Logo de YouVersion
Icono de búsqueda

Rhufeiniaid 4

4
1Pa beth, gan hyny, a ddywedwn y cafodd Abraham ein cyn-dad yn ol y cnawd? 2Canys, os Abraham trwy weithredoedd a gyfiawnhawyd, y mae ganddo fatter ymffrost, 3eithr nid tua Duw, canys pa beth y mae’r Ysgrythyr yn ei ddweud? “Credodd Abraham i Dduw, a chyfrifwyd iddo yn gyfiawnder.” 4Ac i’r hwn sy’n gweithio, y gwobr ni chyfrifir o ras, eithr o ddyled; 5ond i’r hwn nad yw yn gweithio, ond yn credu yn yr Hwn sy’n cyfiawnhau yr annuwiol, 6cyfrifir ei ffydd ef yn gyfiawnder: fel y mae Dafydd hefyd yn adrodd dedwyddwch y dyn i’r hwn y mae Duw yn cyfrif cyfiawnder yn wahan oddiwrth weithredoedd,
7“Dedwydd y rhai y maddeuwyd eu hanghyfreithderau,
Ac y gorchuddiwyd eu pechodau;
8Dedwydd y gŵr i’r hwn ni chyfrif Iehofah bechod.”
9Y dedwyddwch hwn, gan hyny, ai ar yr amdorriad y mae, neu ar y di-amdorriad hefyd? Canys dywedwn,
10Cyfrifwyd ei ffydd i Abraham yn gyfiawnder. Pa fodd, gan hyny, y cyfrifwyd hi? Ai pan yn yr amdorriad yr ydoedd, neu yn y di-amdorriad? Nid yn yr amdorriad, eithr yn y di-amdorriad. 11Ac arwydd yr amdorriad a gafodd efe, yn sel cyfiawnder ei ffydd, yr hon oedd yn y di-amdorriad, fel y byddai efe yn dad pawb a gredent, er mewn di-amdorriad, 12fel y cyfrifer cyfiawnder iddynt; ac yn dad yr amdorriad, i’r rhai sydd nid yn unig o’r amdorriad, eithr sydd hefyd yn rhodio yn olion ffydd ein tad Abraham tra yn y di-amdorriad, 13Canys nid trwy’r Gyfraith yr oedd yr addewid i Abraham, neu i’w had, y byddai yn etifedd y byd, eithr trwy gyfiawnder ffydd. 14Canys os y rhai sydd o’r Gyfraith ydynt etifeddion, gwaghawyd ffydd, a dirymwyd yr addewid: 15canys y Gyfraith, digofaint a weithia hi; ond lle nad oes Cyfraith nid oes trosedd. 16O herwydd hyn o ffydd y mae, fel yn ol gras y byddo, fel y byddo’r addewid yn ddiymmod i’r holl had, nid i’r hwn sydd yn unig o’r Gyfraith, eithr hefyd i’r hwn sydd o ffydd Abraham, 17yr hwn yw ein tad ni oll (fel yr ysgrifenwyd, “Tad llawer o genhedloedd y’th wnaethum,”) ger bron yr Hwn y credodd efe Iddo, sef Duw y sy’n bywhau y meirw, ac yn galw y pethau nad ydynt fel pe baent; 18yr hwn yn erbyn gobaith, dan obaith a gredodd, fel yr elai efe yn dad llawer o genhedloedd, yn ol yr hyn a ddywedasid, “Felly y bydd dy had.” 19Ac heb fod yn wan mewn ffydd, ystyriodd ei gorph ei hun yn awr megis wedi ei farwhau (ac efe ynghylch can mlwydd oed) a marweidd-dra bru Sarah; 20ond tuag at addewid Duw nid ammheuodd trwy anghrediniaeth, eithr nerthwyd ef trwy ffydd, gan roddi gogoniant i Dduw, 21ac yn gwbl sicr ganddo, mai yr hyn a addawsai Efe, Ei fod hefyd yn abl i’w wneuthur ef: 22ac am hyny y cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder. 23Ac nid ysgrifenwyd er ei fwyn ef yn unig, “Y cyfrifwyd iddo,” 24eithr er ein mwyn ninnau hefyd, i’r rhai y cyfrifir, y rhai ydym yn credu yn yr Hwn a gyfododd Iesu ein Harglwydd o feirw, 25yr hwn a draddodwyd o achos ein camweddau, ac a gyfodwyd er mwyn ein cyfiawnhad.

Actualmente seleccionado:

Rhufeiniaid 4: CTB

Destacar

Compartir

Copiar

None

¿Quieres tener guardados todos tus destacados en todos tus dispositivos? Regístrate o inicia sesión