Logo de YouVersion
Ícono Búsqueda

Matthew Lefi 8

8
DOSBARTH IV.
Amrai Wyrthiau.
1-4Gwedi iddo ddyfod i waered o’r mynydd, yn cael ei ddylyn gàn dyrfa fawr, un gwahanglwyfus á ddaeth, a chàn ymgrymu gèr ei fron ef, á ddywedodd, Sỳr, os mỳni, ti á elli fy nglanâu. Iesu á estynodd ei law, ac á gyfhyrddodd ag ef, gàn ddywedyd, Mỳnaf, bydd lân. Yn ddiannod efe á iachawyd o’i wahanglwyf. Yna Iesu á ddywedodd wrtho, Gwel na ddywedych wrth neb; ond dos, dangos dy hun i’r offeiriad, ac offryma y rhodd à bènodwyd gàn Foses, èr hysbysu yr iachâad i’r bobl.
5-13Gwedi dyfod o hono i fewn i Gapernäum, canwriad á’i cyfarchai ef gyda’r deisyfiad hwn, Sỳr, mae fy ngwas yn gorwedd gartref yn glaf, yn cael ei flino yn dost gàn barlys. Iesu á atebodd, mi á âf ac á’i hiachâf ef. Y canwriad gàn ateb, á ddywedodd, Sỳr, nid ydwyf deilwng i ddyfod o honot dàn fy nghronglwyd; yn unig dywed y gair, a’m gwas á iachêir. Canys myfinnau, yr hwn wyf fy hunan dàn awdurdod, â chenyf filwyr danaf, á ddywedaf wrth un, Dos, ac efe á â; wrth arall, Dyred, ac efe á ddaw; ac wrth fy ngwas, Gwna hyn, ac efe á’i gwna. Iesu gwedi clywed hyn, á sỳnodd, ac á ddywedodd wrth y rhai oedd yn canlyn, Yn wir, yr wyf yn dywedyd i chwi, hyd yn nod yn Isräel ni chefais gymaint ffydd. Ond yr wyf yn sicrâu i chwi, y daw llawer o’r dwyrain, ac o’r gorllewin, ac á osodir wrth y bwrdd gydag Abraham, Isaac, a Iacob, yn nheyrnas y nefoedd, tra y teflir plant y deyrnas i’r tywyllwch eithaf, lle y bydd wylofain a rhincian dannedd. Yna y dywedodd Iesu wrth y canwriad, Dos adref; bydded i ti yn ol dy ffydd. Ei was á iachawyd y cythrym hwnw.
14-15Yna Iesu gwedi dyfod i dŷ Pedr, á welai ei fam-yn‐nghyfraith ef yn gorwedd yn glaf o’r dwymyn, a gwedi cyfhwrdd â’i llaw hi, y dwymyn á’i gadawodd; a hi á gododd ac á’i harfollodd ef.
16-17Yn yr hwyr, hwy á ddygasant ato lawer o gythreuligion, ac efe á fwriodd yr ysbrydion allan â gair, ac á iachâodd yr holl gleifion; drwy hyn yn gwireddu dywediad y Proffwyd Isaia, “Efe ei hun á gymerodd ymaith ein gwendidau, ac á ddyg ein trallodau.”
18-20Iesu, wrth ganfod y fath dyrfëydd o’i amgylch, á roddodd orchymyn i fyned drosodd i’r làn arall. Yn y cyfamser, ysgrifenydd á’i cyfarchodd ef, gàn ddywedyd, Rabbi, mi á’th ganlynaf i ba le bynag yr elych. Iesu á atebodd, Y mae gàn y llwynogod ffauau, a chàn adar yr awyr ddiddosfëydd, ond gàn Fab y Dyn nid oes le i roddi ei ben i lawr.
21-22Arall, un o’i ddysgyblion, á ddywedodd wrtho, Feistr, gad i mi fyned yn gyntaf, a chladdu fy nhad. Iesu á atebodd, Canlyn fi, a gad i’r meirw gladdu eu meirw.
23-27Yna gwedi iddo fyned i’r llong, ei ddysgyblion, á’i canlynasant ef. Yn fuan wedi, cyfododd y fath dymhestl yn y môr, nes y gorchuddiwyd y llong gàn y tònau. Ond gàn ei fod ef yn cysgu, y dysgyblion á ddaethant, ac á’i deffroisant ef, gàn ddywedyd, Achub ni Feistr, yr ydym àr ddarfod am danom, Yntau á atebodd, Paham yr ydych yn ofnog, O chwi rai anymddiriedus? Yna y cyfododd efe, a gwedi gorchymyn i’r gwyntoedd a’r môr, tawelwch mawr á ganlynodd; fel y llefodd pawb allan gyda rhyfeddod, Pa fath un yw hwn, yr hwn y mae hyd yn nod y gwyntoedd a’r môr yn ufyddâu iddo!
28-34Gwedi dyfod o hono i’r làn arall, i wlad y Gadarëaid, dau gythreulig á gyfarfuant ag ef, yn dyfod allan o’r #8:28 Beddadeiliau, monuments.gwyddfeddi, mòr ffyrnig, fel na feiddiai neb fyned y ffordd hòno. Y rhai hyn á lefasant yn ddiattreg, gàn ddywedyd, Beth sydd à wnelych â ni, Fab Duw? A ddaethost ti yma i’n poeni ni cyn yr amser? Ac yr oedd yno, ryw bellder oddwrthynt, genfaint fawr o foch yn pori. A’r ellyllon á ddeisyfasant arno, gàn ddywedyd, Os bwri ni allan, gad i ni fyned i’r genfaint foch. Yntau á atebodd, Ewch. A gwedi eu bwrw allan, hwy á aethant i’r moch; àr hyny yr holl genfaint á ruthrodd i waered dros y dibyn i’r môr, ac á drengasant yn y dyfroedd. Yna y mychiaid á ffoisant i’r ddinas, ac á adroddasant bob peth, a pha beth á ddygwyddasai i’r cythreuligion. Yn ddiattreg yr holl ddinas á aeth allan i gyfarfod ag Iesu, a gwedi ei weled ef, á ddeisyfasant arno ymadael o’u tiriogaeth.

Actualmente seleccionado:

Matthew Lefi 8: CJW

Destacar

Compartir

Copiar

None

¿Quieres guardar tus resaltados en todos tus dispositivos? Regístrate o Inicia sesión