Logo de YouVersion
Icono de búsqueda

Rhufeiniaid 5

5
1Wedi ein cyfiawnhau, gan hyny, trwy ffydd, bydded heddwch genym gyda Duw, trwy ein Harglwydd Iesu Grist, 2trwy’r Hwn y cawsom hefyd ein dyfodfa, trwy ffydd, i’r gras hwn, yn yr hwn yr ydym yn sefyll, a bydded i ni orfoleddu yn ngobaith gogoniant Duw; 3ac nid hyny yn unig, eithr bydded i ni orfoleddu yn ein gorthrymderau hefyd, gan wybod fod gorthrymder yn gweithredu dioddefgarwch; 4a dioddefgarwch, brofiad; a phrofiad, obaith; 5a gobaith ni chywilyddia, gan fod cariad Duw wedi ei dywallt allan yn ein calonnau trwy’r Yspryd Glân yr Hwn a roddwyd i ni. 6Canys Crist, a ni etto yn weiniaid, mewn pryd, tros annuwiolion y bu farw; 7canys braidd tros un cyfiawn y bydd neb farw, canys tros y dyn da, hwyrach hyd yn oed y beiddiai un farw. 8A chanmol Ei gariad Ei hun tuag attom y mae Duw, gan mai tra etto pechaduriaid oeddym trosom y bu Crist farw. 9Llawer mwy, gan hyny, wedi ein cyfiawnhau yn awr trwy Ei waed Ef, y byddwn gadwedig, trwyddo Ef, oddiwrth y digofaint. 10Canys os pan yn elynion y’n cymmodwyd â Duw trwy farwolaeth Ei Fab, llawer mwy, wedi ein cymmodi, y byddwn gadwedig trwy Ei fywyd Ef; 11ac nid hyny yn unig, eithr gorfoleddu hefyd yr ydym yn Nuw trwy ein Harglwydd Iesu Grist, trwy yr Hwn yn awr y cawsom y cymmod.
12Am hyny, fel trwy un dyn y bu i bechod ddyfod i mewn i’r byd; a thrwy bechod, farwolaeth; ac felly ar bob dyn yr aeth marwolaeth, 13o herwydd i bawb bechu, canys hyd y Gyfraith yr oedd pechod yn y byd, a phechod ni chyfrifir pan nad oes cyfraith; 14eithr teyrnasodd marwolaeth o Adam hyd Mosheh, hyd yn oed tros y rhai na phechasant yn ol cyffelybiaeth trosedd Adam, yr hwn sydd gynllun yr Hwn oedd ar ddyfod. 15Eithr nid fel y camwedd, felly y dawn hefyd; canys os trwy gamwedd yr un y bu llawer feirw, llawer mwy y bu gras Duw a’r rhodd trwy ras yr un Dyn Iesu Grist mewn gorlawnder i laweroedd. 16Ac nid fel trwy un a bechodd y mae’r rhodd, canys y farn oedd o un i gondemniad, ond y dawn o lawer o gamweddau i gyfiawnhad. 17Canys os trwy gamwedd yr un y bu i farwolaeth deyrnasu trwy yr un, llawer mwy y rhai sy’n derbyn y gorlawnder o ras ac o rodd cyfiawnder, a deyrnasant mewn bywyd trwy yr Un, Iesu Grist. 18Gan hyny, ynte, fel trwy un camwedd y bu ar bob dyn i gondemniad, felly hefyd trwy un gwaith cyfiawn y bu ar bob dyn i gyfiawnhad bywyd; 19canys fel trwy anufudd-dod yr un dyn pechaduriaid y gwnaethpwyd y llawer, felly hefyd trwy ufudd-dod yr Un, 20cyfiawnion y gwneir y llawer. A’r Gyfraith hefyd a ddaeth i mewn fel yr amlhai y camwedd; ond lle yr amlhaodd pechod, rhagor mewn gorlawnder yr oedd gras; 21er mwyn fel y teyrnasodd pechod ym marwolaeth, felly hefyd y byddai i ras deyrnasu, trwy gyfiawnder, i fywyd tragywyddol trwy Iesu Grist ein Harglwydd.

Actualmente seleccionado:

Rhufeiniaid 5: CTB

Destacar

Compartir

Copiar

None

¿Quieres tener guardados todos tus destacados en todos tus dispositivos? Regístrate o inicia sesión