Logo de YouVersion
Icono de búsqueda

Rhufeiniaid 3

3
1Pa beth, gan hyny, yw rhagoriaeth yr Iwddew? Neu pa beth yw budd yr amdorriad? 2Llawer ym mhob modd. Yn gyntaf, oblegid yr ymddiriedwyd oraclau Duw iddynt: canys pa beth os di-ffydd oedd rhai? A fydd eu hanghrediniaeth yn gwneuthur ffyddlondeb Duw yn ddirym? 3Na atto Duw; ond bydded Duw yn eirwir, a phob dyn yn gelwyddwr, 4fel yr ysgrifenwyd,
“Fel y’th gyfiawnhaer yn Dy eiriau,
Ac y gorfyddech pan y’th fernir.”
5Ond os ein hanghyfiawnder a ganmol gyfiawnder Duw, pa beth a ddywedwn? Ai anghyfiawn yw Duw, yr Hwn sydd yn dwyn arnom ddigofaint? (Yn ol dyn yr wyf yn dywedyd;) 6Na atto Duw; canys yna, pa fodd y barna Duw y byd? 7Ond os gwirionedd Duw, trwy fy nghelwydd i, a fu helaethach i’w ogoniant Ef, paham yr wyf finnau hefyd mwyach yn cael fy marnu fel pechadur, 8ac na (fel y’n ceblir, ac y dywaid rhai ein bod yn dywedyd,) wnawn y pethau drwg fel y delo y pethau da, y rhai y mae eu condemniad yn gyfiawn.
9Pa beth, gan hyny? A ydym ni yn fwy rhagorol? Ddim o gwbl; canys cyhuddasom o’r blaen yr Iwddewon a’r Groegwyr hefyd o fod, 10bawb o honynt, tan bechod; fel yr ysgrifenwyd,
“Nid oes neb cyfiawn, nid hyd yn oed un;
11Nid oes neb y sy’n deall;
Nid oes neb y sy’n ceisio Duw.
12Yr oll a wyrasant, ynghyd yr aethant yn anfuddiol,
Nid oes neb yn gwneuthur daioni; nid oes hyd yn oed un.
13Bedd agored yw eu gwddf;
A’u tafodau y gwnaethant ddichell,
Gwenwyn aspiaid sydd dan eu gwefusau.
14Y rhai y mae eu genau yn llawn melldith a chwerwedd.
15Buan yw eu traed i dywallt gwaed;
16Distryw ac adfyd sydd yn eu ffyrdd;
17A ffordd tangnefedd nid adwaenant.
18Nid oes ofn Duw ger bron eu llygaid,”
19Ond gwyddom am gynnifer bethau ag y mae’r Gyfraith yn eu dywedyd, mai wrth y rhai tan y Gyfraith y’u dywaid, fel y bo pob genau wedi ei gau, ac yr elo yr holl fyd dan farn Duw; 20canys trwy weithredoedd y Gyfraith ni chyfiawnheir un cnawd ger Ei fron Ef, canys trwy’r Gyfraith y mae adnabod pechod. 21Ond yn awr, yn wahan oddiwrth y Gyfraith, y mae cyfiawnder Duw wedi ei amlygu a thystiolaeth iddo gan y Gyfraith a’r Prophwydi; 22sef, cyfiawnder Duw trwy ffydd yn Iesu Grist, i bawb y sy’n credu; 23canys nid oes gwahaniaeth, canys pawb a bechasant, 24ac ydynt ar ol am ogoniant Duw, yn cael eu cyfiawnhau yn rhad gan Ei ras Ef trwy’r prynedigaeth sydd yn Nghrist Iesu, 25yr Hwn a osododd Duw yn iawn trwy ffydd, trwy Ei waed Ef, i ddangos Ei gyfiawnder Ef, o achos maddeuant y pechodau a wnaethid o’r blaen, yn nioddefgarwch Duw; 26i ddangos, meddaf, Ei gyfiawnder Ef y pryd hwn, fel y bo Efe yn gyfiawn ac yn cyfiawnhau yr hwn sydd a chanddo ffydd yn yr Iesu. 27Pa le, gan hyny, y mae’r ymffrost? Cauwyd allan. Trwy ba gyfraith? Ai cyfraith gweithredoedd? Nage; eithr trwy gyfraith ffydd. Cyfrifwn, 28gan hyny, y cyfiawnheir dyn trwy ffydd, yn wahan oddiwrth weithredoedd y Gyfraith. 29Ai i’r Iwddewon yn unig y mae Efe yn Dduw? Nage; ond i’r cenhedloedd hefyd; 30ïe, i’r cenhedloedd hefyd, gan mai un yw Duw, yr Hwn a gyfiawnha yr amdorriad trwy ffydd, ac y diamdorriad trwy ffydd. 31Ai dirymu’r Gyfraith yr ydym trwy ffydd? Na atto Duw; eithr sefydlu’r Gyfraith yr ydym.

Actualmente seleccionado:

Rhufeiniaid 3: CTB

Destacar

Compartir

Copiar

None

¿Quieres tener guardados todos tus destacados en todos tus dispositivos? Regístrate o inicia sesión