwyd yr holl ddaear. 20A Noa a ddechreuodd fod yn llafurwr, ac a blannodd winllan: 21Ac a yfodd o’r gwin, ac a feddwodd, ac a ymnoethodd yng nghanol ei babell. 22A Cham tad Canaan a welodd noethni ei dad, ac a fynegodd i’w ddau frawd allan. 23A chymerodd Sem a Jaffeth ddilledyn, ac a’i gosodasant ar eu hysgwyddau ill dau, ac a gerddasant yn wysg eu cefn, ac a orchuddiasant noethni eu tad; a’u hwynebau yn ôl, fel na welent noethni eu tad. 24A Noa a ddeffrôdd o’i win, ac a wybu beth a wnaethai ei fab ieuangaf iddo. 25Ac efe a ddywedodd, Melltigedig fyddo Canaan; gwas gweision i’w frodyr fydd. 26Ac efe a ddywedodd, Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Sem; a Chanaan fydd was #9:26 iddynt hwy.iddo ef. 27Duw a helaetha ar Jaffeth, ac efe a breswylia ym mhebyll Sem; a Chanaan fydd was iddo ef.
28A Noa a fu fyw wedi’r dilyw dri chan mlynedd a deng mlynedd a deugain. 29Felly holl ddyddiau Noa oedd naw can mlynedd a deng mlynedd a deugain; ac efe a fu farw.
Actualmente seleccionado:
Genesis 9: BWM1955C
Destacar
Compartir
Copiar
¿Quieres guardar tus resaltados en todos tus dispositivos? Regístrate o Inicia sesión
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society