Rhufeiniaid 15
15
1A dylem ni, y cryfion, ddwyn gwendidau y gweiniaid, ac nid rhyngu ein bodd ein hunain. 2Bydded i bob un o honom ryngu bodd ei gymmydog am yr hyn sy dda er adeiladaeth, 3canys ni fu i Grist ryngu bodd Ei hun, eithr fel yr ysgrifenwyd,
“Gwaradwyddiadau y rhai a’th waradwyddant a syrthiasant arnaf.”
4Canys cynnifer bethau ag a ysgrifenwyd, er addysg i ni yr ysgrifenwyd hwynt, fel trwy amynedd a diddanwch yr Ysgrythyrau y byddem a gobaith genym: 5a Duw yr amynedd a’r diddanwch a roddo i chwi synied yr un peth tuag at eich gilydd yn ol Crist Iesu; 6fel y bo i chwi yn unfryd, o un genau, ogoneddu Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist. 7Gan hyny, derbyniwch eich gilydd fel y bu i Grist eich derbyn chwi, i ogoniant Duw. 8Canys dywedaf y bu i Grist Ei wneud yn weinidog yr amdorriad er mwyn gwirionedd Duw, er mwyn cadarnhau yr addewidion i’r tadau, 9ac y byddai i’r cenhedloedd ogoneddu Duw am Ei drugaredd, fel yr ysgrifenwyd,
“O achos hyn y’th foliannaf ym mhlith y cenhedloedd,
Ac i’th enw y canaf.”
10Ac etto y dywaid,
“Llawenychwch, genhedloedd, ynghyda’i bobl Ef.”
11Ac etto,
“Molwch Iehofah, yr holl genhedloedd,
A chlodfored yr holl bobloedd Ef.”
12Ac etto Eshaiah a ddywaid,
“Bydd gwreiddyn Ieshe,
A’r hwn sy’n cyfodi i lywodraethu’r cenhedloedd;
Ynddo Ef y cenhedloedd a obeithiant.”
13A Duw’r gobaith a’ch llanwo â phob llawenydd a thangnefedd yn eich credu, fel y byddoch orlawn yn eich gobaith yngallu yr Yspryd Glân.
14A pherswadiwyd fi, fy mrodyr, ïe, myfi fy hun, am danoch, eich bod chwi eich hunain yn orlawn o ddaioni, wedi eich llenwi o bob gwybodaeth, yn abl i gynghori eich gilydd hefyd. 15Ond yn fwy hyderus yr ysgrifenais, rhywfaint, attoch, fel yn eich adgoffau, 16o achos y gras a roddwyd i mi gan Dduw i fod o honof yn weinidog Iesu Grist at y cenhedloedd, yn offeiriadu yn efengyl Dduw, fel y byddai offrwm y cenhedloedd yn gymmeradwy, wedi ei sancteiddio gan yr Yspryd Glân. 17Y mae i mi, gan hyny, fy ymffrost yng Nghrist Iesu o ran y pethau tuag at Dduw. 18Canys ni feiddiaf ddywedyd dim o’r pethau na weithredodd Crist trwof, er ufudd-dod y cenhedloedd, mewn gair a gweithred, 19trwy allu arwyddion a rhyfeddodau, trwy allu yr Yspryd Glân, fel y bu i mi o Ierwshalem ac o amgylch hyd Ilyricum, 20lawn-bregethu Efengyl Grist, a chan ymorchestu felly i efengylu, nid lle yr enwyd Crist, fel nad ar sail un arall yr adeiladwn, 21eithr fel yr ysgrifenwyd,
“Gwel y rhai na fynegwyd iddynt am Dano;
Ac y rhai na chlywsant, a ddeallant.”
22Ac o herwydd hyn y’m lluddiwyd lawer gwaith rhag dyfod attoch; 23ond yn awr, heb fod genyf mwyach le yn y gwledydd hyn, ac ag arnaf hiraeth, er’s llawer o flynyddoedd, 24am ddyfod attoch, pa bryd bynnag yr af i’r Hispaen, (canys gobeithiaf eich gweled wrth fyned heibio, ac fy hebrwng genych chwi yno, os byddaf yn gyntaf, 25o ran, wedi fy llenwi o honoch chwi:) ond yn awr myned i Ierwshalem yr wyf, 26gan weinyddu i’r saint, canys gwelwyd yn dda gan Macedonia ac Achaia wneuthur rhyw gydgyfraniad i’r tlodion ymhlith y saint sydd yn Ierwshalem; 27canys gwelwyd yn dda ganddynt, a dyledwyr ydynt iddynt, canys os yn eu pethau ysprydol hwynt y cafodd y cenhedloedd gyfran, dyledwyr ydynt hefyd i weini, mewn pethau cnawdol, iddynt hwy. 28Pan hyn, gan hyny, a orphenwyf, ac wedi selio iddynt y ffrwyth hwn, af ymaith heboch i’r Hispaen; 29a gwn pan ddelwyf attoch, mai yng nghyflawnder bendith Crist y deuaf.
30Ac attolygaf i chwi, frodyr, trwy ein Harglwydd Iesu Grist, a thrwy gariad yr Yspryd, ar gydymdrech o honoch gyda mi yn eich gweddïau drosof at Dduw, 31fel y’m gwareder oddiwth y rhai anufudd yn Iwdea, ac ar i’m gweinidogaeth, yr hon sydd i Ierwshalem, fod yn gymmeradwy gan y saint, 32fel wedi dyfod attoch mewn llawenydd trwy ewyllys Duw y’m cydlonner gyda chwi. 33A Duw’r heddwch fyddo gyda chwi oll. Amen.
Actualmente seleccionado:
Rhufeiniaid 15: CTB
Destacar
Compartir
Copiar

¿Quieres tener guardados todos tus destacados en todos tus dispositivos? Regístrate o inicia sesión
Cyfieithiad Briscoe 1894. Cynhyrchwyd y casgliad digidol hwn gan Gymdeithas y Beibl yn 2020-21.